Arthur ....... a Cerys!
17.07.2017
Cerys Matthews yn agor Arddangosfa Arthur a Chwedloniaeth Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch o gyhoeddi y bydd Cerys Matthews, Llysgennad Blwyddyn Chwedlau 2017 yn agor arddangosfa Arthur a Chwedloniaeth Cymru yn swyddogol, ar ddydd Mercher, 26 Gorffennaf am 2.00 p.m.
Meddai Cerys Matthews, Llysgennad Blwyddyn Chwedlau 2017:
“Mae’n fraint gen i agor yn swyddogol arddangosfa Arthur a Chwedloniaeth Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel Llysgennad Blwyddyn Chwedlau 2017, roeddwn wrth fy modd bod y Llyfrgell wedi dilyn thema Llywodraeth Cymru am eleni trwy lwyfannu’r arddangosfa hon, ac o ganlyniad, yn cynnig cyfle i’r gynulleidfa ddod i weld rhywfaint o gyfoeth o gasgliadau’r genedl, sy’n dathlu ein hetifeddiaeth. Anogaf chi i nodi’r gyrchfan hardd hon yng nghanol Bae Ceredigion fel rhywle i fynd yr haf hwn.”
Yn ein harddangosfa, Arthur a Chwedloniaeth Cymru, byddwn yn cwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar ein chwedloniaeth, ac yn cyflwyno'u storïau ar dudalennau llawysgrifau, ar gynfasau gweithiau celf a thrwy ein harchif sgrin a sain helaeth.
Y mae yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ddweud stori, neu 'grefft y cyfarwydd'. Mae'r Mabinogi, llên gwerin a mythau a hanesion lleol wedi bod yn rhan o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol o gyfnod cynnar iawn ac yn parhau felly hyd heddiw.
Mae Blwyddyn Chwedlau Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r rheswm perffaith i ni i ddwyn ynghyd trysorau'r genedl, rhai ohonynt sydd heb gael eu dangos yn gyhoeddus o’r blaen, mewn arddangosfa fawr sy’n rhychwantu Orielau Hengwrt a Gregynog.
Dywedodd Ken Skates Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:
"Yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau, mae'n bwysicach nag erioed i gysylltu pobl â threftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru. Bydd yr arddangosfa hon yn dod a chyfoeth ein straeon yn fyw ac yn rhoi cipolwg ar sut mae ein chwedlau wedi'u cysylltu i’n tirwedd ysbrydoledig”
Bydd Oriel Hengwrt yn arddangos rhai o drysorau Arthuraidd pwysicaf y Llyfrgell, o ymddangosiadau cynharaf y rhyfelwr enigmatig mewn llenyddiaeth Gymraeg, i orchestion ar lwyfannau Ewropeaidd o’r ddeuddegfed ganrif, trwy gyfrwng Sieffre o Fynwy yn History of the Kings of Britain . Bydd ymwelwyr yn cael cyfle unigryw i weld y Llyfr Aneirin, sy’n cyflwyno ymddangosiad cyntaf Arthur mewn unrhyw lenyddiaeth, ochr yn ochr â thrysorau canoloesol eraill fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Dewch i ddarganfod sut mae cymeriad o dras werinol wedi dal dychymyg y cyfandir, gan ddod yr enwocaf o'r holl frenhinoedd.
Mae’n addas fod Oriel Gregynog - yr oriel fwyaf a mwyaf mawreddog yng Nghymru - yn arddangos rhai o ddarnau celf a chasgliad clyweledol pwysicaf y Llyfrgell , sy’n adrodd hanes y Mabinogi a'r chwedlau sydd o'n cwmpas. Er bod llawer o'r chwedlau Cymreig yn cael eu clymu mewn hud a ffantasi, mae eu cysylltiad i leoliadau go iawn ar draws tirwedd Cymru wedi parhau i ysbrydoli artistiaid ar hyd yr oesoedd, ac yn yr arddangosfa hon byddwn yn crwydro drwy dirweddau chwedlonol Cymru fel sy’n cael eu portreadu ar gynfasau artistiaid megis JMW Turner, Margaret Jones, Ken Etheridge, a Kyffin Williams.
Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Hoffwn eich annog i ddod i ymweld â ni yma yn Aberystwyth i weld yr arddangosfa odidog hon. Dyma ben llanw misoedd o waith ymchwilio, paratoi a dehongli gyda’r nod o gynnig blas ar hanes cyfoethog chwedlau Cymru i’n cynulleidfa. Mae’r arddangosfa yn cynnwys enghreifftiau o rai o ddarnau celf a llawysgrifau pwysicaf ein cenedl; dyma gyfle gwych i’w gweld”.
Bydd yr agoriad swyddogol yn dechrau am 2:00 pm yn Ystafell y Cyngor, ac yna bydd stori fer o amgylch y pair hud yn Oriel Gregynog am 2:30 o'r gloch.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Arddangosfa:
Orielau Hengwrt a Gregynog
22.07-17 - 16.12.17
Llun - Sadwrn 9:30-17:00
#gwladgwlad
Agoriad Swyddogol:
26.07.2017
Bydd yr agoriad yn dechrau am 2:00 pm yn Ystafell y Cyngor, ac yna stori fer o gwmpas y pair hud gyda Cerys Matthews yn Oriel Gregynog am 2:30 o'r gloch.
Bydd cyfle am luniau a chyfweliadau i ddilyn.
post@llgc.org.uk RSVP neu 01970 632534