Papurau Newydd Cymru Arlein
Mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn adnodd ar-lein di-dâl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle gallwch ddarganfod miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol o gasgliad cyfoethog y Llyfrgell.
Ar hyn o bryd mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn caniatáu i chi chwilio a chael mynediad i dros 1,100,000 o dudalennau allan o dros 120 o gyhoeddiadau papur newydd yn gyffredinol i fyny at 1910. Mae yr adnodd hefyd yn cynnwys rhai papurau newydd sydd wedi cael eu digido fel rhan o brosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf a'r profiad Cymreig.
Ariennir Papurau Newydd Cymru Arlein yn rhannol gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn Cylchgronau Cymru, gwefan sy'n rhoi mynediad i dros 1,200,000 o dudalennau o dros 475 o gylchgronau a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2006.
Mynegwch eich barn
Rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella Papurau Newydd Cymru a buasem yn croesawu eich sylwadau ac awgrymiadau.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y safle gan ddefnyddio 'Cysylltwch â ni' a leolir ar waelod pob tudalen.
Hanes cyhoeddi papurau newydd yng Nghymru
Datblygodd cyhoeddi papurau newydd yn araf iawn yng Nghymru o’i gymharu â gweddill Prydain, a sefydlwyd y wasg argraffu cyntaf ym 1718. Profodd Cymru newidiadau cymdeithasol radical yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd cyhoeddi papurau newydd yn ymateb i ymwybyddiaeth wleidyddol gynyddol y genedl, y cynnydd yn y boblogaeth a’r economi diwydiannol cyfoethog.
Y papur newydd cyntaf i’w gyhoeddi yng Nghymru oedd ‘The Cambrian’ yn Abertawe ym 1804. Ar y pryd roedd Abertawe yn dechrau datblygu’n dref fasnachol a diwydiannol, gyda’r rhwydweithiau cyfathrebu a oedd ei angen ar gyfer dosbarthu’r papur i’r siaradwyr a darllenwyr Saesneg a oedd yn y lleiafrif ym mhrif drefi De Cymru. Dilynodd Gogledd Cymru yn fuan wedi hynny gyda’i wythnosolyn cyntaf, The North Wales Gazette, a gychwynnwyd ym Mangor gan deulu Broster o Gaer ym 1808. Dwy flynedd yn ddiweddarach ymddangosodd y Carmarthen Journal, ar gyfer darllenwyr yng Ngorllewin Cymru.
Seren Gomer oedd y papur wythnosol cyntaf Cymraeg ei iaith, a gychwynnwyd gan Joseph Harris ym 1814. Yn wahanol i’r papurau y cyfeiriwyd atynt uchod, anelai Seren Gomer at fod yn bapur cenedlaethol a geisiai gynrychioli Cymru gyfan, gan atgyfnerthu’r iaith Gymraeg.
Y papur dyddiol cyntaf a gyhoeddwyd yng Nghymru oedd ‘The Cambrian Daily Leader’ (1861), ond y Western Mail (1869) a ddatblygodd i fod yn brif bapur newydd dyddiol Cymru, ac mae’n parhau'r un fath hyd heddiw.
Sut y digidwyd y papurau newydd gwreiddiol?
Sganiwyd y casgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dilyn buddsoddiad mewn stiwdio ddigido newydd, unedau sganio arbenigol a dulliau rheoli llif gwaith er mwyn darparu’r capasiti ar gyfer tîm o staff ymroddedig i baratoi a sganio pob tudalen.
Bu'r tîm paratoi yn cofnodi rhifau'r rhifynnau a'r tudalennau (metadata) cyn eu trosglwyddo i'r tîm digido ar gyfer sganio. Mae cyflwr ac ansawdd y cyfrolau'n amrywio'n fawr ac mewn rhai achosion roedd angen gwneud gwaith cadwraeth cyn sganio’r tudalennau bregus.
Wedi hyn, proseswyd y sganiau digidol, sydd yn y bôn yn ‘ffotograffau digidol’ o’r tudalennau, gyda meddalwedd Adnabod Nodau’n Optegol er mwyn gwneud y testun yn chwiliadwy, a defnyddiwyd proses lled-awtomatig i adnabod y gwahanol erthyglau ar y dudalen.
Diogelir pob ffeil ddigidol am byth yn system rheoli asedau digidol cadarn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd wedi ei ehangu'n sylweddol i sicrhau bod cymaint â phosibl o le storio ar gyfer y project yma.
