Symud i'r prif gynnwys

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi Awr Ddaear 2018

19.03.2018

Ar nos Sadwrn 24 Mawrth 2018 am 8.30pm, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn diffodd ein goleuadau am awr i gefnogi Awr Ddaear WWF.

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â miliynau o bobl, dinasoedd, cymunedau a thirnodau o gwmpas y byd mewn arddangosiad gweledol byd-eang o ymrwymiad i fynd i’r afael â materion amgylcheddol sy’n galw am sylw ar frys ac i warchod ein planed.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn gweithredu trwy wneud addewid #PromiseForThePlanet i roi cynaliadwyedd wrth wraidd ein cynllunio.  Mae ein gweithwyr hefyd yn cael eu hannog i wneud eu haddewidion eu hunain i newid un peth yn eu bywydau pob dydd a fydd yn helpu i warchod ein planed.

Dywedodd Huw Thomas, Pennaeth Ystadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gefnogi Awr Ddaear WWF unwaith eto eleni. Mae gan sefydliadau cyhoeddus fel ni ran fawr i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiffodd y goleuadau yn y Llyfrgell am 8.30pm ar nos Sadwrn 24 Mawrth i ddangos ein cefnogaeth”
 
Ychwanegodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:


“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi Awr Ddaear WWF eleni. Mae'r bywyd gwyllt yr ydym yn caru, o adar y pâl i eirth gwyn, mewn perygl o effeithiau newid hinsawdd, llygredd a gorddefnydd.

"Dyna pam eleni, yn ogystal â throi goleuadau bant ar 24 Mawrth, rydym yn gofyn i bobl gymryd cam bach i leihau eu heffaith ar y blaned

Gall pawb - unigolion, busnesau grwpiau yn y gymuned - gwneud Addewid am y Blaned gyda #PromiseForThePlanet ag ar 'Earth Hour Wales'.

Rydym yn annog ein cymuned leol a phartneriaid yn Aberystwyth a tu hwnt i wneud addewid #PromiseForThePlanet ac ymuno â’r ymgyrch fyd-eang i ddiffodd goleuadau ar gyfer Awr Ddaear ar nos Sadwrn 24 Mawrth am 8.30yh. Ymunwch â ni wrth ddangos eich cefnogaeth i fyd mwy disglair, gwell a mwy cynaliadwy.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud addewid ewch i dudalen Awr Ddaear

Nodiadau i olygyddion

Ymunwch â’r sgwrs ar Twitter gyda’r hashnod #AwrDdaearCymru, #PromiseForThePlanet a thrwy ddilyn @wwfcymru

Ynghylch Awr Ddaear
Mae Awr Ddaear WWF yn fudiad byd-eang sy’n uno pobl i warchod y blaned. Digwyddiad y llynedd oedd y mwyaf hyd yma, wrth i gannoedd o filiynau o bobl gymryd rhan mewn 162 owledydd a 7,000 o drefi a dinasoedd, niferoedd sy’n record, ynghyd ag adeiladau a strwythurau byd enwog, o Dŷ Opera Sydney i Times Square yn Efrog Newydd. Yn 2018 cynhelir Awr Ddaear ar nos Sadwrn 24 Mawrth rhwng 8.30pm a 9.30pm. wwf.org.uk/awrddaear

Mae’r Addewidion yn newydd am 2018, lle hoffir WWF gweld gweithrediad sy’n myn yn bellach na’r awr. Camau bach yw’r addewidion #PromiseForThePlanet, on dos mae niferoedd mae yn eu gwneud, yna byddwn yn cael effaith hir dymor ar ein planed

Ynghylch WWF
WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy’n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Trwy ei hymwneud â’r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, maent yn canolbwyntio ar ddiogelu’r byd natur, gan greu atebion i’r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch wybod mwy am ei waith, yn y gorffennol a’r presennol ar wwf.org.uk.
 

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk