Symud i'r prif gynnwys

Arddangosfa Gyntaf Lluniau Badau Achub ‘Epig’ ar Agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

19.04.2018

Mae’r ffotograffydd Jack Lowe ar daith i dynnu lluniau pob un o’r 238 gorsaf bad achub yr RNLI, gan ddefnyddio colodion ar blatiau gwlyb, proses Fictoraidd sy’n creu delweddau ffotograffig anhygoel ar wydr.

Yn hwyrach y mis hwn bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r RNLI yn cynnal digwyddiad ar y cyd i ddathlu arddangosfa o waith Jack, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 2017.

Mae Jack wedi bod ar daith ers tair mlynedd, ac wedi ymweld â 100 o orsafoedd erbyn hyn, sef bron i hanner ffordd drwy’r sialens. 

Yn 2017, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ddetholiad o brintiau Jack ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig.

Yn awr maen nhw’n cynnal yr arddangosfa gyntaf o’r delweddau hynny: portreadau pwerus o orsafoedd bad achub Cymru a’u criwiau o wirfoddolwyr dewr. Mae’r arddangosfa, sydd yn rhad ac am ddim, yn rhedeg hyd Mawrth 2019 ac yn llunio rhan o gyfraniad LlGC at ‘Flwyddyn y Môr’ Llywodraeth Cymru, blwyddyn gyfan o ddathlu glannau epig Cymru.

Dyma hefyd ymddangosiad cyntaf unrhyw brintiau o The Lifeboat Station Project, menter ysbrydoledig sydd wedi ennill cryn dipyn o sylw’r wasg genedlaethol yn ogystal â denu llwyth o ddilynwyr arlein. Mae’r fenter wedi datblygu’n un o’r prosiectau ffotograffig mwyaf erioed, a dylai dod i ben yn 2021.

Bydd ‘Diwrnod Hwyl Bad Achub' yn y Llyfrgell ar Ebrill 28 i ddathlu’r arddangosfa ac i nodi Blwyddyn y Môr. Bydd Jack wrth law drwy’r dydd, gan roi dangosiadau o’i ddull ffotograffiaeth unigryw. Bydd hefyd cystadleuaeth taflu welis, bad achub i’w archwilio a gweithgareddau i’r plant, gan gynnwys peintio wynebau, adrodd straeon morwrol a helfa drysor.

Bydd adeilad eiconig y Llyfrgell hefyd yn cael ei oleuo’n felyn er mwyn codi ymwybyddiaeth o apêl blynyddol yr elusen badau achub, ‘Mayday’, sy’n rhedeg trwy gydol mis Mai.

Mae Jack, sy’n byw yn Newcastle-upon-Tyne, yn edrych ymlaen at y digwyddiad ac yn falch iawn fod ei waith ar gael i’w weld yn y Llyfrgell:

 “Dyma’r tro cyntaf i’m ffotograffau gael eu cydnabod ar lefel genedlaethol fel hyn. Wnes i freuddwydio y gall ddigwydd rhyw ddiwrnod ond wnes i byth ddisgwyl y fath gydnabyddiaeth tra fy mod i yng nghanol creu’r gwaith.”

“Rwy’ wrth fy modd dros wirfoddolwyr yr RNLI hefyd. Allai ddim creu’r ffotograffau yma hebddyn nhw, felly mae’n wych gweld ein criwiau badau achub dewr, merched a dynion, yn cael eu rhoi ar bedestal mor uchel.”

Mae Jack wedi bod wrth ei fodd â ffotograffiaeth a badau achub ers yn fachgen – ac mae’n dweud i The Lifeboat Station Project dyfu o gyfuno’r ddau ddiddordeb.
Ers 2015, mae Jack wedi bod yn teithio i orsafoedd bad achub ar hyd y DU ac Iwerddon yn ei ystafell dywyll symudol – hen ambiwlans GIG o’r enw ‘Neena’.
Ei brosiect fydd y cofnod ffotograffig cyflawn cyntaf o bob un o’r gorsafoedd badau achub ar rhwydwaith yr RNLI – a bydd yn talu teyrnged parhaus i’r gwirfoddolwyr dewr o bob cefndir sy’n griw ar y badau achub.

