Symud i'r prif gynnwys
Cwpan Rygbi'r Byd y Merched

Ysgrifennwyd gan Aled Betts

19 Awst 2025

Mae Archif y Wê'r DU yn casglu gwefannau am Gwpan Rygbi'r Byd i Ferched 2025. Un o'r gêmau agoriadol mwyaf disgwyliedig fydd gweld Cymru yn chwarae'r Alban ar 23 Awst yn Stadiwm Gymunedol Salford.

Cynhelir y gystadleuaeth yn Lloegr, ond mae'n werth atgoffa ein hunain fod Cwpan Rygbi'r Byd cyntaf i fenywod wedi'i gynnal yn 1991 yng Nghaerdydd. Wrth edrych yn ôl, mae'n braf gweld sut mae gêm y menywod wedi datblygu. Hefyd gwelir sut mae Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol yn casglu cyhoeddiadau wedi'i chwyldroi mewn cyfnod byr.

Fel gyda thwrnameintiau eraill a gynhelir yn y DU, mae llawer o'r deunydd ar-lein yn cael ei gyhoeddi yn y DU. Mae hyn yn golygu bod gennym ganiatâd i gaffael a chadw gwefannau sy'n gysylltiedig â'r twrnament. Mae hyn oherwydd fod gan y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol hawl i gopïo deunydd a gyhoeddwyd yn y DU o'r rhyngrwyd i'w archifo o dan adnau cyfreithiol.

Mae'r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn adeiladu casgliad sy'n cynnwys gwefannau ar Gwpan Rygbi'r Byd i Ferched 2025. Mae gan y Casgliad isadrannau ar Sefydliadau, Noddwyr, Cyfryngau'r Wasg a Sylwadau. Mae'n fyd gwahanol i'r twrnament yn 1991 a aeth yn ei flaen er gwaethaf anghymeradwyaeth y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), corff llywodraethu'r gamp. Cadarnhaodd Ffrainc eu cyfranogiad ychydig funudau cyn y raffl, ac nid oedd yr Alban na Iwerddon yn y twrnament. Yn anffodus, nid oedd unrhyw noddwyr na sylw gan y wasg yn 1991.

Y disgwyl oedd y byddai pethau’n gwella erbyn y twrnament nesaf yn 1994, ond ni ddigwyddodd hynny. Cafodd y twrnament oedd fod i ddigwydd yn Amsterdam ei ganslo rai wythnosau cyn y gem gyntaf ddisgwyliedig, a threfnwyd cystadleuaeth newydd ar frys. Y tro hwn daeth yr Alban i'r adwy.

Wrth edrych ymlaen at gêm Cymru a'r Alban rhagwelir torf fawr yn Salford, un o wyth dinas a fydd yn cynnal y gêmau. Bydd isadran i'r casgliad hefyd yn cynnwys Digwyddiadau diwylliannol sy'n croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Un dinas wnaeth gynnal y twrnament yn 1991, sef Caerdydd. Atgof arall o'r gornestau yn 1991 yw na chaniatawyd i dîm rygbi'r Undeb Sofietaidd adael eu gwlad gyda arian. Daethant ag adnoddau fel fodca, siampên a chafiar i’w gwerthu er mwyn cynnal ei hunan yng Nghymru.

Mae'r erthygl hon yn ddathliad o ddau beth. Yn gyntaf, o gêm rygbi'r menywod - mae bellach yn cael ei hystyried y gamp sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, a dyma fydd y twrnament chwaraeon mwyaf a gynhelir yn y DU eleni. Yn ail, mae’n ddathliad o’r ffordd rydym yn casglu cyhoeddiadau ar gyfer y Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol erbyn hyn. Er taw ychydig iawn sydd gennym wedi'i gadw o dwrnament 1991 yng Nghymru, mae pethau’n wahanol heddiw. Trwy Archif Gwe'r DU rydym yn gallu casglu miliynau o wefannau cynhwysfawr, gan arwain at adnodd amhrisiadwy i ymchwilwyr y dyfodol ynghyd a fordd wych i gadw hanes y twrnament hwn.

Os ydych chi eisiau ymuno a'n helpu i gadw hanes rygbi, cliciwch yma a llenwch y ffurflen i enwebu gwefan i ni ei harchifo – mae'n rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w wneud.

Categori: Erthygl