Symud i'r prif gynnwys
Group of volunteers transcribing the Peace Petition

21 Tachwedd 2024

Mae’n bleser gan y Llyfrgell i gyhoeddi carreg filltir arall ym mhrosiect trawsgrifio’r Ddeiseb Heddwch, gyda 300,000 o enwau bellach wedi cael eu trawsgrifio. 

Mae’r cynnydd anhygoel hwn yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd gwirfoddolwyr, sy’n helpu i ddod â’r eitem hanesyddol yma'n fyw. 

Yn ôl Pennaeth Gwasanaethau Digidol y Llyfrgell, Dafydd Tudur: 

"Mae'n anhygoel bod y garreg filltir hon wedi'i chyrraedd yn y gwaith o drawsgrifio'r Ddeiseb ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser ac egni i gyflawni hyn." 

Dysgwch fwy am y broses o drawsgrifio'r Ddeiseb Heddwch a dod yn rhan o drawsgrifio'r 100,000 o enwau olaf.

Categori: Newyddion