Ym mis Mai 2023, teithiais i Ddinbych i gartref Gaynor Morgan Rees, lle'r oedd casgliad personol ei ffrind agos, R.M. (Bobi) Owen yn aros.
Ychydig a wyddwn i am gynnwys casgliad Bobi cyn i mi gyrraedd, heblaw am ambell awgrym dirgel yr oedd fy rheolwr, Dr Maredudd ap Huw, wedi ei ollwng ymlaen llaw. Cefais fy nghyfarch, felly, gan ffeil ar ôl ffeil a gasglwyd yn ofalus gan Bobi trwy ei flynyddoedd fel hanesydd lleol yn Ninbych. Wedi'u trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw, canfûm fod pob ffeil yn cynnwys nifer o lythyrau, cardiau post, a dogfennau amrywiol gan amrywiaeth syfrdanol o eang o awduron.
Daeth maint gwaith Bobi yn fwy amlwg fyth pan ddechreuais weithio ar ei gasgliad. Roedd yr awduron yn amrywio o rai ffigurau gwirioneddol eiconig o nid yn unig hanes, celf a diwylliant Cymru ond y tu hwnt o ein gwlad. Dychmygwch fy syndod, er enghraifft, wrth droi o rai ffeiliau oedd yn cynnwys enwau mawr fel Lewis Valentine a David Lloyd George, at un arall gyda llythyr dyddiedig 1580 oddi wrth Robert Dudley, Iarll Caerlŷr.

Mae menywod hefyd yn cael eu cynrychioli yng nghasgliad Bobi, gyda rhai enghreifftiau cyffrous fel Louisa Stuart Costello, Winifred Coombe-Tennant, a hyd yn oed ffacsimili o lythyr Charlotte Brontë, i’w gweld yn y ffeiliau. Hefyd ymhlith yr eitemau yw rhestr 1941 o faciwîs o Lerpwl i Langybi, Pencaenewydd, ac Y Ffôr, yn manylu ar enwau a chyfeiriadau pob plentyn a ddaeth i’r ardal i ddianc rhag erchyllterau’r Blitz.


Mwynheais weithio ar gasgliad Bobi dros ben; roedd pob ffeil yn cynnwys eitem annisgwyl ac unigryw. Nawr bod ei waith yn barod i ddefnyddwyr y Llyfrgell i archebu a'i weld, rwyf wedi sylweddoli ei fod yn dal lle eithaf unigryw yn fy nghalon am reswm arall. Dechreuais ar gasgliad anhygoel Bobi dim ond blwyddyn i mewn yn fy rôl Archifydd dan Hyfforddiant; dwy flynedd yn ddiweddarach a bellach yn Archifydd cymwys, gallaf edrych yn ôl a gwerthfawrogi fy lwc yn ddechrau fy ngyrfa gyda chyfraniad mor arbennig ac unigryw i gadwrfeydd y Llyfrgell.
Gallwch bori trwy gasgliad Bobi Owen ar ein catalog Archifau a Llawysgrifau.
Categori: Erthygl