Symud i'r prif gynnwys

Cymorth Lleoedd Cymru

Mae Lleoedd Cymru yn caniatau i chi chwilio, pori a darganfod casgliadau a gwybodaeth berthnasol o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar fap.

Ar hyn o bryd mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth o fapiau degwm Cymru a'r dogfennau pennu cysylltiol.


Chwilio

Sut fedraf chwilio'r casgliad mapiau degwm?

Gallwch chwilio'r wefan trwy ddefnyddio'r blwch chwilio allweddair ar y dudalen flaen.

  • gallwch chwilio am enwau caeau, enwau ffermydd, plwyfi, tirfeddiannwr neu breswyliwr. NID oes modd chwilio am leoedd (pentref, tref, dinas) yma (gweler pori isod)
  • byddwch yn chwilio data'r rhestrau pennu cysylltiol nid y mapiau eu hunain
  • os ydych yn chwilio am rywbeth penodol ac yn gwybod peth gwybodaeth yn barod, defnyddiwch orchmynion boolean i gyfuno termau ee John AND Jones AND Betws. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael canlyniadau chwilio perthnasol. Byddai rhestri termau chwilio yn dod â chanlyniadau sy'n cynnwys dim ond un o'r termau hefyd

A fedrai chwilio am enwau lleoedd?

Ni ellir chwilio am enwau lleoedd o'r blwch chwilio ar y dudalen flaen gan eich bod yn chwilio data'r rhestrau pennu. Serch hynny, gellir defnyddio 'Chwilio am Le' i weld canlyniadau perthnasol ar gyfer ardaloedd (mwy o fanylion o dan pori).

Beth yw gorchmynion boolean?

Defnyddir gorchmynion boolean i gyfuno termau chwilio er mwyn ehangu neu gyfyngu eich canlyniadau.

Gellir defnyddio AND, OR, NOT a NEAR ar y catalog hwn.

  • mae AND yn cyfuno un neu fwy o allweddeiriau gan gyfyngu eich chwiliad er enghraifft: byddai Cae AND Coch yn dod â chanlyniadau sy'n cynnwys y ddau derm ee Cae Coch
  • mae OR yn dod â chanlyniadau sy'n cynnwys y naill derm neu'r llal er enghraifft: byddai Cae Or Coch yn dod â chanlyniadau yn cynnwys Pwll Coch a Cae Glas
  • mae NOT yn eithrio term o'ch chwiliad, gan wneud eich chwiliad yn fwy penodol, er enghraifft: byddai Cae NOT Llanbadarn yn dod â rhestr o gofnodion sy'n cynnwys Cae ond nid Llanbadarn
  • mae NEAR yn dod â chanlyniadau lle mae eich termau chwilio o fewn 5 gair i'w gilydd er enghraifft: byddai Cae NEAR Afon yn dod â rhestr yn cynnwys Y Cae ar lan yr Afon

A fedrai chwilio'r mapiau eu hunain?

Na, wrth chwilio mi fyddwch yn chwilio data'r rhestrau pennu, nid data'r mapiau eu hunain.

Ydw i'n chwilio ar draws Cymru gyfan?

Mae'n bwysig cofio nad oes mapiau degwm a rhestrau pennu ar gyfer rhai ardaloedd yng Nghymru. Ni fydd eich chwiliadau felly yn cynnwys yr ardaloedd hynny lle nad oes map degwm/rhestr pennu yn bodoli.

Awgrymiadau:

I weld pa ardaloedd o Gymru sydd ddim yn cynnwys map degwm/rhestr pennu, dewiswch y 'Tros-haen degwm' yn y map canlyniadau. Mi welwch fylchau yn y map ar gyfer plwyfi lle nad oes map degwm yn bodoli.


Pori

A fedraf bori trwy'r mapiau degwm?

Gallwch ddefnyddio'r ffwythiant 'Chwilio am Le' ar y dudalen gartref i bori trwy'r mapiau degwm a'r rhestrau pennu perthnasol i ardal arbennig.

Sut mae defnyddio 'Chwilio am Le'?

Mae 'Chwilio am Le' yn cynnig rhestr benodedig o enwau lleoedd modern. Naill ai gallwch ddechrau teipio enw lle a bydd rhestr berthnasol yn ymddangos, ac yna gallwch glicio ar enw o'r rhestr, neu gallwch bori trwy'r rhestr a chlicio ar enw lle.

Awgrymiadau:

  • Noder os gwelwch yn dda nad oes botwm 'chwilio' ar gyfer 'Chwilio am Le'. Mae clicio ar enw lle yn y rhestr yn mynd â chi i'r map canlyniadau
  • Dim ond ar rhyngwyneb map y gellir gweld canlyniadau o 'Chwilio am Le'. Ni ellir eu gweld fel rhestr testunol
  • Nid oes modd pori am enwau lleoedd hanesyddol

Sut mae defnyddio'r map o Gymru ar y dudalen gartref?

Mae'r map o Gymru ar y dudalen gartref yn amlinellu ffiniau siroedd modern Cymru.

Mae'r smotiau'n dynodi tref weinyddol bob sir.

Trwy glicio ar un o'r smotiau fe'ch cyfeirir i fap canlyniadau ar gyfer y sir. Canolir y map canlyniadau hwnnw ar y dref weinyddol berthnasol, fel y nodir ar y map ar y dudalen flaen.

Awgrymiadau:

  • Gallwch lusgo'r map canlyniadau yn ôl yr angen, ond fe'ch cyfeirir gyntaf i'r drefn weinyddol bob tro
  • Pwrpas y map yw i gynnig ffordd cyflym a hwylus i bori'r canlyniadau ar gyfer siroedd modern Cymru. I ymgymryd â chwiliadau penodol defnyddiwch y ffwythiant chwilio.

Canlyniadau Chwilio

Pa wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob canlyniad?

Bydd pob canlyniad yn arddangos y meysydd gwybodaeth perthnasol sydd ar gael ar gyfer y canlyniad hwnnw. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys:

  • Preswyliwr
  • Tirfeddiannwr
  • Enw cae
  • Rhif cae
  • Enw fferm
  • Defnydd tir
  • Arwynebedd
  • Gwerth y degwm

Mae'n bosib na fydd yr holl feysydd hyn yn ymddangos - mae'n dibynnu pa wybodaeth sydd ar gael yn y rhestr pennu.

Sut fedraf weld y map degwm neu restr pennu gwreiddiol?

I weld y rhestr pennu cliciwch ar y ddolen 'Gweld y Rhestr Pennu' ar waelod y canlyniad chwilio. I weld y map degwm gwreiddiol cliciwch ar y ddolen 'Gweld y Map' ar waelod y canlyniad chwilio.

Sut fedraf newid nifer y canlyniadau a arddangosir?

Yn y gornel dde o dan y linell werdd, mi welwch y ddewislen 'Opsiynau Arddangos', yma gallwch newid nifer y canlyniadau a ddangosir.

Sut fedraf newid trefn y canlyniadau?

Yn y gornel dde o dan y linell werdd, mi welwch y ddewislen 'Opsiynau Arddangos', yma gallwch newid trefn eich canlyniadau.

Ym mha drefn mae'r canlyniadau'n ymddangos?

Mae blaenoriaeth yn cael ei roi i ganlyniadau o fewn y meysydd tirfeddiannwr a phreswyliwr. Felly os ydych yn chwilio am 'David', mi fyddai canlyniadau sy'n cynnwys David yn y meysydd tirfeddiannwr neu preswyliwr yn ymddangos yn uwch na'r canlyniadau hynny sy'n ei gynnwys yn y maes enw cae er enghraifft.

Sut gallaf fireinio fy nghanlyniadau?

