Ymysg pwrcasau diweddar y Llyfrgell mae llyfryn prin yn adrodd achos llys yn erbyn Renwick Williams, dyn 23 oed o Sir Faesyfed, yn yr Old Bailey ym 1790. Cyhuddwyd ef o ymosod ar nifer o ferched yng nghanol Llundain a gwneud niwed i’w dillad. Yn y llyfryn ceir tystiolaeth yn erbyn ac o blaid Renwick Williams. Yn gyntaf mae Miss Ann Porter yn adrodd sut yr ymosododd arni tu allan i ddrws ffrynt ei thad pan oedd hi’n dychwelyd o ddawns yn dathlu pen-blwydd y Frenhines. Anafodd ei chlun a gwneud niwed i’w dillad. Mae chwiorydd Miss Porter yn cadarnhau’r adroddiad hwn. Wedyn mae nifer o bobl oedd yn gweithio gyda Williams mewn busnes dillad yn tystiolaethu o blaid ei gymeriad ac yn cadarnhau iddo fod yn y gwaith ar adeg yr ymosodiad. Mae’r llyfryn yn gorffen gydag araith y barnwr i’r rheithgor.
Cafodd Renwick Williams ei ddwyn yn euog o’r ymosodiad hwn a dau ymosodiad tebyg a’i ddedfrydu i chwe blynedd mewn carchar. Denodd yr achos ddiddordeb mawr ar y pryd ac roedd yn destun cartwnau a dramâu. Ond roedd amheuaeth yn parhau am euogrwydd Williams, gan gynnwys o du’r barnwr ei hunan. Yn 2003 cyhoeddwyd llyfr gan Jan Bondeson, academydd o Brifysgol Caerdydd gyda’r teitl “The London monster: terror on the streets in 1790” yn honni bod Williams yn ddieuog. Mae’r ddadl am y Cymro ifanc hwn a’i ran mewn sgandal yng nghanol Llundain yn dal yn fyw ar ôl dros ddwy ganrif.
Teitl delwedd pennawd: A representation of Rynwick alias Renwick Williams, commonly called the Monster
Tudalen URL: commons.wikimedia.org/wiki/File:A_representation_of_Rynwick_alias_Renwick_Williams,_commonly_called_the_Monster_(BM_1868,0808.5930).jpg
Ffynhonnell: Yr Amgueddfa Brydeinig, Public domain, drwy Wikimedia Commons
Caniatad a trwydded: Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig, rhyddhawyd fel CC BY-NC-SA 4.0
Categori: Erthygl