Diffodd yr Awen: Edward Thomas & Hedd Wyn
21.02.2017
Ar y 18fed o Chwefror agorwyd arddangosfa Diffodd yr Awen: Edward Thomas & Hedd Wyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Gan mlynedd yn ôl bu farw dau fardd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr; Hedd Wyn ac Edward Thomas. Wedi eu geni dros bymtheg mlynedd a dau gan milltir ar wahân, cysylltir y ddau gan Gymru, barddoniaeth, natur a’r Rhyfel.
Adnabyddir Hedd Wyn fel ‘Bardd y Gadair Ddu’ wedi iddo ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw gyda’i awdl ‘Yr Arwr’, a hynny ar ôl ei farwolaeth. Cyfeirir at Edward Thomas yn aml fel un o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, a hynny er iddo gywasgu’i holl waith barddonol i mewn i’r ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Yn yr arddangosfa hon dathlwn eu bywyd, eu gwaith a’u hetifeddiaeth.
Bydd cyfle i weld copïau o awdl enwog Hedd Wyn, ‘Yr Arwr’, ac atgofion ffrind a chyd-filwr iddo, J. B. Thomas, am eu hamser yn y Fyddin, yn ogystal ag ar y ffordd mae ei stori wedi ysbrydoli awduron, beirdd a gwneuthurwyr ffilm.
Byddwn hefyd yn edrych ar effaith y rhyfel ar Edward Thomas drwy archwilio ei archif sylweddol, gan gynnwys y llythyrau anfonodd at ei wraig, Helen, yn disgrifio bywyd ar y ffrynt, yn ogystal â drafftiau o’i gerddi a’r dyddiadur olaf iddo gadw a oedd yn dal i fod yn ei boced pan fu iddo farw.
I gyd fynd â’r arddangosfa hon, cyflwynwyd cais llwyddiannus am nawdd i Gronfa ScottishPower Foundation i gefnogi prosiect Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell cydweithio gyda staff Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi eu lleoli yn yr Ysgwrn, i gyflwyno gweithdai i ddisgyblion cynradd ar fywyd a gwaith y bardd Hedd Wyn.
Bydd pob disgybl sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon yn derbyn llyfryn a gynhyrchwyd i gyd-fynd â’r gweithdai. Fel rhan o’r cynllun, comisiynwyd cwmni Mewn Cymeriad i gynhyrchu sioe a fydd yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell, Yr Ysgwrn ac mewn lleoliadau rhwng Penbedw a Thrawsfynydd i efelychu taith y Gadair Ddu yn dychwelyd ganrif yn gynharach o Eisteddfod Genedlaethol 1917. Bydd y nawdd yn galluogi replica 3D o’r Gadair Ddu i gael ei gludo i’w arddangos ar stondin y Llyfrgell ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â ffacsimili o awdl fuddugol Hedd Wyn, Yr Arwr, a fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y gweithdai.
Meddai Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae hi’n addas iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfa Diffodd yr Awen i goffau canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn ac Edward Thomas, dau fardd a fu farw ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cadw’r cof yn fyw”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Casgliadau Cysylltiedig
Digwyddiadau Cysylltiedig:
05.04.16
Edward Thomas and Wales – Dr Andrew Webb
Cedwir dyddiaduron a llawysgrifau’r bardd a’r llenor Edward Thomas (1878-1917) yn y Llyfrgell. Mae’r cyflwyniad yn cyd-fynd â’n harddangosfa sy’n nodi canmlwyddiant ei farwolaeth yn ystod Brwydr Arras. Bydd y sgwrs hon yn archwilio Edward Thomas fel llenor Cymreig, gan ystyried ei dreftadaeth Gymreig, ei gysylltiad ag unigolion gan gynnwys O.M Edwards, a’r ffyrdd y mae Cymru yn ysbrydoli ei ryddiaith a’i farddoniaeth.
Mynediad am ddim drwy docyn.
Clip Fideo:
Crewyd dwy ffilm fer i gyd-fynd â’r arddangosfa. Gwelir ‘Rhyfel’ gan Hedd Wyn a ‘Roads’ gan Edward Thomas yn cael eu darllen gan unigolion.