Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi, bu Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell, ynghyd a'r cerddor a bardd Casi Wyn yn dilyn llwybr pererindod hanesyddol, gan gychwyn yn Nhreffynnon, teithio drwy ganolbarth Cymru a gorffen yn Nhyddewi.
Dros gyfnod o dri diwrnod cyflwynwyd chwe gweithdy barddoniaeth - dau bob dydd - mewn gwahanol ysgolion cynradd, a thrwy hynny yn ymgysylltu â dros 200 o ddisgyblion.
Bu cyfle i'r disgyblion hefyd weld rhai o drysorau'r Llyfrgell gan gynnwys Llyfr Taliesin, sy’n cynnwys un o’r cyfeiriadau cynharaf at Ddewi Sant a rhai o’r cerddi Cymraeg hynaf, a mapiau unigryw John Ogilby, sy’n nodi’r llwybr pererindod.
Y chwe ysgol yr ymwelwyd â nhw oedd:
Ysgol Gymraeg Gwenffrwd, Treffynnon
Ysgol Bryn Clwyd County, Llandyrnog
Ysgol Glantwymyn, Glantwymyn
Ysgol Gymunedol Tal-y-bont, Tal-y-bont, Ceredigion
Ysgol Glannau Gwaun, Abergwaun
Ysgol Penrhyn Dewi Church in Wales VA School, Tyddewi
Darllenwch y datganiad yma
Mae’r prosiect yma wedi’i ariannu gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru.
Categori: Newyddion
