Symud i'r prif gynnwys

HELP! - Ry’n ni’n cael ein meddiannu!

31.10.2017

Chredwch chi byth  ond os dewch chi draw i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth  ar Ddydd Iau Tachwedd 23ain, bydd plant wedi meddiannu’r sefydliad ac yn gwneud y gwaith y mae staff y Llyfrgell yn ei wneud fel arfer.

Mae'r gweithgareddau'n rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums, sef diwrnod pan fydd plant a phobl ifanc yn meddiannu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau celfyddydau drwy Gymru gyfan. Yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd disgyblion Ysgol Trimsaran, Llanelli yn cymryd cyfrifoldeb dros amrywiol dasgau yn gyhoeddus a thu ôl i’r llenni.

Plant Llanelli fydd yn stampio a didoli eitemau wrth iddynt gyrraedd y casgliad, cyrchu llyfrau ac eitemau eraill o’r casgliad ar gyfer darllenwyr, yn hongian arddangosfa, digido eitemau o’r casgliad, monitro diogelwch yr adeilad, gweithio yn y dderbynfa a thywys ymwelwyr o gwmpas ein arddangosfeydd.
Mae Kids in Museum yn elusen annibynnol sy’n gweithredu ar draws gwledydd Prydain i geisio gwneud amguddfeydd ac orielau yn llefydd mwy croesawgar i blant a theuluoedd.

Meddai  Rhodri Morgan, Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’n bleser gennym ddatgan y byddwn yn croesawu disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Trimsaran, Sir Gaerfyrddin i gymryd cyfrifoldeb am nifer o wasanaethau’r Llyfrgell Genedlaethol yn ystod y Diwrnod Meddiannu eleni. Byddwn yn trosglwyddo’r awennau iddynt ar ddydd Iau, Tachwedd 23ain, pan fydd rhai o drysorau pennaf Cymru yn eu gofal. Gobeithiwn gyflwyno profiad bythgofiadwy i’r plant, a fydd yn cynorthwyo eu dealltwriaeth o gasgliadau helaeth y Llyfrgell.”

Meddai Mrs Sharon Owen, Pennaeth Ysgol Trimsaran:

“Rydym yn hynod falch fod ein hysgol yn cael y fraint o gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae dysgu am hanes ein gwlad yn greiddiol i addysg disgyblion Ysgol Trimsaran, felly rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd daliadau y Llyfrgell i dreftadaeth Cymru.
Rwy’n siwr y bydd y profiad unigryw o ofalu am gasgliadau a gwasanaethau trysorfa ein cenedl yn un i’w fwynhau a’i drysori gan y plant, a bydd yn rhoi cyfle iddynt gynyddu eu hymwybyddiaeth o waith  un o sefydliadau pwysicaf Cymru”.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:

  • 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
  • 950,000 o ffotograffau
  • 60,000 o weithiau celf
  • 1.5 miliwn map
  • 7 miliwn troedfedd o ffilm
  • 40,000 o lawysgrifau
  • 250,000 awr o fideo
  • 1,900 metr ciwbig o archifau

Mae gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn rhad ac am ddim i ddinasyddion Cymru ac nid ydyw’n gwahaniaethu ar sail gallu neu anallu i dalu. Mae croeso i blant a phobl ifanc o bob cefndir i ddefnyddio’r Llyfrgell a defnyddio’i gwasanaethau, boed hynny drwy ddod i Aberystwyth neu ar-lein. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnal gweithdai mewn ardaloedd ar draws Cymru sy’n ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau, ac sy'n cyflwyno'i chasgliadau i bobl ifanc, rhieni ac athrawon. Trefnir y gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr addysg, a sefydliadau ac ysgolion unigol gyda'r nod o sicrhau bod cymaint â phosib o blant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa o weithio gyda chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.

Rhaglen Gyfuno Llywodraeth Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi rhaglen 'Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant' Llywodraeth Cymru. Menter ydyw sy'n cysylltu cyrff diwylliannol yn nes at ei gilydd drwy Ardaloedd Arloesi er mwyn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion. Mae’r rhaglen Cyfuno’n anelu at chwalu rhwystrau fel bod modd i bawb elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Trechu Tlodi Trwy Ddiwylliant

Ysgol Trimsaran, Llanelli
Creu awyrgylch o hapusrwydd, gofalgar ac ysgogol yw ein gweledigaeth. Awyrgylch sy’n hyrwyddo chwilfrydedd, brwdfrydedd, eiddgarwch a pharch lle bydd plant yn adnabod a chyrraedd eu potensial llawn.  Ddylai pob plentyn deimlo’n werthfawr ac yn falch o’u diwylliant a’u hetifeddwch er mwyn iddynt allu gwneud y cyfraniad gorau i gymdeithas.

Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo LlGC a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
  • Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r pum blaenoriaeth strategol yn Gwybodaeth i Bawb: Cynllun Strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2014 - 2017.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
  • Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.