Penodi Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
12.02.2016
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod Rhodri Glyn Thomas wedi’i benodi’n Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd Mr Thomas yn dechrau yn y swydd ar 6 Ebrill 2016 a bydd ei benodiadyn parhau am bedair blynedd.
Yn rhinwedd ei swydd bydd Mr Thomas yn hyrwyddo gwaith y Llyfrgell yma yng Nghymru a thu hwnt. Bydd hefyd yn cynrychioli’r Llyfrgell wrth iddi ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd Mr Thomas yn camu i lawr fel Aelod Cynulliad cyn etholiadau mis Mai. Yn ystod ei gyfnod fel AC bu’n Gadeirydd ar y Pwyllgorau Iechyd, Diwylliant a Materion Gwledig a hefyd yn Gomisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd ei benodi’n Weinidog dros Ddiwylliant o dan Lywodraeth Cymru’n Un ym mis Gorffennaf 2007.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Pleser yw cyhoeddi bod Rhodri Glyn Thomas wedi’i benodi’n Llywydd newydd y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd gan Rhodri brofiad helaeth i’w gyfrannu, ac yn arbennig ym maes diwylliant a threftadaeth, a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ac ehangu apêl y llyfrgell.”
Dywedodd Mr Rhodri Glyn Thomas AC:
“Braint fawr oedd cael cais i fod yn Llywydd ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n sefydliad hanfodol sydd wedi cyfrannu’n fawr at fywyd y genedl. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â staff a chefnogwyr y Llyfrgell er mwyn cefnogi ei dyfodol.”
Dywedodd Tricia Carter, Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Ar ran Bwrdd y Llyfrgell, rydym yn croesawu penodi Rhodri Glyn Thomas. Bydd ei brofiad a’i wybodaeth sylweddol yn cyfrannu’n fawr at waith y Bwrdd wrth iddo lywio cyfeiriad y Llyfrgell yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef.”
Bydd Rhodri Glyn Thomas yn dilyn yr Athro Syr Deian Hopkin fel Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Daeth cyfnod Syr Deian Hopkin yn y swydd i ben ar 30 Tachwedd 2015.