Pa ail i’w gamp o hil gerdd,
Y cawr-bynciwr o bencerdd
O gywydd coffa Gerallt Lloyd Owen i Dic Jones
Beth fyddai eich ymateb petai chi’n clywed fod rhywun wedi dweud unwaith wrth y Prifardd Dic Jones nad oedd ei waith yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig ac y medrai wneud yn llawer gwell? Rhyw feirniad eisteddfodol yn siarad drwy’i het? Nage - dyna oedd barn ei athrawon yn ei adroddiad ysgol olaf ym 1949, gyda’r Prifathro, T. Evans, yn cloi gyda’r sylw terfynol: ‘Can do much better than this.’
Mae hanes, fel y gwyddom, wedi anfon sylwadau o’r fath i ebargofiant. Eleni, 2024, byddai’r ‘cawr-bynciwr’ Dic Jones, neu ‘Dic yr Hendre’ o roi ei enw barddol iddo, yn 90 oed. Fe’i ganed yn Richard Lewis Jones ar ffarm Pen-y-Graig ger pentref Tre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion a'i fagu ar ffarm Tan-yr-eglwys yn ne'r sir. Go brin y synnwyd ei athrawon yn y ‘Cardigan County Secondary School’ pan ymadawodd â’r ysgol yn bymtheg oed i weithio Tan-yr-eglwys a ffarm gyfagos Yr Hendre, Blaenannerch. Daeth i gysylltiad â byd barddoni a chystadlu trwy gyfrwng Aelwyd yr Urdd Aberporth a dechreuodd ddysgu'r gynghanedd dan diwtoriaeth y bardd gwlad adnabyddus Alun Cilie (Alun Jeremiah Jones, 1897-1975), gan feistroli'r grefft i'r fath raddau nes cipio Cadair Eisteddfod yr Urdd ar bum achlysur. Aeth ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan ym 1966 gyda'i awdl 'Y Cynhaeaf’. Yn 2008, urddwyd Dic yr Hendre yn Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yr amaethwr cyntaf i dderbyn yr anrhydedd.
“Hir pob cwys cyn cyrraedd ei thalar” meddai’r hen ddywediad – oedd yn dda o beth yn achos Dic Jones oherwydd mai wrth ei waith adref yn yr Hendre, yn amlach na heb, y byddai’n llunio’i gerddi crefftus a’i gynghaneddion coeth: cyfoeth y pridd yn troi’n gyfoeth barddonol. “Bron ar ddiwedd oes y ceffyl ac ar ddechrau oes y tractor, bron ar ddiwedd traddodiad y bardd gwlad – bues i’n ffodus iawn yn fy lleoliad fynna …” meddai Dic Jones yn un o’i gyfweliadau olaf. Olrhain y beirdd gwlad a fyddai wrth lunio cerddi a chaneuon i ddathlu a chofnodi achlysuron o fewn ei deulu a’i gymuned – penblwydd ei fab Brychan yn un-ar-hugain oed, cyfarchion i’w wraig Siân ar benblwydd eu priodas arian (cywydd o ddiolch heb “arlliw o unrhyw feddalwch slwshlyd” (Idris Reynolds: Cofio Dic (2016)), englynion i nodi priodasau, ymddeoliadau a marwolaethau, aduniad Aelwyd Aberporth, canmlwyddiant Gwasg Gomer - heb sôn, wrth gwrs, am y mynych gerddi ar y mesurau caeth a rhydd a luniodd ar gyfer eisteddfodau a thalyrnau o ddyddiau cynnar cystadlaethau’r Urdd hyd misoedd olaf ei fywyd.
Pan fu farw Dic Jones ym mis Awst 2009 – mis Eisteddfod Genedlaethol y Bala, lle methodd Dic a bod yn bresennol oherwydd ei waeledd olaf – collwyd un o feirdd mwyaf huawdl a chrefftus ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Ceir cipolwg ar fywyd a gwaith ‘Deryn Du yr Hendre’ (chwedl y Prifardd Ceri Wyn Jones) - yr adroddiad ysgol dilornus, y gorchestion cynnar a champ ‘Y Cynhaeaf’, yr englynion cyfarch a’r canu dychan, dirdyniaeth y marwnadau a chywydd coffa Gerallt Lloyd Owen yn ei gyfanwaith, ynghyd â’r mynych deyrngedau wedi marw Dic - yn archif Papurau Dic Jones yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Categori: Erthygl