Symud i'r prif gynnwys
[Translate to Cymraeg:] A cropped section of a script page, with some pencil markings. The text reads: "1st Operator. Today's May 18th isn't it? / 2nd. " Yes Why? / 1st. " Well that's Good Will Day - the Child [cuts off] the day on which the Children of Wale- [cuts off]".

Ysgrifennwyd gan Emma Towner

17 Mai 2024

Yn 2022, dathlwyd canmlwyddiant y Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd at bobl ifanc ledled y byd ar ran pobl ifanc Cymru. Y Parch. Gwilym Davies a gyhoeddodd y neges gyntaf ar Fehefin 28ain 1922, gan ddefnyddio cod morse trwy Swyddfa'r Bost. Ers hynny, cyhoeddwyd y neges bob blwyddyn ar (neu oddeutu) 18fed o Fai. Ers y 1950au, yr Urdd sydd wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb o gyhoeddi’r neges arbennig hon.

Y tro cyntaf iddi gael ei darlledu - ar y BBC World Service - oedd ym 1924, felly mae eleni yn flwyddyn arwyddocaol hefyd yn hanes y neges Heddwch ac Ewyllys Da.  Byddai rhaglen Children’s Hour yn darlledu rhaglenni Diwrnod Ewyllys Da i gyd-fynd â’r neges Heddwch ac Ewyllys Da, ac ‘rydym yn ffodus o gael yn ein meddiant rai o’r sgriptiau yma o fewn ein casgliad o sgriptiau BBC.  Un o’r sgriptiau hynaf sydd gennym yn y casgliad yw ‘A Girdle around the Earth’ gan Raymond Glendenning, a ddarlledwyd ar 18fed o Fai 1932, lle’r adroddir hanes y dyfeisiwr Eidalaidd Guglielmo Marconis, a fu’n gyfrifol am y darllediad radio cyntaf a wnaethpwyd dros y môr agored.  Darlledwyd neges Marconis dros Fôr Hafren, o Ynys Echni i Drwyn Larnog, nid nepell o Gaerdydd; yn wir, yn ôl y stori yn y sgript, cychwynnodd y platiau dur a ddefnyddiwyd yn y darllediad eu taith o Pier Head, Caerdydd.

Sgript arall yn y casgliad yw ‘Milestones’, hefyd gan Raymond Glendenning, a ddarlledwyd ar 18fed o Fai 1933.  Mae’r sgript hon yn disgrifio’r modd y mae arwyr Cymreig megis Dewi Sant, Hywel Dda, Dafydd ap Gwilym, Owain Glyndŵr, Samuel Roberts, Gwilym Hiraethog a Tregellis Price hefyd yn arwyr heddwch, a cheir yn ogystal hanes Henry Richard yr ‘Apostol Heddwch’, a ddechreuodd ar ei waith ym 1848.

Elfen eithaf ingol ynghylch y neges Heddwch ac Ewyllys Da yw’r ffaith y cafodd ei darlledu drwy gydol yr Ail Ryfel Byd.  Mae gennym sgript dyddiedig 18fed o Fai 1940 gan Beryl M. Jones dan y teitl ‘The Enchanted Harp’.  Yn y stori hon, mae Eirwen a Gareth yn glanhau hen delyn lychlyd, ac wrth iddynt gyffwrdd ei thannau, mae Prifardd yn dechrau adrodd straeon Madog, Tywysog Gwynedd, Taliesin a Dewi Sant iddynt. 

Gallwch hefyd ddarganfod mwy o ddelweddau hanesyddol yn ymwneud â’r neges Heddwch ac Ewyllys Da ar wefan Casgliad y Werin.  Mae’r rhain yn cynnwys y negeseuon gwreiddiol a anfonwyd o Gymru ynghyd â’r ymatebion iddynt gan bobl ifanc ledled y byd.

O ystyried cyflwr y byd heddiw, mae’r neges Heddwch ac Ewyllys Da yr un mor bwysig ag erioed, a gallwch weld neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni heddiw ar wefan yr Urdd.

Eleni, dethlir canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24.  Cafodd y Ddeiseb Heddwch ei chatalogio a’i digido yn ddiweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gallwch os mynnwch fod yn rhan o’r prosiect torfoli, sy’n golygu trawsgrifio’r 390,296 o lofnodion sydd ar y ddeiseb. Efallai y dewch o hyd i lofnodion aelodau o’ch teulu?

Categori: Erthygl