Symud i'r prif gynnwys

David Bailey - Dewch am dro i ganol byd natur

03.04.2017

Mae David Bailey, un o ffotograffwyr natur gorau’r Deyrnas Unedig, yn cyhoeddi casgliad trawiadol o ddelweddau yn ei gyfrol gyntaf, Wildlife Wanderer.  

I nodi’r cyhoeddiad bydd Dr Rhys Jones yn sgwrsio â David Bailey yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar 6 Mai.

Mae David Bailey yn chwilio’n ddyfal am rywogaethau a’u cynefinoedd a hefyd yn llawn consyrn a gofal am yr anifeiliaid mae’n tynnu lluniau ohonynt, gan ennill eu hymddiriedaeth a’r hawl i gofnodi eu mynd a’u dod.

Mae’n gwirioni ar wiwerod, ysgafarnogod, tylluanod, llwynogod a cheirw, ac mae ei gamera wedi dal nifer o ryfeddodau byd natur yng Nghymru a Lloegr.  Yn y llyfr ceir dros 50 o rywogaethau gwahanol, gan gynnwys dyfrgwn a dolffiniaid, draenogod a hebog glas, morloi a mwy.

Mae gan David Bailey ambell air o gyngor i ffotograffwyr byd natur, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer naturiaethwyr llai profiadol a digonedd o hanesion personol difyr am fywyd gwyllt yn y gyfrol.  


Yn y rhagair i Wildlife Wanderer, mae Dr Rhys Jones yn dweud fod “bywyd dyn camera byd natur yn bopeth heblaw yn glamyrys.  Dwi wedi treulio diwrnodau di-ri yn eistedd gyda Dave mewn lleoliadau anghysbell, gan rewi yn y gaeaf a chael fy mwyta’n fyw gan fosgitos yn yr haf.  Mae angen sgil, amynedd sant a lwc ar ddyn camera byd natur.  Ond dwi’n gredwr cryf fod pobl yn creu eu lwc eu hunain mewn bywyd ac mae gallu Dave i ddarllen y dirwedd, a’i ymchwil gyson i fywydau’r anifeiliaid, yn ei roi yn y man iawn ar yr adeg iawn i gael y ffotograff gorau.”

Meddai David Bailey “Dwi wedi bod yn dyst i rai golygfeydd rhyfedd wrth eistedd yn fy nghuddfan - cyplau’n caru, herwhelwyr a phobl yn gollwng cyffuriau.  Dwi wedi rhoi llond twll o ofn i ambell berson diniwed sydd wedi sefyll wrth fy nghuddfan, wrth i fi godi ‘mhen i ddweud helo.”
“Rwy’n gweithio mewn lleoliadau prydferth, yn delio gyda nifer o brosiectau ac ymddiriedolaethau gan brofi rhai o ryfeddodau byd natur na fydd rhai pobl byth yn eu gweld – a does byth y fath beth â diwrnod arferol.  Ac rwy’n ddiolchgar am hynny.  Dwi’n aml yn meddwl mod i’n un o’r bobl fwyaf lwcus ar y blaned, a’r llyfr hwn yw fy nghyfle i i rannu hynny gyda chi”.

Mae David Bailey yn uchel ei barch ac mae’n llawn arbenigedd a brwdfrydedd am ei faes.  Bu’n ddyn camera ac ymgynghorydd ar gyfres y BBC Rhys Jones’s Wildlife Patrol ac mae wedi ymddangos ar  Springwatch gyda Nick Baker. Enillodd wobr ‘Brand Laureate International Personality Award’ yn 2016 yn gydnabyddiaeth o’i ffotograffiaeth.   Mae’n byw bellach yng nghanolbarth Cymru – ac mae ganddo gysylltiadau â Dorset a’r New Forest hefyd.

Mae’r llyfr Wildlife Wanderer bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr Gwasg Gomer ar www.gomer.co.uk

Bydd digwyddiad yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Sadwrn, 6 Mai am 2 o’r gloch.  
Tocynnau (£6)  neu 01970 632 548.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk