Ymhlith y cofiannau Cymraeg a ddigidwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell Genedlaethol y mae cofiant 1817 i blentyn amddifad Cymreig. The Life, Adventures and Vicissitudes, of Mary Charlton, the Welsh Orphan, Written by Herself and Dedicated to Her Own Sex, Whom She Hopes Will Honor Her Little Narrative, with a Candid Perusal (Rochester, 1817) yw cofiant bywyd cynnar yr awdur poblogaidd Mary Charlton o ddiwedd y 18fed/dechrau’r 19eg ganrif. Mae’r bywgraffiad yn ymdrin â phlentyndod Charlton, colli ei rhieni, ei hymgais i ddianc â’i chariad cyntaf, cael ei thwyllo i briodas anhapus, dychwelyd a cholli ei chariad cyntaf, a chanfod hapusrwydd mewn bywyd teuluol dosbarth canol confensiynol.
Mae’n ramant rhannol drasig, rhannol am fuddugoliaeth merched ifanc yn erbyn twyll ac adfyd, a rhannol yn stori am foesoldeb sy’n rhybuddio yn erbyn peryglon rhedeg i ffwrdd i briodi. Mae’n debyg mai ffuglen yw’r cofiant. Yn wir, y consensws heddiw yw taw nid Mary Charlton oedd yr awdures mewn gwirionedd. Bellach yn angof i raddau helaeth, roedd Mary Charlton yn awdur adnabyddus yn ei dydd, yn ddigon adnabyddus i gyhoeddwr ac awdur dienw gyhoeddi cofiant ffug er mwyn elwa o’i henw.
Roedd Mary Charlton, yn nofelydd, yn fardd ac yn gyfieithydd a gyhoeddodd deuddeg o weithiau gyda Gwasg Minerva rhwng 1794 a 1813. Roedd Charlton hefyd yn ymddangos ar restr 1798 y Wasg Minerva o awduron nodedig, arwydd o boblogrwydd ei nofelau ymhlith y cyhoedd. Tra fod y cofiant ffug a gyhoeddwyd yn 1817 yn gosod ei tharddiad yn ardal y Fenni, mewn gwirionedd ychydig iawn sy’n hysbys am fywyd Charlton, er y gall ei nofel Rosella (1799) sy’n cynnwys taith estynedig o amgylch Cymru, ddynodi gwreiddiau Cymreig. Fodd bynnag, mae’r un mor debygol y gellir priodoli’r lleoliad Cymreig hwn i adfywiad Celtaidd y cyfnod.
Roedd Gwasg Minerva yn dŷ cyhoeddi poblogaidd o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau’r 19eg ganrif, a sefydlwyd ym 1790 gan William Lane. Adnabyddwyd am gyhoeddi ffuglen rhad, boblogaidd, yn enwedig nofelau gothig. Gwnaeth ddefnydd mawr o’r llyfrgelloedd gylchynol wrth ddosbarthu ei gweithiau i’r cyhoedd. Roedd y nofelau gothig a gyhoeddwyd gan Wasg Minerva hefyd yn rhoi enw llai na pharchus iddynt, yn enwedig fel cyhoeddwr nifer o’r ‘nofelau erchyll’ y cyfeirir atynt yn Northanger Abbey gan Jane Austen.
Er nad oes modd gwirio cysylltiadau Cymreig Mary Charlton, roedd gan ddau awdur arall o Wasg Minerva gysylltiadau Cymreig pendant. Y gyntaf oedd Anna Maria Bennett (1750?-1808), sydd fwyaf adnabyddus am ei nofel The Beggar Girl (1797), gwaith yr oedd Samuel Coleridge yn arbennig o werthfawrogol ohono. Ganed Bennett tua 1750 ym Merthyr Tudful, a cyhoeddodd Wasg Minerva bum nofel gyda hi, rhwng 1785 a 1806. Roedd gan ddwy ohonynt, Anna: or Memoirs of a Welch Heiress (1785) ac Ellen, Iarlles Castle Howel (1794), leoliadau Cymreig.
