Symud i'r prif gynnwys

Y Gymdeithas Archifau a Chofnodion yn Cyhoeddi Ymgyrch i Hybu Gwaith Allweddol Cadwraethwyr Archifau

Lansio ‘ArchI’ve Preserved and Conserved’ ar 27 Mehefin 2017 ym Mhalas San Steffan, Llundain

21 Mehefin 2017


Heddiw mae Cymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon) yn cyhoeddi y bydd yn lansio ymgyrch i hybu sgiliau unigryw a hynod arbenigol cadwraethwyr archifau.

Enw’r ymgyrch yw ArchI’ve Preserved and Conserved, ac mae'n rhan o ymgyrch flynyddol Explore Your Archive sy’n hybu amrywiaeth a phwysigrwydd daliadau drwy sector treftadaeth ddogfennol y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae digwyddiadau o dan ArchI’ve Preserved and Conserved ar y gweill yn 2017 yn yr Alban, Cymru, Iwerddon yn ogystal â nifer o ddinasoedd a rhanbarthau o Loegr, fel Swydd Gaer, Gorllewin Swydd Efrog, Sheffield a mwy. Bydd arbenigwyr o’r gwledydd a’r rhanbarthau hyn wrth law i arddangos technegau a sgiliau cadwraeth archifau wrth i’r ymgyrch gael ei lansio yn Nhŷ’r Arglwyddi yn San Steffan ar 27 Mehefin.

Syniad gan gymuned cadwraethwyr y Gymdeithas Archifau a Chofnodion oedd ArchI’ve Preserved and Conserved. Bydd yn arddangos yr amrywiaeth o sgiliau arbenigol a’r dulliau arloesol newydd y mae cadwraethwyr yn eu defnyddio i ddiogelu treftadaeth ddogfennol yr ynysoedd hyn a’u gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ymysg yr enghreifftiau mae trwsio ac adfer papur bregus a rholiau memrwn, seliau hynafol, past gwenith a cyclododecane i warchod mwy o ddelweddau modern, rhwymo llyfrau, mapiau a mwy

Meddai John Chambers, Prif Weithredwr y Gymdeithas Archifau a Chofnodion:

“Rwy’n hynod o falch bod y gymuned cadwraethwyr archifau’n cael mwy o sylw am ei rôl arbennig – yn wir hollbwysig – yn diogelu treftadaeth ddogfennol y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Heb eu hymrwymiad a’u hymroddiad, byddai llawer o’r dreftadaeth amhrisiadwy hon – boed ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol – mewn perygl. Eto i gyd nid yw’r cyhoedd a’u cynrychiolwyr yn ymwybodol ar y cyfan o’r rôl hollbwysig y mae cadwraethwyr yn ei chwarae.

Ynghyd ag archifwyr a rheolwyr cofnodion sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, mae nifer o gadwraethwyr wedi dioddef oherwydd toriadau mewn adnoddau yn y blynyddoedd diwethaf. Felly rwy’n gobeithio y bydd cynifer â phosibl o AS, Arglwyddi ac aelodau o’r gymuned cadw cofnodion yn dangos eu cefnogaeth a’u diddordeb ac yn galw heibio i’r lansiad ArchI’ve Preserved and Conserved  yn San Steffan ar 27 Mehefin, ac yn mynd i un neu ragor o ddigwyddiadau’r ymgyrch mewn lleoliadau eraill yn ddiweddarach eleni. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Archifau Seneddol y DU am eu cymorth a’u cefnogaeth i gynllunio’r lansiad.”

Ychwanegodd Huw Bonner, Swyddog Cadwraeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac un o’r rhai sy’n trefnu a chymryd rhan yn yr ymgyrch:

"Ein treftadaeth ddogfennol yw ein hanes – ein presennol a’n dyfodol. Mae cadwraethwyr yn defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i warchod a diogelu dogfennau ar sawl ffurf.

Fel cadwraethwyr archifau, allwn ni ddim gorbwysleisio mor bwysig yw diogelu, a meithrin sgiliau cadwraeth archifau traddodiadol, yn cynnwys yn yr oes ddigidol. Bydd ArchI’ve Preserved and Conserved yn tanlinellu'r rôl bwysig sydd gan gadwraethwyr i warchod lles ffisegol y dogfennau, trwy sefydlogi a’u gwneud yn bosibl eu digido ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Heb ymyrraeth arbenigol y cadwraethwr traddodiadol byddai’n amhosibl digido unrhyw gasgliad dogfennol yn llwyr. "

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org,uk

Nodiadau i’r golygyddion

Cynhelir y lansiad yn San Steffan yn Ystafell Bwyllgor G, Tŷ’r Arglwyddi  ar 27 Mehefin, rhwng 2pm a 5pm. Dylai AS, Arglwyddi, eu staff a’u cysylltiadau, yr holl gadwraethwyr ac unrhyw aelod o’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion gysylltu â jon.elliott@archives.org.uk  

Mae Explore Your Archive yn eiddo i’r gymuned archifau a rheoli cofnodion drwy’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Ar hyn o bryd caiff ei weinyddu ar y cyfan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion ac Archifau Cenedlaethau y DU, mewn partneriaeth â chyrff (sector cyhoeddus) yng Nghymru, yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr, yn ogystal â phartneriaid ac ymarferwyr mewn sectorau preifat a gwirfoddol, yn cynnwys Cyngor Archifau Busnes. Ceir manylion pellach am yr ymgyrch ar www.exploreyourarchive.org

Mae Cymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon) yn gweithredu fel y corff proffesiynol ac aelodaeth arweiniol i archifwyr, rheolwyr cofnodion a chadwraethwyr yn Ynysoedd Prydain. Ar hyn o bryd mae tua 2,500 o aelodau ac mae’r nifer hwnnw wedi bod yn cynyddu’n raddol yn y pum mlynedd ddiwethaf. I gael mwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i ymuno, ewch i : www.archives.org.uk