Symud i'r prif gynnwys
A side-on close-up of man adjust the spools on a 1-inch tape player.

Ysgrifennwyd gan Wilhelmina Barnden

12 Tachwedd 2024

Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae'r tîm digido Sgrin a Sain wedi bod yn gweithio ar brosiect ar gyfer Archif Ddarlledu Cymru, gan ddigideiddio caniau ffilm 16mm a thapiau 1 modfedd ITV Cymru Wales. Mae casgliad ITV Cymru Wales yn llawn straeon personol, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd weithiau wedi eu hen anghofio, ar ffurf clipiau a rhaglenni unigol, sy'n dod at ei gilydd i greu cipolwg gwerthfawr ac unigryw o fywyd Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Fis yma, rydyn ni’n cyrraedd carreg filltir drawiadol o 10,000 o eitemau wedi'u digido. Mae hwn yn gyflawniad sylweddol, gan ystyried y dilyniant cymhleth o dasgau sydd angen digwydd i gael pob eitem o linell ar daenlen, i ffeil weladwy a chwiliadwy.

Yn ôl y disgwyl, mae'r ffilmiau 16mm yn ddwys o ran llafur; mae'n rhaid archwilio ac atgyweirio pob un os oes angen er mwyn sicrhau trosglwyddiad diogel ar un o'n sganwyr ffilm. Pan fydd y gwaith sganio wedi'i gwblhau, mae'r ffeiliau .dpx a .wav sydd wedi'u creu yn cael eu prosesu ar feddalwedd golygu fideo - mae fframiau gormodol yn cael eu tynnu o'r ffilm, ychwanegir unrhyw elfen sain sydd ar gael, ac mewn rhai achosion defnyddir gradd lliw golau. Ar y cam hwn, mae pob eitem yn cael ei chroesgyfeirio â'r cofnodion catalog sy'n aml yn gymhleth ar gyfer y ffilm honno, er mwyn sicrhau bod yr allbwn terfynol yn defnyddio enw ffeil sy'n ei gysylltu â'r metadata cywir. Ar ôl gwiriad rheoli ansawdd, mae'r ffeiliau yn barod i'w hanfon i'r archif ddigidol, lle maen nhw wedyn yn destun dilysu priodol ar gyfer cadwraeth hirdymor.

Mae gweithio gyda thapiau 1 modfedd wedi cyflwyno ei heriau ei hun. Cyn i'r prosiect fynd rhagddo, dim ond 3 chwaraewr tâp 1 modfedd oedd yn gweithio oedd gennym ni.  Cwblhawyd rhaglen adnewyddu cyn i'r gwaith ddechrau, a roddodd 8 peiriant gweithredol i ni. O gofio bod yr wybodaeth a'r sgiliau i wasanaethu'r peiriannau hyn yn mynd yn fwyfwy darfodedig, roedd hyn yn gamp ynddo'i hun, a gyda staff yn gallu rhedeg dau beiriant ar unwaith, mae wedi ein galluogi i ddigido mwy o dapiau nag erioed o'r blaen. Mae'r tîm yn defnyddio'r chwaraewyr tâp 1 fodfedd etifeddol hyn sydd wedi'u cysylltu â rhyngwyneb modern, sy'n trosi'r ffynhonnell analog i fformat ffeil ddigidol sy'n addas ar gyfer cadwraeth hirdymor. Ffaith ddiddorol - gall y tapiau fod hyd at 90 munud o hyd, a hyd yn hyn mae'r ffeiliau digidol rydyn ni wedi'u creu yn cymryd dros 260 TB o le!

Mae gan dapiau, er nad oes angen yr un lefel o waith cadwraeth ymarferol arnynt â ffilm, faterion unigryw sydd wedi profi i fod yn broblemus. Mae rhai o'n tapiau yn dioddef o 'Sticky Shed Syndrome', o ganlyniad i amsugno lleithder yn ystod eu hoes. Mae hyn naill ai'n golygu bod y tâp yn sticio’n aml, neu ddim yn chwarae. I ddelio â hyn, mae gennym 4 'peiriant pobi', sy'n cynhesu'r tapiau i dynnu'r lleithder, gan roi cyfle bach i ni geisio digido, cyn iddyn nhw ddychwelyd yn ôl i'w cyflwr gwreiddiol. Dros amser, bydd y tapiau hyn yn parhau i ddirywio, sy'n amlygu gwerth cadwraeth ein gwaith, gan na fydd modd eu chwarae yn y pen draw.

Ochr arall i'r prosiect hwn fu ymdrin â'r cofnodion metadata. Er bod gan ein clipiau ffilm grynodebau disgrifiadol fel arfer, mae llawer o'r tapiau rydyn ni’n gweithio arnyn nhw yn brin o'r wybodaeth hon. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i gael grŵp o wirfoddolwyr sy'n edrych ar y tapiau, ac yn creu crynodebau disgrifiadol, gyda'r nod o wneud y rhaglenni'n haws i’w darganfod yn y dyfodol.

Yn ystod y prosiect rydyn ni hefyd wedi gallu dyfeisio system rhybudd cynnwys newydd, sydd wedi caniatáu creu a chymhwyso set gynhwysfawr o rybuddion gyda gwybodaeth, er mwyn sicrhau bod y gwyliwr yn ymwybodol o ba fath o ddeunydd y gallen nhw ddod ar ei draws wrth wylio clipiau. Mae'r rhybuddion yn cael eu hychwanegu at y cofnodion catalog, ac yna byddan nhw ar gael ar unrhyw lwyfannau gwylio yn y dyfodol.

Y cyrchfan olaf ar gyfer y deunydd digidol yw system Rheoli Asedau Cyfryngau (MAM) staff y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn y pen draw gwefan Clip Cymru, sy'n rhoi mynediad i'r cyhoedd mewn gwahanol 'Gorneli Clip' ledled Cymru.

Hyd yn hyn, mae bron i 4,000 o eitemau o'r prosiect hwn ar gael yn y Corneli Clip, ac mae'r nifer yn tyfu'n gyflym. Bydd gwylwyr yn gallu mwynhau cael mynediad i'r eitemau hyn, ynghyd â llawer iawn o ddeunydd arall gan holl brif ddarlledwyr Cymru.

Mae'r prosiect wedi bod yn waith llyfrgell gyfan sy'n cynnwys staff a gwirfoddolwyr curadurol, digideiddio, systemau a TG, a bydd y profiad a enillwyd yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Categori: Erthygl