A ninnau'n dynesu at ddiwedd Mis Hanes Anabledd, rwy'n bwrw trem yn ôl at gyfarfyddiad heriol, wnaeth i mi bendroni.
I'r rhai ohonoch fu'n gwylio cyfres Cyfrinachau'r Llyfrgell ar S4C, fe wyddoch i ni gael ymweliad gan Scott Quinnell, y cyn-chwaraewr rygbi. Fe gofiwch i Scott gyfaddef mai ef oedd y mwyaf anghyfforddus mewn llyfrgell. Wedi'r cyfan, mae'r cyflwr dyslecsia arno erioed, ac o ganlyniad, bu'n llawer mwy cartrefol ar faes chwarae na mewn dosbarth neu lyfrgell. Sut felly oedd gwneud i Scott deimlo'n gartrefol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru? Dyna'r her.
Yn gyntaf, roedd yn gyfle i ddod ag ef wyneb-yn-wyneb â'r cyflwr dyslecsia, neu, fel yr ymddengys yn gyntaf ymysg ein casgliad o lyfrau print, 'word-blindness'. Ie, yr hen dybiaeth oedd mai diffyg yn y golwg rwystrai'r gallu i ddarllen. Yng nghyfrol y llawfeddyg llygad o Glasgow, James Hinshelwood, y cawn yr ymbalfalu cyntaf yn y Saesneg i ddeall y cyflwr. Pwysleisia nad oedd unrhyw ddiffygion yng nghrebwyll y rhai oedd yn ei amlygu, a'i fod - yn aml - yn dilyn mewn teulu.
Fe adnabyddodd Scott ei hun yn syth ymysg achosion Hinshelwood yn ôl yn 1917, gan gydnabod y tristwch na fu i'w ddyslecsia ef ei hun gael ei adnabod na'i liniaru gan y gyfundrefn addysg ddegawdau'n ddiweddarach.
Yn ail, roedd yn gyfle i herio'r label o anabledd, a hynny trwy gyflwyno Scott i nifer o gymeriadau yng nghasgliadau'r Llyfrgell sydd wedi goresgyn rhwystrau eu cymdeithas. O John Smith, y telynor dall o Gonwy a ddiddanai dyrfaoedd gyda'i ddawn offerynnol yn 1793, hyd at Elfyn Lewis, yr arlunydd lliwddall presennol sydd a'i luniau ymysg y mwyaf lliwgar yn y Llyfrgell, mae enghreifftiau lu yn ein casgliadau o wynebu anawsterau a rhagdybiaethau, ac o ffynnu. Mae'n rhyfeddod i mi y gellir archebu 77 cyfrol anferth o'r Beibl Cymraeg mewn gwyddor braille i'r Ystafell Ddarllen, ond y byddai raid wrth sgiliau darllen arbennig i ymgodymu â'r cynnwys! Trwy redeg y bysedd yn ysgafn dros y dail y mae rhywun yn sylweddoli pa mor arbennig yw dawn y rhai hynny sydd wedi meistroli gwyddor braille. Fi sydd anabl i'w ddarllen.
Ond o'r holl eitemau sy'n ymwneud â phobl anabl yn ein casgliadau, yr un mwyaf trawiadol efallai yw geiriadur Pughe. Na, nid William Owen, ond yn hytrach Elizabeth (Eliza) Pughe, y ferch ddawnus ddeuddeg oed honno o Glynnog Fawr yn Arfon a luniodd eiriadur darluniadol tua 1843 er mwyn cyfathrebu â'r byd o'i chwmpas. Dywedir ei bod yn fud a byddar o'i genedigaeth, ac mai'r unig addysg a gafodd oedd un yr aelwyd. Adlewyrchir yr hyfforddiant ymarferol hwn yn ei geiriadur, sy'n rhoi cip i ni ar ei byd, ei bywyd, - a'i hiwmor!
Bywyd byr a gafodd Eliza Pugh - yr 'eneth ddoniol, gain a thyner' chwedl Eben Fardd - ond fe adawodd waddol arbennig o'i hôl. Diau y clywn ragor o'i hanes yn 2026, adeg dau-gan-mlwyddiant ei geni.
Cynrychiolir ystod o anableddau yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol. Ond mae llawer iawn mwy o achosion o bobl yn gorchfygu rhwystrau cymdeithasol, ac o gyfrannu'n llawn i fywyd y genedl a'u cymunedau. A dyna, wedi'r cyfan, a wnaeth Scott Quinnell.
Categori: Erthygl