Cyhoeddiadau Papur Newydd
Bydd Papurau Newydd Cymru Arlein yn parhau i dyfu yn y dyfodol. Sylwer bod y casgliad digidol yn adlewyrchu daliadau ffisegol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac na fydd holl rifynnau’r papur newydd ar gyfer y dyddiadau a nodwyd ar gael.
Papur Newydd | Blynyddoedd | Argaeledd |
---|---|---|
Aberdare Leader | 1902-1910; 1913-1919 | Ar gael |
Aberdare Times | 1861-1902 | Ar gael |
Abergavenny Chronicle | 1909-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Abergavenny Mail | 1914 | Ar gael |
Aberystwyth Observer | 1858-1861; 1864-1900; 1902-1910 | Ar gael |
Aberystwyth Times | 1868-1870 | Ar gael |
Aberystwyth Visitor's List and Guide | 1887 | Ar gael |
Adsain | 1906; 1914-1919 | Ar gael |
Amman Valley Chronicle | 1913-1919 | Ar gael |
Amserau | 1846-59 | Ar gael |
Baner ac Amserau Cymru | 1857-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Barmouth and County Advertiser | 1914-1917 | Ar gael |
Barry Dock News | 1889-1910; 1914-1918 | Ar gael |
Barry Herald | 1896-1910 | Ar gael |
Brecon and Radnor Express | 1914-1918 | Ar gael |
Brecon County Times | 1866-1869; 1900; 1905-1910; 1913-1919 | Ar gael |
Brecon Reporter | 1865-1867 | Ar gael |
Brython (Lerpwl) | 1914-1919 | Ar gael |
Brython Cymreig | 1892-1901; 1906-1910 | Ar gael |
Caernarvon and Denbigh Herald | 1836-1910 | Ar gael |
Cambrian Daily Leader | 1913; 1914-1918; 1919 | Ar gael |
Cambrian | 1804-1860; 1870-1910 | Ar gael |
Cambrian News | 1860-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Cardiff and Merthyr Guardian | 1845-1874 | Ar gael |
Cardiff Times | 1858-1910 | Ar gael |
Cardigan Bay Visitor | 1887-1905 | Ar gael |
Cardigan Observer | 1878-1897 | Ar gael |
Carmarthen Journal | 1810-1812; 1828-1831; 1889-1893; 1901-1910; 1913-1919 | Ar gael |
Carmarthen Weekly Reporter | 1860-1910; 1913-1919 | Ar gael |
Celt | 1878-1879; 1881-1906 | Ar gael |
Cheshire Observer | 1901-1908 | Ar gael |
Chester Courant | 1897-1908 | Ar gael |
Clorianydd | 1897-1907; 1909-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Colwyn Bay & North Wales Weekly News | 1892; 1894-1907 | Ar gael |
County Echo [Pembrokeshire] | 1893-1896; 1901-1910 | Ar gael |
County Observer and Monmouthshire Central Advertiser | 1867-1878; 1881-1884; 1899-1908 | Ar gael |
Cymro a'r Celt Llundain | 1907-1910 | Ar gael |
Cymro [Lerpwl a'r Wyddgrug] | 1890-1907; 1914-1919 | Ar gael |
Darian | 1914-1919 | Ar gael |
Demetian Mirror | 1840 | Ar gael |
Denbighshire Free Press | 1882-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Dinesydd Cymreig | 1914-1919 | Ar gael |
Drafod | 1913-1919 | Ar gael |
Drych | 1875-1878; 1881-1900; 1914-1919 | Ar gael |
Dydd | 1868-1870; 1872-1890; 1892-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Evening Express | 1891-1899; 1900-1910 | Ar gael |
Flintshire Observer | 1864-1900; 1907-1910; 1913-1915 | Ar gael |
Genedl | 1914-1917 | Ar gael |
Genedl Gymreig | 1877-1900 | Ar gael |
Glamorgan Free Press | 1897-1899 | Ar gael |
Glamorgan Gazette | 1894-1895; 1906-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette | 1832-1843 | Ar gael |
Goleuad | 1869-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Gwalia | 1883; 1897-1910 | Ar gael |
Gwladgarwr | 1858-1882 | Ar gael |
Gwyliedydd | 1877-1908 | Ar gael |
Gwyliedydd Newydd | 1910; 1914-1919 | Ar gael |
