Symposiwm Mapiau Cymru 2018 – Siartio’r Moroedd
Ar y 18fed o Fai 2018 cynhelir Carto-Cymru-Symposiwm Mapiau Cymru 2018: Siartio’r Moroedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Bydd y gynhadledd yn edrych ar sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir mapio o’r fath i ehangu’n dealltwriaeth o’r amgylcheddau hyn. Mae’r symposiwm yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhannu'r cyfoeth o ddeunydd cartograffig sydd ar gael i ymchwilwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Dirprwy Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae'n briodol bod y symposiwm mapiau yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cartref i'r casgliad mapiau mwyaf yng Nghymru, ac un o'r mwyaf yn y Byd ac rwy'n hyderus y bydd yn cynnig y cyfle i arddangos cyfoeth ein casgliad mapiau sy'n perthyn i bobl Cymru”
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
James Barry
Geowyddonydd Morol, Arolwg Dearegol o Iwerddon
Rob Shaw
Uwch Geo-Arolygydd Rhaglen darganfod, Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon
Daniel Hunt
Ymchwilydd Prosiect CHERISH, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Megan Barford
Curadur Cartograffeg, Amgueddfeydd Brenhinol Greenwich
Adrian Webb
Pennaeth yr Archif, Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Unedig
Dr Hywel Griffiths
Uwch – Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth
Gwilym Tawy
Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Deaanna Groom
Uwch Ymchwilydd (Arforol) Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Meddai Huw Thomas, Curadur Mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Dyma drydydd digwyddiad Carto-Cymru wedi ei drefnu ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol ar Comisiwn Brenhinol, ac rydym yn ffodus iawn i gael siaradwyr gwych. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael arddangos yr ystod eang o ddeunydd cartograffig sy’n rhan o’r Casgliad Mapiau Cenedlaethol. Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod difyr iawn”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Mae’r Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros filiwn o ddalennau o fapiau, siartiau a chynlluniau yn ogystal â miloedd o atlasau. Dyma’r casgliad mwyaf o fapiau yng Nghymru, ac un o’r mwyaf yn Ynysoedd Prydain. Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau, o’r mapio electronig diweddaraf i fapiau a siartiau ar felwm o’r 16eg. Mae’r casgliad yn arbenigo mewn deunyddiau Cymreig; ond mae ynddo hefyd nifer fawr o eitemau sy’n cynnwys gweddill y byd.
Trwy gyfrwng Adnau Cyfreithiol, mae gan y Llyfrgell yr hawl i dderbyn copi o bob map ac atlas printiedig a gyhoeddir yn Ynysoedd Prydain. Mae newidiadau diweddar i’r gyfraith yn golygu y bydd hyn yn cael ei ymestyn maes o law i gynnwys mapiau electronig yn ogystal, gan gynnwys data sy’n cael ei greu mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).
Tocynnau
Digwyddiadau
#CartoCymru
#CaruMapiau
#BlwyddynyMôr