Siopa Nadolig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
16.11.2017
Ydych chi wedi dechrau siopa Nadolig eto? Os na, ewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru nos Fercher, 6 Rhagfyr ble bydd gwledd o weithgaredd ar eich cyfer. Cyfle i siopa, bwyta, blasu gwin, ac i wrando ar lais unigryw’r gantores Linda Griffiths.
Bydd y dathliadau yn dechrau am hanner dydd pan weinir cinio Nadolig traddodiadol yng Nghaffi Pen Dinas (un cwrs yn £8.00 a dau gwrs yn £12.00). Bydd nwyddau chwaethus yn Siop y Llyfrgell, a thros 20 o stondinau gan artistiaid a chrefftwyr lleol, ac adloniant byw yng nghwmni, ‘Swynol’, a Linda Griffiths – fydd hefyd ar gael i lofnodi ei chyhoeddiad newydd; ‘Seidir Ddoe’.
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu i ddenu cynulleidfa o bob oed ac i’r rhai iau bydd Groto Siôn Corn am 5:00 tan 6:00pm, a gofod i fod yn grëadigol i greu addurniadau Nadolig.
Bydd Caffi Pen Dinas yn gweini lluniaeth ysgafn o 5:30 – 6:30pm. Bydd y Caffi hefyd yn llawn bwrlwm yng nghwmni awduron lleol gan gynnwys Wynne Melville Jones a Valériane Leblond a bydd Dylan a Llinos Rowlands, Gwin Dylanwad Wine, Dolgellau yn bresennol i gynghori a chynnig sesiwn blasu gwin. Cyfle delfrydol i holi cyngor y ddau ar pa win fyddai’n gweddu orau i fwydydd tymhorol y Nadolig.
Bydd y sawl sydd â diddordeb mewn ffasiwn yn falch iawn o glywed y bydd siopau ‘Rig Out’ a ‘Chess’ o Landeilo yn bresennol. Esgus bach perffaith i dretio eich hun, efallai?!
Os am drefnu bwrdd ar gyfer y cinio Nadolig cysyllter â 01970 632 548