Mae dros 1,000 o focsys yn Sgriptiau’r BBC (Rhodd 2019), yn cynnwysbron â 250,000 o sgriptiau teledu a radio sy’n ymestyn dros 80 mlynedd o 1931 ymlaen. Rwy’n credu ei bod yn ddiogel i ddweud bod y casgliad yn cynnwys rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i bawb. Mae’r sgriptiau teledu a radio yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel chwaraeon, celf a cherddoriaeth, drama, straeon, newyddion, apeliadau, crefydd, ysgolion, sioeau amrywiaethol a rhaglenni plant. Mae’n berffaith ar gyfer mynd ar daith i lawr lôn atgofion. Beth oedd eich hoff raglenni radio a theledu pan oeddech chi'n iau? Ai’r dramâu Awr y Plant oedd yn cael eu darlledu’n ddyddiol dros y radio, neu efallai roeddech yn mwynhau gwylio Bilidowcar?
Mae yna straeon hudolus am gestyll tywod, tywysogesau a thywysogion, môr-ladron, y Mabinogion, y Brenin Arthur, a sgriptiau Gari Tryfan, heb son am amryw o ddramâu. Mae sgript ymarfer wedi ei hysgrifennu gan Gwenlyn Parry ar gyfer Pentrefelin a fyddai'n cael ei ailenwi'n Pobol y Cwm, y sebon Cymraeg sydd wedi rhedeg hiraf, wedi bod yn arddangosfa Trysorau'r Llyfrgell, ac yn fwyaf diweddar mewn arddangosfa arbennig oedd yn dathlu 50 mlynedd o'r rhaglen. Yn anffodus, mae rhai sgriptiau yn anodd eu darllen, fel newyddion torcalonnus Aberfan.
Maen nhw'n adnodd cyfoethog o hanes oherwydd maent yn cynnwys newyddion cafodd eu darlledu yn ddyddiol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
![Sgript Gymraeg newyddion ar gyfer Tachwedd 24ain 1944.](/fileadmin/_processed_/2/7/csm_WW2_37d3968be2.jpg)
Gyda rhaglenni newyddion o 1939 tan 1997, efallai y byddech yn darganfod beth oedd yn y newyddion ar y diwrnod cawsoch chi eich geni? Neu gyda sgriptiau rhaglenni chwaraeon o 1953 i 1997, efallai y dewch chi o hyd i sgript o gêm bêl-droed, gêm rygbi neu dwrnamaint arall yr oeddech wedi gwylio ar deledu, neu ei wrando ar y radio. Efallai, o bosib, roeddech chi yno?
![Teipysgrif o dudalen gyntaf Sports News Wales. Cyfarwyddwyd gan Bruce Rawlings, ar Dachwedd 24ain 1984. Sgript BBC ar bapur pinc ac yn cynnwys manylion y teitlau agoriadol.](/fileadmin/_processed_/8/b/csm_Sports_News_Wales_bcfe082362.jpg)
Gellir defnyddio’r sgriptiau gyda chasgliadau eraill yn y Llyfrgell fel T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams, Emyr Humphreys, ac yr Archifau Gwleidyddol a Cherdd. I gyd-fynd â rhai o’r sgriptiau, mae arnodiadau ysgrifenedig a dwdlau sy'n ychwanegu at eu gwerth a'u diddordeb. Mae'r arnodiadau hyn yn cynnig cipolwg at y broses o ysgrifennu sgriptiau. Rydych chi’n gallu gweld y gwahaniaeth o’r sgript wreiddiol a’r sgript orffenedig a fyddai'n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu. Mae rhai sgriptiau yn ‘sgriptiau camera’ sy'n rhoi naws ddiddorol tu ôl i'r llenni i sut cafodd y rhaglenni eu creu. Mae'r sgriptiau yma yn adnodd da i'r rhai sy'n astudio ffilm neu deledu. Hefyd, mae’n bosib gwylio neu wrando ar rai o'r rhaglenni y mae'r sgriptiau yma yn perthyn iddynt yn Archif Ddarlledu Cymru, ac yn ein corneli clip gwahanol ar hyd a lled y wlad.
Mae nifer fawr o'r sgriptiau yn y catalog yn barod, ac mae mwy yn cael eu hychwanegu bob dydd. Mae maniffest a grewyd gan y BBC ac sy’n cynnwys manylion y casgliad cyfan hefyd i'w gweld yn y catalog. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch cysylltwch â ni trwy gofyn@llgc.org.uk a byddwn yn hapus i'ch helpu.
Ysgrifennwyd gan Emma Towner.
Categori: Erthygl