Bydd pobl Caerdydd nawr yn cael mynediad i gannoedd o filoedd o raglenni radio a theledu o archifau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C ar garreg eu drws diolch i Gorneli Clip newydd sydd bellach ar agor yn Llyfrgell Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn ogystal ag Archifau Morgannwg. Mae gan y Corneli Clip derfynellau cyfrifiaduron mewn mannau cyfforddus lle gall unrhyw un ddod i weld a gwrando ar yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael.
Datganiad i'r wasg: 100 Mlynedd o Raglenni Cymraeg Nawr Ar Gael yng Nghaerdydd
Categori: Newyddion