Ail awdur Minerva â chysylltiadau Cymreig oedd Ann Hatton (1764-1838), a oedd yn fwy adnabyddus fel Ann of Swansea, awdur Cambrian Pictures (1810). Wedi’i geni yng Nghaerwrangon i deulu actio Kimble, bu’n rhaid i Ann ddilyn proffesiwn gwahanol oherwydd anabledd. Bu Ann fyw bywyd diddorol ac weithiau cythryblus, a oedd yn cynnwys priodas fawr, ymgais i ladd ei hun o flaen Abaty Westminster, a modelu a darlithio yn Nheml Iechyd a Hymen drwg-enwog Dr James Graham yn Pall Mall. Ar ôl profi cyfnodau o dlodi, cafodd Ann gyflog o £90 y flwyddyn gan ei brodyr a chwiorydd enwocach, sef yr actorion Sarah Siddons a John Phillip Kimble, ar yr amod nad oedd i fyw’n agosach na 150 milltir o Lundain. Roedd hyn yn rhannol oherwydd gwrthwynebiad ei chwaer at duedd Ann i ddefnyddio enw ei chwaer wrth apelio am gymorth ariannol, ac hefyd er mwyn cadw enw ei chwaer allan o bapurau newydd Llundain. Ailbriododd Ann ac ar ôl cyfnod yn yr Unol Daleithiau, lle bu’n troi mewn cylchoedd gwleidyddol radical, a dychwelodd i’r DU, gan ymgartrefu yn Abertawe ym 1799. Roedd mabwysiadu’r llysenw Ann of Swansea fel awdur, yn tystio i’w hunaniaeth â’i chartref newydd.
Yn eu dydd roedd gweithiau y tair awdur benywaidd yma yn gwerthu’n dda iawn. Er hynny, y tu allan i’r canon llenyddol, mae’r nofelau poblogaidd a gyhoeddwyd gan yr awduron benywaidd hyn, a chan Wasg Minerva yn gyffredinol, yn rhoi adlewyrchiad inni o chwaeth boblogaidd eu dydd. Dyma’r gweithiau a ddarllennwyd gan y cyhoedd yn eu llu. Gellir dweud yr un peth am y nofelau poblogaidd, nofelau arswyd, a ffurfiau eraill o lenyddiaeth boblogaidd rad a gyhoeddwyd drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dr Douglas Jones
Rheolwr Prosiect-Casgliadau Cyhoeddus
Darllen Pellach
- Aaron, Jane – ‘The Rise and Fall of the ‘Noble Savage’ in Ann of Swansea’s Welsh Fictions’ in Romantic Textualities: Literature and Print Culture 1780-1840, 22, 2017, pp.78-88.
- Blakey, Dorothy – The Minerva Press 1790-1820, London, 1934.
- ‘Charlton, Mary’ in Janet Todd (Ed.) – A Dictionary of British and American Women Writers 1660-1800, London, 1987, p. 83.
- ‘Charlton, Mary’ in Virginia Blain, Patricia Clements and Isobel Grundy – The Feminist Companion to Literature in English, London, 1990, pp 197-198.
- Henderson, Jim – ‘Ann of Swansea: A Life on the Edge’ in The National Library of Wales Journal, XXXIV (1), 2006.
- The Life, Adventures and Vicissitudes, of Mary Charlton, the Welsh Orphan, Written by Herself and Dedicated to Her Own Sex, Whom She Hopes Will Honor Her Little Narrative, with a Candid Perusal, Rochester, 1817.
- Rhydderch, Francesca – ‘Dual Nationality, Divided Identity: Ambivalent Narratives of Britishness in the Welsh Novels of Anna Maria Bennett’ in Welsh Writing in English, 3, 1997, pp. 1-17.
Categori: Erthygl