Symud i'r prif gynnwys

Hydref 2025

Diwali

Diwali

17 Hyd 2025

Mae Diwali, a elwir hefyd yn Ŵyl y Goleuadau, yn symbol ysbrydol o "fuddugoliaeth y da dros ddrygioni, ymwybyddiaeth dros anwybodaeth a golau dros dywyllwch". Mae'n un o wyliau mwyaf arwyddocaol crefyddau Indiaidd.

Gweld mwy

Genedigaeth y Guru Granth

Genedigaeth y Guru Granth(Sikh)

23 Hyd 2025

Mae Sikhiaid yn dathlu urddo'r teitl Guru ar Sri Guru Granth Sahib Ji (testun cysegredig awdurdodol Sikhaeth) ar y diwrnod hwn, a elwir yn Geni'r Guru Granth.

Gweld mwy

Tachwedd 2025

Diwrnod yr Holl Saint

Diwrnod yr Holl Saint (Cristnogol)

01 Tach 2025

Dethlir Dydd yr Holl Saint gan Babyddion a Christnogion eraill ledled y byd i anrhydeddu pob sant a merthyr ers dechrau Cristnogaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Pob Enaid

Diwrnod Pob Enaid (Cristnogol)

02 Tach 2025

Dethlir Dydd yr Holl Eneidiau fel arwydd o ffydd gan Babyddion i goffau'r holl ffyddloniaid ymadawedig.

Gweld mwy

Pen-blwydd Guru Nanak

Pen-blwydd Guru Nanak(Sikh)

05 Tach 2025

Guru Nanak Dev Ji Gurpurab, a elwir hefyd yn Prakash Utsav Guru Nanak, yw dathliad y Guru Nanak genedigol sef y guru Sikhaidd cyntaf. Ef yw sylfaenydd Sikhaeth ac mae'n uchel ei barch gan y gymuned Sikhaidd. Dyma un o wyliau mwyaf cysegredig Sikhaeth.

Gweld mwy

Rhagfyr 2025

Dydd Bodhi

Dydd Bodhi

07 Rhag 2025

Dethlir Diwrnod Bodhi gan nifer o draddodiadau i goffáu cyrhaeddiad Gautama Buddha ’i oleuedigaeth. Yn ôl y traddodiad, eisteddodd Siddhartha dan goeden mewn myfyrdod dwfn, gan fyfyrio ar brofiadau amrywiol bywyd ac yn benderfynol i ddod o hyd i'r gwirionedd. Yno y daeth o hyd i oleuedigaeth a daeth yn Fwda.

Gweld mwy

Hanukkah

Hanukkah (Iddewiaeth)

14 Rhag 2025 - 22 Rhag 2025

Mae Hanukkah yn wledd mewn Iddewiaeth sy'n coffáu adferiad Jerwsalem ac ailgysegriad y deml. Fe'i cedwir trwy oleuo canhwyllau, canu caneuon Hanukkah a bwyta bwydydd arbennig fel latkes a sufganiyot.

Gweld mwy

Dydd Nadolig

Dydd Nadolig

25 Rhag 2025

Mae’r Nadolig yn ddathliad blynyddol, i’goffáu genedigaeth Iesu Grist. Mae'n ŵyl grefyddol a diwylliannol a ddethlir gan filiynau o bobl, ac mae’n llawn o gariad, anrhegion, teulu a llawenydd.

Gweld mwy

Ionawr 2026

Ystwyll

Ystwyll (Cristnogol)

06 Ion 2026

Mae'r Ystwyll yn cael ei dathlu i goffáu ymweliad y tri gŵr doeth â’r baban Iesu, ei fedydd a’i ddatguddiad yn y briodas yng Nghana. Caiff ei dathlu fel 'Nadolig Bach' mewn rhai traddodiadau.

Gweld mwy

Pen-blwydd Guru Gobind Singh

Pen-blwydd Guru Gobind Singh (Sikh)

20 Ion 2026

Gobind Das, neu Gobind Singh, oedd y degfed guru Sikhaidd dynol a'r olaf. Yr oedd yn fardd, yn athronydd ac yn rhyfelwr. Ymysg ei gyfraniadau sylweddol i Sikhaeth mae creu'r urdd filwrol Sikhaidd sy'n cael ei adnabod fel y Khalsa yn 1699, a chwblhau ac ymgorffori’r Guru Granth Sahib fel y llyfr sanctaidd a’r Guru tragwyddol.

Gweld mwy