Gŵyl gerddorol flynyddol Geltaidd a rhyngwladol a gynhelir yn nhref Dolgellau yng Nghymru yw Sesiwn Fawr Dolgellau. Sefydlwyd y digwyddiad yn 1992, ac yn y blynyddoedd cynnar fe’i cynhaliwyd yn strydoedd y dref cyn symud i’r Marian Mawr am gyfnod. Erbyn hyn mae’n ôl yng nghanol y dre, ac yn troi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog, gyda cherddoriaeth, llên, comedi a gweithgareddau i blant yn cael eu llwyfannu ar draws amrywiol leoliadau.Ceir mwy yn ein casgliadau isod;
- Tydi'r sgwâr ddim digon mawr : hynt a helynt y Sesiwn Fawr 1992-2022
- Sesiwn Fawr, Dolgellau graphic
- Sesiwn Fawr Dolgellau [electronic resource]
Categorïau: Amrywedd, Diwylliannol