Symud i'r prif gynnwys

Ebrill 2026

Sul y Pasg

Sul y Pasg (Cristnogol)

05 Ebr 2026

Mae'r Pasg yn un o wyliau pwysicaf y calendr Cristnogol. Mae'n coffáu atgyfodiad Iesu Grist ar y trydydd dydd wedi ei farwolaeth.

Gweld mwy

Pascha

Pascha (Dydd y Pasg y Cristion Uniongred)

12 Ebr 2026

Mae'r Eglwys Uniongred yn galw Diwrnod y Pasg yn Pascha.Mae'n cael ei ddathlu wrth gyflawni proffwydoliaeth Meseia a'i atgyfodiad oddi wrth y meirw.

Gweld mwy

Genedigaeth y Khalsa

Genedigaeth y Khalsa (Sikh)

13 Ebr 2026

Yn 1699 yn Anandpur Sahib, sefydlodd Guru Gobind Singh y Khalsa Panth. Mae'n diffinio grŵp o bobl sy'n ymarfer Sikhaeth yn ogystal â grŵp arbennig sydd wedi'u derbyn i'r ffydd.

Gweld mwy

Mai 2026

Dydd Bodhi

Vesak, Diwrnod Bwdha (Bwdaidd)

01 Mai 2026

Mae Vesak yn ŵyl sy'n cael ei nodi gan Fwdhyddion mewn sawl rhan o'r byd. Fe'i gelwir hefyd yn Bwdha Jayanti, Bwdha Purnima, Diwrnod Bwdha. Dyma'r ŵyl Fwdhaidd bwysicaf yn y calendr, ac mae addurno a rhoi offrymau yn y deml yn rhan ohoni.

Gweld mwy

Deuddegfed Diwrnod Ridvan (Baha'i)

01 Mai 2026

Mae Deuddegfed Dydd Ridván yn un o wyliau pwysig af y Ffydd Bahá'í. Mae’n dathlu dechrau’r ffydd yn 1863 a’r datganiad gan Baha’u’llah fel amlygiad o Dduw.

Gweld mwy

Diwrnod Sant Sara

Diwrnod Sant Sara (Roma)

24 Mai 2026

Santes Sara, a elwir hefyd yn Sara-la-Kâli neu Sara Ddu yw nawddsant y Romani a' phobl sydd wedi'u dadleoli. Dywedir ei bod yn llawforwyn Eifftaidd i Mair Magdalen.

Gweld mwy

Pentecost

Pentecost (Cristnogol)

24 Mai 2026

Dethlir y Pentecost hanner can niwrnod ar ôl y Pasg gan Gristnogion ledled y byd. Mae'n coffáu disgyniad yr Ysbryd Glân ar apostolion Iesu Grist.

Gweld mwy

Eid Al Adha

Eid Al Adha (Islam)

27 Mai 2026 - 27 Mai 2026

Dethlir Eid al-Adha ,a elwir hefyd yn wledd aberth ,sy'n cael ei dathlu gan Fwslemiaid ledled y byd. Mae'r dathliadau yn cynnwys mynychu'r gweddïau arbennig a gynhelir mewn mosgiau mawr a chanolfannau Islamaidd.

Gweld mwy

Mehefin 2026

Corpus Cristi

Corpus Cristi (Cristnogol)

04 Meh 2026

Gelwir Gŵyl Corpws Christi hefyd yn Ddifrifoldeb Corff a Gwaed Sancteiddiolaf Crist. Mae'n un o wyliau Eglwysi Uniongred, Lwtheraidd, Anglicanaidd a Lladin y Gorllewin a ddethlir er parch i ddwyfoldeb a phresenoldeb Iesu yn y Cymun sanctaidd.

Gweld mwy

Gorffennaf 2026

Tish’a B’av

Tish'a B'av (Iddewiaeth)

22 Gorff 2026 - 23 Gorff 2026

Mae Tisha B'Av yn ddiwrnod ympryd blynyddol mewn Iddewiaeth, ac mae'n cael ei ystyried fel y diwrnod tristaf yn y calendr Iddewig. Fe'i defnyddir i gofio’r holl drychinebau sydd wedi digwydd i'r bobl Iddewig fel yr holocost a dinistr teml Solomon. Mae'n cael ei ystyried yn ddiwrnod o alaru.

Gweld mwy