Tynnwyd ffotograffau Jack a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng ngorsafoedd bad achub Aberystwyth, Angl, Cei Newydd, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi.
Maen nhw ar gadw yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig, sy’n cynnwys dros filiwn o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru. Mae’r rhain yn amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol dyddiau cynharaf y cyfrwng i bortffolios gan artistiaid cyfoes.

Meddai Will Troughton, Curadur Ffotograffau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae ffotograffau Jack yn bwysig i’r Llyfrgell Genedlaethol mewn sawl ffordd. Maen nhw’n rhan o gofnod dogfennol systematig o orsafoedd RNLI Cymru, y cyntaf i gael ei gynnig i’r Llyfrgell.”

“Mae ei ddefnydd o gamera Fictoraidd a phlatiau gwydr yn creu ffotograffau atmosfferig, mesmeraidd, a deniadol. Mae’r defnydd o ddu a gwyn yn creu delweddau diamser ac yn pwysleisio aelodau’r criw yn hytrach na’u cyfarpar lliwgar yn ogystal â chreu cyswllt â’n  lluniau hanesyddol o griwiau badau achub.”

Meddai Paul McCann, aelod o griw RNLI Aberystwyth, fod y profiad o gymryd rhan yn The Lifeboat Station Project wedi bod yn un pleserus i aelodau’r orsaf.

“Roedd hi’n ddiwrnod gwych. Dwi’n meddwl fod rhai ychydig yn amheus o’r peth cyn cychwyn, heb wybod beth i ddisgwyl mewn gwirionedd, ond roedd hi’n brofiad gwahanol iawn i’r lluniau criw arferol sy’n cael eu tynnu. Roedd pob un wedi’u syfrdanu wrth weld y delweddau’n datblygu ar y platiau gwydr yn y fan a’r lle.”

Wrth lawrlwytho ap Smartify, gall ymwelwyr â’r arddangosfa gael mynediad at gynnwys ychwanegol – gan gynnwys cyfweliadau sain rhwng Jack a chriw y badau achub i gyd-fynd a’i ffotograffau.

Nodiadau i Olygyddion

Bydd y digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhedeg o 11yb hyd 3yp ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 28. Bydd Caffi Pen Dinas ar agor rhwng 10yb a 4ypi ddarparu lluniaeth.

Mae croeso i’r wasg fynychu’r digwyddiad i dynnu lluniau neu i gyfweld â Jack – cysylltwch â Rheolwr PR yr RNLI Danielle Rush ar 07786 668829 neu â Swyddfa Wasg yr RNLI ar 01202 336789

Dylai aelodau’r wasg sy’n dymuno ymweld â’r Llyfrgell ar gyfer cyfweliadau neu ffilmio cyn neu ar ôl y digwyddiad gysylltu gydag Elin-Hâf ar 01970 632471 neu post@llgc.org.uk.


Mae croeso hefyd i’r wasg lawrlwytho’r fideo/lluniau atodol i’w defnyddio gyda’r cydnabyddiaeth addas. Mae mwy o luniau ar gael os dymunir. Cysylltwch â Swyddfa Wasg yr RNLI ar 01202 336789 neu ebostiwch Jack yn uniongyrchol ar jack@jacklowe.com.

Mae’r arddangosfa ffotograffau, sy’n rhad ac am ddim, yn rhedeg hyd y 9fed o Fawrth 2019.

Mwy o wybodaeth am apêl MayDay yr RNLI (Saesneg)
Mae holl ddelweddau Jack Lowe a brynwyd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gael i’w gweld yma.

I ddarganfod The Lifeboat Station Project arlein:
The Lifeboat Station Project
Instagram @lordlowe

Twitter @ProjectLifeboat

Facebook @LifeboatStationProject