Helpwch y Llyfrgell Genedlaethol i ddatgloi hanes cuddiedig y Rhyfel Mawr
31.07.2017
Heddiw, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) wedi derbyn £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer y prosiect ‘Datgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr’.
Wedi ei ddyfarnu drwy raglen Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw CDL, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar Gofnodion Tribiwnlysoedd y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi, sef y tribiwnlysoedd oedd yn ymdrin ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r Rhyfel (am resymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol).
Yn 1921, gorchymynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio cofnodion y tribiwnlysoedd; serch hynny, goroesodd cofnodion Sir Aberteifi. Erbyn hyn mae’r archif yn un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yng ngwledydd Prydain.
I goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Mawr , mae’r prosiect ‘Datgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr’ yn galluogi gwirfoddolwyr trwy Gymru i ddefnyddio adnodd ar-lein, a ddatblygwyd yn ddiweddar gan LlGC, i drawsgrifio a mynegeio’r cofnodion fel bod modd eu chwilio yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad, ayb. Bydd yr adnodd gorffenedig ar gael i ymchwilwyr, haneswyr teulu ac i un rhywun sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth y Rhyfel Mawr, ar wefan LlGC ac i ysgolion a cholegau ar wefan addysgiadol ‘Hwb’.
Mae cefnogaeth ariannol CDL yn galluogi staff a rhai o wirfoddolwyr LlGC i ymweld â chymunedau a chymdeithasau lleol yng Ngheredigion i rannu hanes y cofnodion ac i gynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r adnodd ar-lein, gan annog grwpiau i weithio gyda’i gilydd i gynnig cefnogaeth ymarferol ac i gymdeithasu. Bydd cyfle hefyd yn ystod y sesiynau gwybodaeth i rannu a chofnodi hanesion lleol ar lafar am y Rhyfel Mawr.
Wrth sôn am y dyfarniad, dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
" Nid yw hanes y rhai wnaeth geisio osgoi mynd i ymladd am ba bynnag reswm wedi cael sylw haeddiannol gan y rhai sy’n astudio hanes y Rhyfel Byd Cyntaf. Drwy haelioni Cronfa Dreftadaeth y Loteri bydd rhan o dreftadaeth guddiedig y rhyfel sy'n cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dod yn hygyrch i bobl Cymru a'r byd, yn awr ac i’r dyfodol.”
Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru,
"Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol, gan gyffwrdd pob cornel o'r DU. Drwy gyfrwng ein cronfa grantiau benodol, grewyd i gofio’r canmlwyddiant, rydym yn helpu cymunedau i gofio a thalu teyrnged i’r rheiny fu’n rhan ohono. Mae straeon rheiny na fu’n ymladd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol Prydain, a thrwy ddigideiddio yr unig gofnod sydd yn weddill yng Nghymru gellir sicrhau na fyddwn yn anghofio’r darn pwysig hwn o hanes.”
Os hoffech archebu sesiwn gwybodaeth, cysylltwch â Gwyneth Davies (Cydlynydd Gwirfoddolwyr LlGC) 01970 632991 neu gwyneth.davies@llgc.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, buddsoddwn arian i helpu pobl ledled gwledydd Prydain archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth sy’n golygu cymaint iddynt – o’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau ac adeiladau hanesyddol rydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery a #HLFsupported