Mae'r golofn chwith yn cynnwys hidlwyr, a gellir defnyddio'r rhain i gyfyngu nifer y canlyniadau a ddangosir. Mae'r hidlwyr yn cynnwys:

  • Sir
  • Plwyf
  • Defnydd Tir
  • Preswyliwr
  • Tirfeddiannwr

Cliciwch ar yr eitem perthnasol o fewn yr hidlwyr i gyfyngu eich canlyniadau, mi fyddant yn uwchraddio yn awtomatig.

Gellir newid yr hidlwyr a ddewiswyd trwy glicio arnynt eto i'w 'dad-ddewis'

Gellir clirio'r hidlwyr i gyd gyda'i gilydd trwy glicio ar y botwm 'Clirio Dwisiadau' ar frig y golofn chwith.

Awgrymiadau:

Y mwyaf o hidlwyr y defnyddiwch chi y mwyaf perthnasol fydd eich canlyniadau chwilio.

A fedraf newid sut arddangosir fy nghanlyniadau chwilio?

Yn ddiofyn fe ddangosir eich canlyniadau chwilio fel rhestr testunol ac ar fap. Arddangosir yr un canlyniadau ar y ddau.

Gallwch newid hyn trwy glicio ar yr eiconau uwchben y map ar yr ochr dde:

  • Eicon o nodwr: Canlyniadau ar fap yn unig
  • Eicon o restr: Canlyniadau testunol yn unig
  • Eicon o restr a nodwr: Canlyniadau testunol ac ar fap

Awgrymiadau:

Os ydych wedi defnyddio'r ffwythiant 'Chwilio am Le' mi welwch eich canlyniadau ar fap yn unig. Nid oes modd eu gweld ar ffurf rhestr destunol.

Beth sy'n digwydd wrth glicio ar derm wedi ei danlinellu yn y canlyniadau?

Wrth glicio ar derm wedi ei danlinellu, mi fydd eich canlyniadau yn uwchraddio i ddangos canlyniadau perthnasol i'r term hynny ee byddai clicio ar 'Llangynwyd' yn y maes Enw Map yn dangos pob canlyniad perthnasol ar gyfer map Llangynwyd.

Awgrymiadau:

I bob pwrpas mae hyn yn cynnal chwiliad newydd ar gyfer y term y cliciwyd arno. Nid oes ganddo unrhyw berthynas gyda'ch chwiliad gwreiddiol.

Pam fod rhai geiriau wedi eu huwcholeuo yn y canlyniadau?

Dyma eich term chwilio. Os chwilioch chi am 'Jones' bydd yr enw wedi ei uwcholeuo bob tro y mae'n ymddangos yn y canlyniadau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi weld lle mae eich term chwilio'n ymddangos ee Tirfeddiannwr neu preswyliwr.

A fedraf chwilio o fewn fy nghanlyniadau chwilio?

Gallwch. Ceir blwch chwilio sy'n cynnwys y geiriau 'Chwilio o fewn y canlyniadau hyn' uwchben yr hidlwyr yn y golofn chwith.

Awgrymiadau:

Bydd y chwiliad hwn yn seiliedig ar y canlyniadau sydd gennych eisioes, fel modd o gyfyngu'ch canlyniadau. Os hoffech chi ddechrau chwiliad newydd cliciwch ar y teitl 'Lleoedd Cymru' neu'r eicon o dŷ i'r chwith ohono. Bydd y rhain yn eich tywys yn ôl i'r dudalen flaen lle gallwch ddefnyddio'r ffwythiant chwilio.

A fedraf gadw fy chwiliadau?

Cedwir eich 5 chwiliad diwethaf yn awtomatig. Gellir gweld y rhain trwy glicio ar y botwm 'Hanes Chwilio' ar ochr dde'r linell werdd.

Awgrymiadau:

Gallwch glirio'ch chwiliadau os oes angen trwy glicio ar y ddolen 'Clirio Hanes Chwilio' ar waelod y rhestr.

Beth yw'r nodwyr glas ar ochr chwith bob canlyniad, a pham eu bod yn cynnwys rhifau?

Mae bob canlyniad testunol wedi ei rifo, a nodir y rhifau hyn yn y nodwyr glas ar ochr chwith bob canlyniad.

Mae'r rhifau hyn yn perthyn i'r rhifau a welir ar y map yn yr ochr dde h.y. yr un canlyniadau yw rhif 1 yn y rhestr testunol a rhif 1 ar y map.

Awgrymiadau:

O fynd trwy'r rhestr ganlyniadau testunol, os nad fedrwch chi weld y nodwr cysylltiol ar y map, gallwch glicio ar y nodwr yn y rhestr testunol ('Gweld ar y Map'), ac mi fydd y map yn ail-lwytho a chlosio at y nodwr perthnasol lle bynnag y mae yng Nghymru.

Pam mai dim ond 4 canlyniad testunol a arddangosir ar y tro? Sut mae gweld mwy?

Ar ochr chwith y map mi welwch fod modd symud i fyny ac i lawr y rhestr testunol. Dangosir 100 o ganlyniadau ar y tro yn ddiofyn.

Awgrymiadau:

Dangosir y 100 o ganlyniadau hyn ar y map hefyd, ond mae'n debygol y byddant wedi eu cronni i grwpiau er rhwydduneb.

Gallwch glicio ar y cylchoedd i weld y nodwyr unigol.

 


Canlyniadau chwilio ar fap

Gweld canlyniadau ar ôl chwilio

Beth mae'r eiconau ar y map yn gwneud?

Cornel uchaf chwith

  • Sgwar: Mae hwn yn agor y map fel sgrin lawn (cliciwch ar Esc ar eich allweddair i fynd yn ôl i'r rhyngwyneb arferol)
  • Chwyddwydr: Mae hwn yn chwilio am enwau lleoedd
  • Meinws: gwrthglosio
  • Tŷ: Mae hwn yn eich dychwelyd i'r map gwreiddiol (hy os ydych chi wedi closio neu lusgo'r map, mi fydd hwn yn eich dychwelyd i'r map gwreiddiol)
  • Delwedd o sgwar gyda phren mesur: Mae hwn yn caniatau i chi glicio ar ddau leoliad ar y map a mesur y pellter rhwng y ddau. Gallwch ddileu eich llinellau wedi i chi orffen

Cornel uchaf dde

  • Lloeren: Byddai dewis hwn yn dangos fersiwn lloeren yn lle map modern
  • Modern: Mae hwn yn dangos map modern
  • Tros-haen Degwm: Bydd hwn yn arddangos yr haenen map degwm dros y map modern (bydd llithrydd yn ymddangos i'ch galluogi i newid tryloywder yr haen map degwm dros y map modern)
  • Cuddio/dangos nodwyr: bydd ticio'r blwch yn arddangos y nodwyr canlyniadau chwilio, a bydd tynnu'r tic yn eu cuddio

Beth yw'r cylchoedd gyda rhifau o'u mewn?

Weithiau ceir gormod o ganlyniadau i'w harddangos ar y tro, felly rydym yn eu cyfuno mewn i grwpiau.

Mae'r cylchoedd lliw yn dynodi'r grwpiau hyn. Maent yn gweithio ar system goleuadau traffig, lle mae'r cylchoedd coch yn nodi grwpiau mwy o ganlyniadau, y cylchoedd oren yn nodi grwpiau canolig a'r cylchoedd gwyrdd yn nodi grwpiau bach.

Awgrymiadau:

Mae'r rhif o fewn y cylch yn dynodi sawl canlyniad sydd wedi eu grwpio.

Beth yw'r nodwyr glas a pham eu bod yn cynnwys rhifau?

Canlyniadau unigol yw'r nodwyr glas.

Mae'r rhifau yn perthyn i rifau'r canlyniadau yn y rhestr testunol (hy yr un canlyniadau yw'r ddau)

A fedraf weld yr un wybodaeth canlyniad chwilio ar gyfer y nodwyr ar y map, ac y gallaf weld ar gyfer y canlyniadau testunol?

