Symud i'r prif gynnwys
Llyfrau ar thema 'Haf' i oedolion

Ysgrifennwyd gan Sian Drake

9 Mehefin 2025

Mae’n fis Mehefin ac mae’r Haf wedi cyrraedd! Beth am deipio’r gair “Haf” fel chwiliad allweddair cyffredinol yn y catalog ac edrych pa ddeunyddiau Cymraeg sydd i gael yn y Llyfrgell Genedlaethol? Daw dewis eang o ganlyniadau ar y sgrîn pan fewnosodir y gair “Haf” e.e. llyfrau, erthyglau, deunyddiau clyweledol a deunyddiau archifol.

Mae’r lluniau sydd yn y blog hwn yn dangos detholiad o rai o’r llyfrau “Hafaidd” amrywiol sydd i gael yn y Llyfrgell. Mae’r llyfr ‘Llawer Haf yn yr Hafod’ yn sôn am atgofion y ffermwr Tegwyn Jones o amaethu ar fferm yr Hafod, ger Llangwm. Casgliad o farddoniaeth a geir yn y llyfr ‘Yr Haf a Cherddi Eraill’ gan R. Williams Parry ac mae’r gyfrol ‘Canu Haf’ yn gasgliad o garolau haf traddodiadol.

Casgliad o straeon byrion ar thema’r haf sydd yn y gyfrol ‘Haf o Hyd?’ a nofel serch ar gyfer dysgwyr hŷn gan Ivor Owen yw’r llyfr ‘Yr haf hirfelyn’. Nofel hefyd yw ‘Ha’ bach’ gan Eigra Lewis Roberts. Mae ‘Ha’ bach’ yn nofel sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru am stryd o dai teras o’r enw Minafon. Darlledwyd y ddrama deledu ‘Minafon’ ar S4C yn y 1980au, ac mi ‘roedd yn seiliedig ar y cymeriadau sydd yn y nofel ‘Mis o Fehefin’ gan Eigra Lewis Roberts.

Prif gymeriad y gyfres deledu ‘Tydi Bywyd yn Boen’ oedd Delyth Haf. Gwelir ychydig o luniau o’r gyfres yn y llyfr ‘ Dyddiadur Delyth Haf 1991’. Darlledwyd y gyfres a’r gyfres ddilynol, sef ‘Tydi Coleg yn Grêt’, ar S4C yn y 1990au. ‘Roedd y cyfresi yn seiliedig ar lyfrau gwreiddiol gan Gwenno Hywyn. Dyddiadur y cymeriad Dripsyn [sef Greg Heffley] yw’r llyfr ‘Haf braf’ sydd yn gyfieithiad o ‘Dog Days’ gan Jeff Kinney [o’r gyfres “Diary of a Wimpy Kid’].

Mae’r nofel ‘Wythnos o haf’ gan Len Evans yn stori am ddisgyblion oedran Uwchradd adeg gwyliau’r Haf. Mae ‘Hamdden yr Haf’ yn lyfr am weithgareddau y gall plant bach eu gwneud adeg gwyliau’r Haf. Cyfieithiad yw’r llyfr ‘Haf ac Osian’ o’r llyfr ‘Anna and Otis’ gan Maisie Paradise Shearring ac mae e’n stori am Haf a’i ffrind Osian sydd yn neidr. Stori am Begw Haf a’i Mam-gu Betsi yn pobi cacennau sydd yn y llyfr ‘Begw Haf’ gan Felicity Elena Haf.

Gwelir nifer o weithiau yn y catalog gan awduron sydd â “Haf” yn rhan o’u henwau e.e. Haf Llewelyn, Eurgain Haf a Lowri Haf Cooke. Mae’r llyfrau ‘Ar Fôr Tymhestlog’, ‘On Tempestuous Seas’ ac ‘O na fyddai'n Haf o hyd‘ yn gyhoeddiadau hunangofiannol gan Elin Haf a Haf Thomas. Mae Elin Haf a Haf Thomas yn ddwy ddynes ysbrydoledig o Ogledd Cymru sydd wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau. Ar ddechrau’r llyfr ‘Haf o Hyd?’, mae yna fywgraffiadau byr o’r 11 awdur sydd wedi cyfrannu storïau i’r gyfrol. Mae pob un ohonynt wedi ateb y cwestiwn diddorol ‘Beth yw’r haf i mi?’ Tybed beth mae’r Haf yn ei olygu i chi? Pob hwyl dros yr Haf!

Categori: Erthygl