Pam goleuo’r Llyfrgell Genedlaethol yn biws?
20.10.2017
Ar nos Fawrth y 24ain o Hydref bydd adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi ei oleuo yn biws.
Pam hynny medde chi?
Mae’r Llyfrgell yn cefnogi ymgyrch Clwb Rotari Aberystwyth a Chlybiau Rotari ledled y byd i roi terfyn ar Polio.
Feirws yw polio sy’n medru ymosod ar y system nerfol a gall achosi parlys parhaol yn y cyhyrau. Os yw’n effeithio ar gyhyrau’r frest neu’r ymennydd, mae polio yn gallu lladd. Cyn i frechlyn polio gael ei gyflwyno, roedd cymaint â 350,000 o achosion yn fyd eang bob blwyddyn, gan gynnwys 8,000 achos yn y DU mewn blynyddoedd epidemig. Caiff polio ei ledaenu yn bennaf drwy lyncu deunydd sy’n cynnwys y feirws.
Meddai Martin Davies, Llywydd Clwb Rotari Aberystwyth:
“Rydym yn hynod o falch fod y Llyfrgell Genedlaethol yn cefnogi’r achos teilwng hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth a cheisio rhoi terfyn ar Polio. Rydym yn gofyn yn garedig i’r cyhoedd i wneud tri pheth bach, sef dysgu, rhannu a chyfrannu.
Mae’n rhaid cael gwared a polio neu mewn 10 mlynedd gallwn weld hyd at 200,000 o achosion newydd bob blwyddyn dros y byd i gyd. Oni bai ein bod yn cyrraedd pob plentyn dros y byd gyda’r brechlyn, nid oes ‘run plentyn yn ddiogel.”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau
Mae Clwb Rotari Aberystwyth yn glwb gyda 40 o aelodau.
Maent yn cwrdd yn wythnosol i gymdeithasu a threfnu digwyddiadau elusennol.
@Rotary
@EndPolioNow