Gallwch. Os gliciwch chi ar y nodwyr glas ar y map bydd y wybodaeth yn cael ei harddangos. Dyma'r un wybodaeth ag y gwelir ar gyfer y canlyniadau testunol.

Sut fedraf weld y map degwm/rhestr penu gwreiddiol o'r canlyniadau ar y map?

Gallwch weld y map degwm/rhestr penu trwy glicio ar y nodwr glas, ac yna clicio ar y ddolen ar waelod y blwch manylion.

A fedraf symud y map i weld ardal arall?

Gallwch. Mi fedrwch lusgo'r map i arddangos ardal newydd. Os oes canlyniadau chwilio perthnasol i'r ardal newydd, fe arddangosir y rhain.

Gweld canlyniadau ar ôl defnyddio 'Chwilio am Le'

A fedraf weld y canlyniadau fel rhestr testunol?

Na. Dim ond ar fap mae canlyniadau 'Chwilio am Le' ar gael.

Beth mae'r eiconau ar y map yn gwneud?

Cornel uchaf chwith

  • Sgwar: Mae hwn yn agor y map fel sgrin lawn (cliciwch ar Esc ar eich allweddair i fynd yn ôl i'r rhyngwyneb arferol)
  • Chwyddwydr: Mae hwn yn chwilio am enwau lleoedd
  • Meinws: gwrthglosio
  • Tŷ: Mae hwn yn eich dychwelyd i'r map gwreiddiol (hy os ydych chi wedi closio neu lusgo'r map, mi fydd hwn yn eich dychwelyd i'r map gwreiddiol)
  • Delwedd o sgwar gyda phren mesur: Mae hwn yn caniatau i chi glicio ar ddau leoliad ar y map a mesur y pellter rhwng y ddau. Gallwch ddileu eich llinellau wedi i chi orffen

Cornel uchaf dde

  • Lloeren: Byddai dewis hwn yn dangos fersiwn lloeren yn lle map modern
  • Modern: Mae hwn yn dangos map modern
  • Tros-haen Degwm: Bydd hwn yn arddangos yr haenen map degwm dros y map modern (bydd llithrydd yn ymddangos i'ch galluogi i newid tryloywder yr haen map degwm dros y map modern)
  • Cuddio/dangos nodwyr: bydd ticio'r blwch yn arddangos y nodwyr canlyniadau chwilio, a bydd tynnu'r tic yn eu cuddio

Beth yw'r cylchoedd gyda rhifau o'u mewn?

Weithiau ceir gormod o ganlyniadau i'w harddangos ar y tro, felly rydym yn eu cyfuno mewn i grwpiau.

Mae'r cylchoedd lliw yn dynodi'r grwpiau hyn. Maent yn gweithio ar system goleuadau traffig, lle mae'r cylchoedd coch yn nodi grwpiau mwy o ganlyniadau, y cylchoedd oren yn nodi grwpiau canolig a'r cylchoedd gwyrdd yn nodi grwpiau bach.

Awgrymiadau:

Mae'r rhif o fewn y cylch yn dynodi sawl canlyniad sydd wedi eu grwpio.

Beth yw'r nodwyr glas a pham eu bod yn cynnwys rhifau?

Canlyniadau unigol yw'r nodwyr glas.

Mae'r rhifau yn perthyn i rifau'r canlyniadau yn y rhestr testunol (hy yr un canlyniadau yw'r ddau)

Sut fedraf weld y map degwm/rhestr penu gwreiddiol o'r canlyniadau ar y map?

Gallwch weld y map degwm/rhestr penu trwy glicio ar y nodwr glas, ac yna clicio ar y ddolen ar waelod y blwch manylion.

A fedraf symud y map i weld ardal arall?

Gallwch. Mi fedrwch lusgo'r map i arddangos ardal newydd. Os oes canlyniadau chwilio perthnasol i'r ardal newydd, fe ddangosir y rhain.


Gweld y mapiau degwm a'r rhestrau pennu

Sut fedraf weld y mapiau degwm/rhestrau pennu fel sgrin lawn?

