Symud i'r prif gynnwys
Rhan o boster gig a disgo, testun coch gyda chefndir gwyn. Yn rhestru enwau bandiau, amser y disgo a phris mynediad.

27 Tachwedd 2024

A aethoch chi i ddisgos pan roeddech yn yr ysgol, ychydig cyn i'r ysgol orffen am yr haf? Neu'r disgos ar ddiwedd arhosiad yng Nglanllyn neu Langrannog? Disgos gyda'ch Aelwyd leol? Pa gerddoriaeth oedden nhw'n ei chwarae? Ydych chi'n dal i wrando ar y gerddoriaeth yna? Efallai bod darllen hon yn gwneud ichi eisiau gwrando ar y gerddoriaeth unwaith eto? Neu efallai rydych chi’n mynychu'r disgos hyn o hyd?

Dechreuais feddwl am ddisgos wrth i mi ddod ar draws poster tra roeddwn yn archwilio casgliad o Ffansîns Rhys William. Mae’n gasgliad sy’n dathlu cerddoriaeth pop Cymraeg ac yn cynnwys y Ffansîn ‘Yn Syth o’r Rhewgell’ a grëwyd gan David R. Edwards a Pat Morgan, aelodau o’r band Datblygu. Ymysg y casgliad hwn o ffansins mae poster o gig a disgo. Cafodd y digwyddiad yma ei gynnal yn Neuadd Blaen Dyffryn yn Llandysul ar 20 Medi 1985, wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith a Chlwb Ffermwyr Ifanc Pontsian.

Pan ddes i o hyd i'r poster yma dechreuais feddwl sut brofiad fyddai wedi bod i fynychu'r digwyddiad hwn. Roedd y poster yn nodi'r bandiau oedd yn chwarae'r noson honno, sef 'Derec Brown a'r Racaracwyr', 'Maraca' a 'Blaenau 'Y',' a thrwy ddefnyddio'r casgliad sain yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'n bosibl cael syniad. Dyma ddau recordiad sain sydd gennym yma yn LlGC o’r grwpiau a chwaraeodd y noson honno:

Tybed, beth am y gerddoriaeth y gallen nhw fod wedi ei chwarae yn y disgos? Wrth chwilio trwy ein catalog, gallwch ddefnyddio'r detholiadau i gyfyngu'r chwiliadau, a dyma ychydig o eitemau wnes i ddarganfod o 1980 i 1985:

Efallai roeddech chi yn y digwyddiad hwn ac yn gwybod yn sicr pa gerddoriaeth a chwaraewyd! Neu beth am archwilio ein catalog ychydig i weld a allwch chi ddod o hyd i gerddoriaeth o'r gigs a disgos rydych chi wedi'u mynychu?

Emma Towner

Archifau & Llawysgrifau LlGC

Categori: Erthygl