Daw’r pennawd o is-deitl un o amryw brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd, sef Llên y Llysiau, ‘y prosiect sy’n cloddio am yr aur o dan y rhedyn’, a’r dywediad yn ei dro o’r hen ddihareb amaethyddol sy’n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau: ‘Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug’. Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd gan Dafydd Davies, Rhandirmwyn ym 1978, gan fabwysiadu enw’r naturiaethwr, perlysieuydd, ieithydd a hynafiaethydd Edward Llwyd (neu Lhuyd) (1660-1709). Gweithreda’r Gymdeithas yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg a’i phrif amcan yw hybu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o fyd natur a chadwedigaeth yr amgylchedd naturiol. Cynhelir darlithoedd a gweithgareddau rheolaidd ar themâu naturiaethol ac amgylcheddol, ynghyd â theithiau cerdded bron bob Dydd Sadwrn i rai o fannau mwyaf godidog Cymru.
Mae archif Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd yn disgrifio prosiect Llên y Llysiau fel modd i ‘[d]dathlu ein defnydd o’r planhigion drwy’r oesoedd a chodi ymwybyddiaeth o’n perthynas â hwynt yn ein traddodiadau, yn enwedig y rhai Cymreig a Chymraeg.’ Datblygodd yr ymchwil hwn i fod yn erthygl reolaidd yng nghylchgrawn Y Naturiaethwr, cylchgrawn a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn gan y Gymdeithas (gweler gwefan Cymdeithas Edward Llwyd, hefyd dan bennawd Y Naturiaethwr o fewn yr archif). Prosiect cysylltiedig yw Llên Natur, bas data a ddisgrifir fel ‘gwefan natur i bobl Cymru’, lle gellir pori trwy’r Tywyddiadur a’r Bywiadur yn ogystal ag oriel o ffotograffau o fyd natur o bob cwr o Gymru. Os oes well gennych fyseddu dalennau papur, ceir ambell fwletin Llên Natur rhwng dau glawr o fewn yr archif.
Egwan fyddai llewyrch y ddau brosiect yma heb ymroddiad carfan o aelodaeth Cymdeithas Edward Llwyd, sef y Grŵp Safoni Enwau a Thermau (gweler y wefan). Mae cofnodion eu cyfarfodydd a thrafodaeth eu gohebiaeth o fewn yr archif yn dystiolaeth o ymrwymiad yr unigolion hyn i feithrin defnydd o’r Gymraeg wrth drafod ac astudio byd natur – ac nid yn unig o fewn Cymru, gan yr ymgorfforwyd dim llai na 11,534 o enwau Cymraeg ar fas data’r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain, yn ôl un ebost anfonwyd oddi wrthynt at y Gymdeithas ym mis Ebrill 2010.

Efallai mai cnewyllyn aur yr archif yw casgliad unigryw o samplau o gen, mwsogl a llysiau’r afu a gasglwyd ac a ddisgrifiwyd gan y diweddar Ieuan Roberts, Llanbedr-Pont-Steffan, a fu'n Gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd yn ogystal â Chadeirydd cylchgrawn Y Naturiaethwr. Cynhwysir y casgliad planhigion mewn llyfryn clawr caled yn dwyn stamp yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, ynghyd ag enw a chyfeiriad Ieuan Roberts. Mae ôl gwaith chwilota dygn a threfniant gofalus a chydwybodol yn amlwg yma, felly byddwch yr un mor ofalus wrth drin y gyfrol rhag dad-wneud y llafur cariad hwn.
Mae un rhan o gynnwys yr archif y bydd raid ichi durio ychydig ymhellach amdano … Trosglwyddwyd cyfres o ffotograffau, sleidiau a phrintiau a dynnwyd yn ystod teithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd rhwng yr 1980au a 2007 i Adran Ffotograffig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle ceir mynediad iddynt trwy gais. Efallai y gwnewch chi, fel minnau, adnabod ambell un o’r cerddwyr: ymysg criw a esgynnodd Carn Gafallt ger Rhaeadr Gwy ‘n’ôl ym Mehefin 1992, canfyddais fy rhieni, ill dau yn iau na’r oedran yr wyf ‘rwan. Atgof i’w drysori.
Categori: Erthygl