Symud i'r prif gynnwys

Lansio ymgyrch Archwilio eich Archif yn Archifdau Morgannwg

14.11.2017

Ar ddydd Gwener 17eg o Dachwedd bydd ymgyrch Archwilio eich Archif yn cael ei lansio yn swyddogol yn Archifau Morgannwg gan y gyflwynwraig ar ddarlledwraig Mari Grug.

Nod ymgyrch Archwilio eich Archif yw agor y casgliadau ac archifau gwych sy'n cael eu gwarchod gan sefydliadau - cyhoeddus a phreifat - ar draws y DU ac Iwerddon, beth bynnag fo'u maint, a ble bynnag y maent.
Mae'r ymgyrch yn eiddo i'r sector ei hun ac yn cael ei arwain gan ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys The National Archives (UK) a'r Gymdeithas Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon), ac yn cael ei gefnogi yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Archifau ledled Cymru yn dathlu ac yn arddangos y gorau o archifau a gwasanaethau archifol rhwng y 18fed o Dachwedd a 26ain o Dachwedd 2017.

Meddai’r gyflwynwraig ar ddarlledwraig Mari Grug:

"Mae ymweld â archifdy yn gallu mynd â chi ar antur ac efallai y byddwch chi'n dod o hyd i  lawer mwy nag yr oeddech chi'n ei ddychmygu. Mae Archifau'n galluogi pob un ohonom i ddarganfod y storïau, y ffeithiau, y lleoedd a'r bobl sydd wrth wraidd ein cymunedau "

Meddai Rhian Diggins, Uwch Archifydd Archifau Morgannwg:

“Mae Casgliad Archifau Morgannwg yn cynnig ffenestr i’r gorffennol, yn helpu ni i ddarganfod sut bu pobol fel ni yn byw eu bywydau yn yr oes a fu, ac yn adlewyrchu trawsnewidiad Morgannwg o gymuned wledig i gadarnle diwydiannol bu’n pweru’r byd.”

Mae archifau yn llawn cynnwys diddorol i ddarllen, cyffwrdd ac archwilio, ac nid yw'r rhan fwyaf ohono ar gael ar y wê. Cymerwch amser i archwilio archifau - byddwch chi'n rhyfeddu at beth sydd i’w ddarganfod.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn ffasiwn, chwaraeon, bwyd neu UFOs, bydd rhywbeth i'ch ysbrydoli mewn archifau. I ddarganfod mwy am archifau, a sut y gallwch chi ddechrau eich antur eich hun, ewch i www.exploreyourarchive.org.

Manylion Pellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau

Bydd y lansiad yn digwydd dydd Gwener 17 Tachwedd yn Archifdy Morgannwg rhwng 1.00 p.m a 3.00 p.m
RSVP vicky.jones@llgc.org.uk

Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i ymuno yn yr ymgyrch Archwilio eich Archif ar Twitter gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu eu storïau a'u lluniau gan ddefnyddio'r hashtag #ArchwilioArchifau.

Bydd hashtags dyddiol hefyd yn cael ei ddefnyddio:

Dydd Llun 20 Tachwedd: #FfasiwnArchifau
Dydd Mawrth 21ain Tachwedd: #ArchifauBlasus
Dydd Mercher 22 Tachwedd: #ArchifauBlewog
Dydd Iau 23ain Tachwedd: #DarganfodArchifau
Dydd Gwener 24 Tachwedd: #CaruArchifau
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd: #ArchwilioArchifau