Symud i'r prif gynnwys

Archwilio eich Archif

03.11.2017

Bydd Archifau ledled Cymru yn dathlu ac yn arddangos y gorau o archifau a gwasanaethau archifol rhwng y 18fed o Dachwedd a 25ain o Dachwedd 2017.

Nod ymgyrch Archwilio eich Archif yw agor y casgliadau ac archifau gwych sy'n cael eu gwarchod gan sefydliadau - cyhoeddus a phreifat - ar draws y DU ac Iwerddon, beth bynnag fo'u maint, a ble bynnag y maent.
Mae'r ymgyrch yn eiddo i'r sector ei hun ac yn cael ei arwain gan ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys The National Archives (UK) a'r Gymdeithas Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon).

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae ymweld â archifdy yn gallu mynd â chi ar antur ac efallai y byddwch chi'n dod o hyd i  lawer mwy nag yr oeddech chi'n ei ddychmygu. Mae Archifau'n galluogi pob un ohonom i ddarganfod y storïau, y ffeithiau, y lleoedd a'r bobl sydd wrth wraidd ein cymunedau "

Ymunwch â ni ar Ddydd Mercher y 15fed o Dachwedd rhwng 10.00a.m a 3.30 p.m. am ddiwrnod llawn o ddigwyddiadau sy’n dathlu ein harchifau a’n casgliadau.
Bydd Sgwrs Oriel Ar Drywydd y Brenin Arthur gyda Maredudd ap Huw am 10.00 a.m. a Sgwrs Awr Ginio  Locating the Legends: Archaeological Tales from the Royal Commission’s Archives  i ddilyn am 1.15p.m.

Mae archifau yn llawn cynnwys diddorol i ddarllen, cyffwrdd ac archwilio, ac nid yw'r rhan fwyaf ohono ar gael ar y wê. Cymerwch amser i archwilio archifau - byddwch chi'n rhyfeddu at beth sydd i’w ddarganfod.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn ffasiwn, chwaraeon, bwyd neu UFOs, bydd rhywbeth i'ch ysbrydoli mewn archifau. I ddarganfod mwy am archifau, a sut y gallwch chi ddechrau eich antur eich hun, ewch i www.exploreyourarchive.org a www.llgc.org,uk

Manylion Pellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau

Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i ymuno yn yr ymgyrch Archwilio eich Archif ar Twitter @LLGCymru gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu eu storïau a'u lluniau gan ddefnyddio'r hashtag #ArchwilioArchifau.

Bydd hashtags dyddiol hefyd yn cael ei ddefnyddio:
Dydd Llun 20 Tachwedd: #FfasiwnArchifau
Dydd Mawrth 21ain Tachwedd: #ArchifauBlasus
Dydd Mercher 22 Tachwedd: #ArchifauBlewog
Dydd Iau 23ain Tachwedd: #DarganfodArchifau
Dydd Gwener 24 Tachwedd: #CaruArchifau
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd: #ArchwilioArchifau