Symud i'r prif gynnwys
Closlun o glawr llyfr coch gyda llythrennau aur yn darllen 'City of Cardiff: Petition of the Corporation of Cardiff'

Ysgrifennwyd gan Rob Phillips

15 Rhagfyr 2025

Roedd Nadolig 1955 yn amser arbennig yng Nghaerdydd. Roedd siopau’r ddinas yn brysur, roedd goleuadau Nadolig yn addurno’r strydoedd a gwasanaethau carolau yn y capeli, yr eglwysi a’r eglwys gadeiriol. Roedd Caerdydd, fel gweddill Prydain, wedi dod allan o gyfnod llymder yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac yn dechrau mwynhau cyfnod o gyfoeth gyda safonau byw yn codi.
 

Ond roedd naws arbennig yn y ddinas adeg Nadolig 1955 oherwydd ei bod hi newydd gael ei phenodi yn Brifddinas Cymru.
 

Roedd codi hunaniaeth Gymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif gynnar wedi arwain at sefydlu sawl corff cenedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, Y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Cymru ynghyd a’r Eisteddfod Genedlaethol ac o ganlyniad dad-gysylltu’r eglwys Anglicanaidd roedd yr Eglwys yng Nghymru wedi ymuno a nhw. Beth oedd ar goll oedd brifddinas.
 

Bu sawl ymgais i gydnabod prifddinas i Gymru ac mae llawer o’r hanesion ar gael yn y casgliadau archifol a’r casgliadau print yn y Llyfrgell. Roedd y South Wales Daily News yn dangos 76 o 161 awdurdod lleol yng Nghymru yn cefnogi Caerdydd a chyflwynodd Caerdydd ddeiseb i Frenin Siôr VI yn 1949 yn gofyn iddo roi statws prifddinas i’r ddinas.

Roedd y ddogfen yn ddwyieithog a chyda llawer o wybodaeth i gyfiawnhau’r statws yn nodi pwysigrwydd Caerdydd i fusnes, gweinyddiaeth, crefydd ac addysg yng Nghymru ac wedi’i arwyddo gan Glerc y Dref a’r Arglwydd Faer. Ond ddigwyddodd dim byd.
 

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1951 ffurfiodd y Ceidwadwyr, oedd wedi nifer o fesurau Cymreig gan gynnwys penodi gweinidog dros faterion Cymreig, lywodraeth, felly roedd gobeithion yn uchel. Gofynnodd Cyngor Cymru a Mynwy i awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau am statws prifddinas a derbyniwyd sawl cais. Cyflwynodd Caerdydd ei chais am yr ail dro gydag anerchiad i Gyngor Cymru a Mynwy a chopi personol i gadeirydd y Cyngor, Huw T. Edwards. Unwaith eto ddigwyddodd dim byd.

Roedd pleidlais arall ymhlith awdurdodau lleol yn 1955, gyda 134 o 161 yn cefnogi Caerdydd.
 

Wedyn, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig, gofynnodd i o Aelodau Seneddol y ddinas, Sir David Treharne-Llewellyn, gwestiwn i’r Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog Materion Cymreig, Gwilym Lloyd George a oedd y Llywodraeth wedi gwneud penderfyniad ar brifddinas Cymru.

The Government have been impressed by the volume of support in Wales for the view that Cardiff is the city which should most appropriately be regarded as the capital of Wales, and in deference to these views the Government are prepared to recognise Cardiff as the capital of the Principality. No formal measures are necessary to give effect to this decision.’
 

A dyna ni! Heb ddim byd mwy na datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd Caerdydd yn brifddinas. Efallai nad oedd cyhoeddiad o’r fath yn uchafbwynt haeddiannol i’r stori, ond mewn dwy frawddeg, roedd Gwilym Lloyd George wedi rho anrheg Nadolig penigamp i Gaerdydd.
 

Categori: Erthygl