Penodi Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Newydd
13.12.18
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi mai Pedr ap Llwyd fydd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru pan fydd Linda Tomos yn ymddeol ym mis Ebrill 2019.
Ar hyn o bryd mae Pedr, sy’n wreiddiol o Benrhyndeudraeth, yn Gyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd, a bu’n Ysgrifennydd a Phennaeth Llywodraethiant y sefydliad cyn hynny. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor lle y cwblhaodd radd uwch mewn archifaeth. Yn ystod ei gyfnod yn y Llyfrgell y mae hefyd wedi arbenigo a chymhwyso ym maes llywodraethiant ac adnoddau dynol.
Meddai Rhodri Glyn Thomas, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’n bleser croesawu Pedr ap Llwyd i’r swydd allweddol yma i adeiladu ar y gwaith gwych sy’n cael ei gyflawni gan Linda Tomos, ac i arwain y Llyfrgell i gyfnod cyffrous a heriol.”
Dywedodd Pedr ap Llwyd:
“Un o’r breintiau mwyaf sydd wedi dod i’m rhan i yw cael fy mhenodi’n bennaeth y sefydliad rhagorol hwn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i barhau’r gwaith clodwiw sydd wedi’i gyflawni dan arweinyddiaeth Linda Tomos a gweithredu cynlluniau newydd, cyffrous sy’n mynd i amlygu cyfoeth ein casgliadau a’n gwasanaethau. Llyfrgell i bawb yw hon a bydd ceisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd fydd yn elwa o’n gwasanaethau yn flaenoriaeth gennyf”.
Gwybodaeth Bellach
Carol Edwards (Rheolwr Llywodraethiant a Chlerc Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru), carol.edwards@llyfrgell.cymru neu 01970 632923.