Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
05.12.16
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi croesawu adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru heddiw sy’n dangos bod y sefydliad wedi cymryd camau sylweddol tuag at wella ei threfniadau llywodraethu a rheoli a’i bod mewn lle da nawr ar gyfer cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Wrth groesawu’r adroddiad dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Pleser mawr yw derbyn adroddiad mor gadarnhaol a chalonogol gan Swyddfa Archwilio Cymru a chydnabyddiaeth gyhoeddus am y gwaith rhagorol sydd wedi’i gyflawni gan y staff a’r Ymddiriedolwyr yn ystod y ddwy flynedd diwethaf”.
“Mae’r heriau y mae’r Llyfrgell yn eu hwynebu’n gyffredin i bob corff cyhoeddus ac yr ydym wedi cydnabod ers amser bod yr angen i newid yn anorfod er mwyn medru goroesi a pharhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i bobl Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod y Llyfrgell wedi mynd i’r afael â’r heriau hynny mewn ffordd effeithiol ac effeithlon iawn. Yn wir, y mae nifer o argymhellion yr adroddiad eisioes ar y gweill neu wedi’u cyflawni.”
“Mae’r Llyfrgell mewn lle da iawn nawr wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol”.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 post@llgc.org.uk