Symud i'r prif gynnwys

 Partneriaeth i sefydlu archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru

04.04.2017

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru  â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru  wedi cyhoeddi cytundeb partneriaeth er mwyn diogelu cofnodion y Cynulliad  i’r dyfodol.

Bydd y ddau gorff yn dod at ei gilydd i lunio strategaeth archifau ar gyfer y Cynulliad ac yn ystod y chwe mis nesaf, drwy’r  bartneriaeth, bydd archif a chofnodion hanesyddol hynod bwysig ac arwyddocaol y Cynulliad yn dechrau cael ei symud i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd y cofnodion yn cynnwys deddfwriaeth, adroddiadau pwyllgorau, datganiadau Llywodraeth Cymru a’r Trafodion  – sef yr hyn sy’n cyfateb yn y Cynulliad i Hansard – a byddant yn cael eu harchifo gan y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd y prosiect yn golygu y bydd copiau caled ac electroneg o ddogfennau ar gael i’r cyhoedd gan ategu ymrwymiad y Cynulliad i fod yn agored a bod yn dryloyw.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Rwy’n ymrwymedig i ddemocratiaeth tryloyw  ac yr wyf eisiau sicrhau fod ein cofnodion seneddol yn hygyrch a hawdd ei chwilio gan ddefnyddwyr heddiw ac ymchwilwyr y dyfodol, a hynny er mwyn ein helpu i fedru dweud stori ein corff deddfwriaethol. Mae’r Cynulliad yn ffodus i gael  Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel partner sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i’n cynorthwyo gyda diogelu’r archif pwysig ac unigryw hwn i’r dyfodol”.

Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd,  Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Bydd derbyn archif a chofnodion ein Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegiadau pwysig i’n casgliadau cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar i Lywydd y Cynulliad am iddi gydnabod pwysigrwydd yr archif hwn a’i pharodrwydd i drosglwyddo’r cofnodion i ofal y Llyfrgell Genedlaethol. Ymhen amser bydd haneswyr cyfansoddiadol y dyfodol yn profi gwerth yr archif yma wrth iddyn nhw ymchwilio i flynyddoedd cynnar ein Cynulliad”.

Gwybodaeth Bellach

Elin Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk