Awdur Cymreig oedd Arthur Machen. Ganwyd ef yng Nghaerleon yn 1863, ac roedd yn enwog am ysgrifennu chwedlau arswyd. Caiff ei alw yn feistr ar y ffurf i’w gymharu â awduron eraill fel H. P. Lovecraft. Roedd ganddo ddoniau arbennig ar gyfer creu straeon a fyddai’n arswydo darllenwyr.
Mae gweithiau Machen, fel "The Great God Pan, and the Inmost Light" yn drysor i rai sy'n hoffi straeon arswyd. Roedd ganddo ddawn ar gyfer troi'r arferol yn eithriadol, gan brofi bod y gwir ofn yn aml yn llechu tu hwnt i’r golwg, neu efallai tu ôl i'r pompiwn agosaf!
Er nad oedd yn hoff o fywyd modern, roedd gan Machen ddawn arbennig ar gyfer yr annaearol, gan ei wneud yn ffigwr llenyddol ysbrydol! Felly, os ydych am noson o fraw llenyddol, cymrwch flanced gyfforddus, trowch y goleuadau i ffwrdd, a porwch ym myd ysbrydol Machen. Ond gwnewch yn siwr eich bod yn cadw llygad am unrhyw greaduriaid sy’n llechu yn y tywyllwch. Gallant fod yn anghenfilod Machenaidd!
Detholiad o weithiau Arthur Machen o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol
Arthur Machen horror stories, 2024. (ISBN: 9781804177952)
The Chronicle of Clemendy, 2022. (ISBN: 9781838062835)
Faunus: the decorative imagination of Arthur Machen, 2019. (ISBN: 9781907222757)
The autobiography of Arthur Machen, 2017. (ISBN: 9781905784929)
Arthur Machen: masters of the weird tale, 2013. (ISBN: 9781613470046)
Strange Roads, 1923.
The Great God Pan, and The Inmost Light, 1895.
Marguerite, Queen. The fortunate lovers: twenty-seven novels of the Queen of Navarre, 1887. [Cyfieithwyd gan Arthur Machen]
Credydau delwedd
Arthur Machen: masters of the weird tale
- Artwork copyright 2013 by Matthew Jaffe
Arthur Machen horror stories
- Images copyright 2024 Flame Tree Publishing Ltd.
Faunus: the decorative imagination of Arthur Machen
- Illustrations by Sidney Sime
The autobiography of Arthur Machen
- Copyright the estate of Arthur Machen
Ian Evans
Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd
Categori: Erthygl