Cliciwch ar y ddolen yng ngornel waleod dde'r sgrin sy'n dweud 'Sgrin lawn' gydag eicon o saeth mewn sgwar.

Sut fedraf glosio a gwrthglosio wrth edrych ar fap/rhestr pennu?

Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac mi welwch eiconau'n ymddangos yng nghornel uchaf chwith yr ardal ddu o amgylch y ddelwedd. Cliciwch ar y '+' i glosio a'r '-' i wrthglosio.

Sut fedraf droi'r ddelwedd?

Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac mi welwch eiconau'n ymddangos yng nghornel uchaf chwith yr ardal ddu o amgylch y ddelwedd. Cliciwch ar yr eicon o hanner cylch a saeth i droi'r ddelwedd (mi fydd yn troi chwarter troad gyda'r cloc bob tro).

Sut fedraf symud i dudalen nesaf/flaenorol y rhestr pennu?

Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac mi welwch saeth fechan yn ymddangos bob ochr i'r ddelwedd. Cliciwch ar y saeth ar yr ochr dde i symud i'r ddualen nesaf, a'r saeth ar yr ochr chwith i symud nol i'r dudalen flaenorol.

A fedraf weld rhagflas o'r holl dudalennau o fewn y rhestr pennu heb orfod agor bob un yn unigol?

Gallwch. Cliciwch ar 'CYNNWYS' yn y golofn chwith, ac mi welwch restr o ddelweddau o'r tudalennau o fewn y rhestr pennu.

Sut fedraf weld gwybodaeth berthnasol wrth edrych ar fap/rhestr pennu?

Yn y golofn dde mi welwch 'MWY O WYBODAETH'. Mae'r panel hwn yn cynnig gwybodaeth gefndirol am y cylchgrawn.

Awgrymiadau:

Gallwch gau'r panel os ydych yn dymuno trwy glicio ar y saethau yng nghornel chwith uchaf y golofn. Os ydych yn dymuno ei agor eto, cliciwch ar y saethau ar frig y golofn gaeedig.

Lle gallaf weld gwybodaeth briodoliad ar gyfer y map/rhestr pennu?

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y golofn dde 'MWY O WYBODAETH' neu yn y blwch bach yng nghornel waelod chwith delwedd y map/rhestr pennu.

Awgrymiadau:

Os yw'r blwch priodoliad yn effeithio ar eich gallu i weld y ddelwedd, gallwch gau'r blwch trwy glicio ar y groes fach yn y gornel uchaf dde.

Oes dolen barhaol ar gyfer y map/rhestr pennu rwy'n ei darllen?

Oes. Mi welwch y ddolen barhaol yn y golofn dde 'MWY O WYBODAETH' o dan y teitl 'Dolen barhaol'.

Beth mae'r blwch chwilio o dan y ddelwedd o'r map/rhestr pennu yn chwilio?

Tra'n edrych ar y map/rhestr pennu mi welwch eich term chwilio o dan y ddelwedd. Os gliciwch chi ar y ddolen 'Gwaredu' mi gewch chi flwch chwilio gwag. Gallwch ddefnyddio hwn i chwilio o fewn y map/rhestr pennu rydych yn ei darllen.

Awgrymiadau:

Dim ond y map/rhestr pennu dan sylw fyddwch chi'n chwilio.

Beth yw'r nodwyr glas o dan y map/rhestr pennu?

Mae'r nodwyr glas yn dynodi pob cofnod o'ch term chwilio yn y rhifyn rydych yn ei ddarllen. O glicio ar y nodwr glas, mi fydd y dudalen berthnasol yn agor, gyda'ch term chwilio wedi ei uwcholeuo.

Pam fod rhai geiriau wedi eu huwcholeuo yn y rhestr pennu?

Mae eich termau chwilio wedi eu huwcholeuo'n wyrdd er mwyn ei gwneud hi'n haws i chi ganfod y darn perthnasol ar y dudalen.