Ers i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ddod i rym yn 2022, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel llawer o sefydliadau eraill ar hyd a lled y wlad, wedi cychwyn ar nifer o brosiectau sydd â’r nod o ddod â newid ac effaith ystyrlon i’w holl ddefnyddwyr.
Rhyddhaodd Llywodraeth Cymru gynllun Cymru Wrth-hiliol ar ôl cyfnod hir o ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau amrywiol. Deilliodd y cynllun gweithredu hwn o anghenraid, a’i nod oedd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol i wneud newidiadau mesuradwy ym mywydau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnigrwydd arall yng Nghymru gyda’r gobaith o gyflawni Cymru heb hiliaeth erbyn y flwyddyn 2030 drwy ddulliau ymarferol.
Mae rhai o fentrau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys arddangosfeydd sy’n meithrin dealltwriaeth ddyfnach o hanes Du a phobl a diwylliant Asiaidd, gan archwilio themâu fel cerddoriaeth, celf, addysg, ymerodraeth, a chwalu stereoteipiau niweidiol. Fel rhan o’i hymdrechion gwrth-hiliol, comisiynodd y Llyfrgell hefyd artistiaid o gymunedau wedi’u tangynrychioli i greu gweithiau celf, sydd bellach wedi’u hychwanegu at ei chasgliadau.
Er mwyn hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant ymhellach, mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddiweddaru’n barhaus i sicrhau ei fod yn adlewyrchu portread dilys a chynhwysol o Gymru ac nid persbectif unigol yn unig. Yn ogystal, mae calendr "Cymru a'r Byd" wedi'i gyflwyno: . Mae'r calendr hwn yn cynnwys cyfuniad o wyliau crefyddol a dyddiadau allweddol sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ni fwriedir iddo fod yn holl gynhwysfawr, ac mae staff yn cael eu hannog i awgrymu dyddiadau arwyddocaol eraill i gael eu cynnwys.
Ymhellach, mae'r Llyfrgell wedi ymgysylltu'n frwd â chymunedau amrywiol, gan gynnal dathliadau a gweithdai yn yr adeilad. Mae hefyd wedi cynnal rhaglenni estyn allan ar hyd a lled Cymru, wedi cyd-greu deunyddiau addysgol, wedi cefnogi cymunedau gyda’i harbenigedd, ac yn bwysicaf oll wedi croesawu a mwynhau cyfranogiad.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru nawr yn gwerthuso’i gweithgareddau gydag arolwg sydd â’r nod o gasglu adborth gwerthfawr ar y prosiectau amrywiol y mae’r Llyfrgell wedi'u cynnal mewn ymateb i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022. Mae eich adborth yn hanfodol i’n cynorthwyo i ddeall ein diffygion a'r ffordd orau i'ch gwasanaethu. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at sut rydym yn datblygu ac yn siapio prosiectau yn y dyfodol i fod yn ymarferol ac yn effeithiol ar gyfer yr holl gymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua phedwar munud i'w gwblhau. Mae'r holl ymatebion yn gyfrinachol a byddant yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser a'ch cyfranogiad.
Categori: Erthygl