Caffi Pen Dinas yn troi'n wyrdd
12.03.2018
Mae Caffi Pen Dinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi newid o fod yn defnyddio plastig neu gardfwrdd sydd yn methu cael ei ailgylchu i ddefnyddio eitemau Vegware. Mae’r cyfarpar yma wedi cael ei wneud o blanhigion, ac er fod nifer o’r cyfarpar yn edrych yn debyg, maent yn hollol wahanol o ran eu heffaith ar yr amgylchedd.
Dywedodd Heather Davies, rheolwraig Caffi Pen Dinas:
“Mae mentrau megis Aberystwyth Ddi-Blastig wedi ein hybu ni i feddwl nid yn unig am y gost o gynnyrch tafladwy, ond hefyd, yr effaith hir dymor ar beth sydd yn digwydd i’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu”.
Crystal Cymru yw’r cyflenwr cyntaf yng Nghanolbarth Cymru i stocio’r eitemau yma, ac mae’r cynhyrchion sydd ar gael yn gallu amrywio o gwpanau te, llwyau, bocs cyffredin i focs brechdanau.
Dywed Vegware:
“Mae ein cynnyrch tafladwy yn garbon isel, wedi'i wneud o ddeunyddiau adnewyddadwy neu wedi ei ailgylchu, a gellir eu compostio i gyd gyda gwastraff bwyd lle mae cyfleusterau'n bodoli.”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Vegware