Haverfordwest and Milford Haven Telegraph | 1857-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Herald Cymraeg | 1901-1910; 1914-1919 | Ar gael |
Herald of Wales and Monmouthshire Recorder | 1897; 1914-1919 | Ar gael |
Illustrated Usk Observer | 1855-1866 | Ar gael |
Llais y Wlad | 1874-1884 | Ar gael |
Llais Llafur | 1914-1919 | Ar gael |
Llan | 1881-1910; 1913-1919 | Ar gael |
Llandudno Advertiser and List of Visitors | 1896-1910 | Ar gael |
Llanelly Mercury | 1897; 1909-1910 | Ar gael |
Llanelly Star | 1910; 1914-1919 | Ar gael |
Llangollen Advertiser | 1868-1873; 1875-1903; 1905-1908; 1909-1910; 1914-1919 | Ar gael |
London Kelt - Celt Llundain | 1895-1904 | Ar gael |
London Welshman - Cymro Llundain | 1904-1906 | Ar gael |
Merthyr Express | 1864-1869; 1909-1910 | Ar gael |
Merthyr Pioneer | 1914-1919 | Ar gael |
Merthyr Telegraph | 1855-1881 | Ar gael |
Merthyr Times | 1895-1897 | Ar gael |
Monmouth Guardian | 1914-1919 | Ar gael |
Monmouthshire Merlin | 1829-1884 | Ar gael |
Montgomery County Times | 1893-1900 | Ar gael |
Montgomeryshire Express and Radnor Times | 1892-1908 | Ar gael |
Negesydd | 1895-1909 | Ar gael |
North Wales Chronicle | 1827-1900; 1914-1919 | Ar gael |
North Wales Express | 1878-1910 | Ar gael |
North Wales Gazette | 1808-1816; 1823-1825 | Ar gael |
North Wales Times | 1897-1900 | Ar gael |
North Wales Weekly News | 1909-1910 | Ar gael |
Papur Pawb | 1893-1904; 1909-1910 | Ar gael |
Pembroke County Guardian | 1898-1910 | Ar gael |
Pembrokeshire Herald | 1844-1891; 1901-1910 | Ar gael |
Penarth Chronicle | 1895 | Ar gael |
Pontypool Free Press | 1859-1869; 1872-1893 | Ar gael |
Pontypridd Chronicle | 1881-1883; 1886-1905 | Ar gael |
Potter's Electric News | 1859-1868 | Ar gael |
Prestatyn Weekly | 1905-1910 | Ar gael |
Principality | 1848-1850 | Ar gael |
Rhedegydd | 1878-1879; 1886; 1889; 1893-1910 | Ar gael |
Rhondda Leader | 1899-1910 | Ar gael |
Rhos Herald | 1909-1910 | Ar gael |
Rhyl Advertiser | 1878-1887; 1893 | Ar gael |
Rhyl Journal | 1889-1910 | Ar gael |
Rhyl Record and Advertiser | 1888-1910 | Ar gael |
Seren Cymru | 1851-1852; 1856-1857; 1860-1910; 1913; 1914-1918; 1919 | Ar gael |
Seren Gomer | 1814-1815 | Ar gael |
South Wales Daily News | 1872-1900 | Ar gael |
South Wales Daily Post | 1893-1900; 1910 | Ar gael |
South Wales Echo | 1880-1882; 1885-1900 | Ar gael |
South Wales Star | 1891-1894 | Ar gael |
South Wales Weekly Post | 1914-1919 | Ar gael |
Swansea Gazette and Daily Shipping Register | 1909-1910 | Ar gael |
Tarian y Gweithiwr | 1875-1910 | Ar gael |
Tenby Observer | 1854-1860; 1867-1889; 1909-1910 | Ar gael |
Towyn on Sea and Merioneth County Times | 1897-1905 | Ar gael |
Tyst a'r Dydd | 1871-1891 | Ar gael |
Tyst Cymreig | 1867-1870 | Ar gael |
Tyst | 1892-1910; 1914-1917 | Ar gael |
Udgorn | 1913-1918 | Ar gael |
Weekly Mail | 1879-1910 | Ar gael |
Welsh Coast Pioneer | 1900-1910 | Ar gael |
Welsh Gazette | 1899-1910 | Ar gael |
Welshman | 1835-1910 | Ar gael |
Werin | 1885-1900 | Ar gael |
Western Mail | 1869-1900 | Ar gael |
Wrexham Guardian | 1875-1879 | Ar gael |
Wrexham Weekly Advertiser | 1854-1900 | Ar gael |
Wythnos a'r Eryr | 1899-1903; 1909-1910 | Ar gael |
Data Agored
Mae'r Llyfrgell wedi ymrwymo i rannu'r data y tu ôl i wefan Papurau newydd arlein. Bydd mynediad i'r APIs sy'n sylfaen i'r wefan hon ar gael yn fuan.