Gwthio Ffiniau
13.04.2016
Ar 23 Ebrill 2016 bydd arddangosfa Gwthio Ffiniau yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae’r arddangosfa hon yn olrhain hanes mudiad Girlguiding Cymru o’i sefydlu yn 1910 hyd heddiw. Defnyddir ffotograffau ac eitemau gwreiddiol o archif Girlguiding Cymru ynghyd â chasgliadau’r Llyfrgell i edrych ar sut mae’r mudiad wedi gwthio’r ffiniau a dylanwadu ar fywydau merched ar hyd y blynyddoedd.
Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae hon yn arddangosfa hynod ddiddorol sy'n archwilio sut mae Girlguiding Cymru wedi dylanwadu ar feddylfryd pobl am yr hyn mae merched a menywod ifanc yn gallu ei gyflawni. Rwyf wrth fy modd fod y bartneriaeth gyda Girlguiding Cymru a Casgliad y Werin Cymru wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o waith y sefydliad gwych. "
Ychwanegodd Viv Craig, Dirprwy Brif Gomisiynydd Girlguiding Cymru:
"Mae Girlguiding Cymru yn hynod gyffrous am arddangosfa Gwthio Ffiniau sydd i'w gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae'n benllanw ar ddwy flynedd o waith mewn partneriaeth â’r Llyfrgell. Mae Girlguiding Cymru wedi elwa yn aruthrol o arbenigedd a gwybodaeth mae'r Llyfrgell wedi ei rannu – o ddatblygu a digido ein harchif, rhannu'r manylion ar wefan Casgliad y Werin Cymru, i ennill cymwysterau. Mae perthynas gref wedi cael ei chreu ac mae Girlguiding Cymru yn gobeithio y bydd yn parhau ac yn ffynnu ymhell i mewn i'r ddegawd nesaf. O ganlyniad i'r holl waith hwn, mae Arweinwyr wedi dod i werthfawrogi gwerth Llyfrgelloedd - ni allai Girlguiding Cymru fod wedi gwneud y gwaith hwn heb gefnogaeth y Llyfrgell.”
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cydnabod y bartneriaeth hon wrth i Girlguiding Cymru barhau i weithio gyda'r Llyfrgell i ddatblygu technoleg gyfredol gan ddefnyddio iBeacons ac apps i hyrwyddo treftadaeth 'Gwreiddiau Ifanc' mewn Geidio yng Nghymru.
Yn y sioe byddwch yn cael cyfle i weld:
- Rhai o'r gwisgoedd a wisgwyd gan ferched pan ddechreuodd y sefydliad gyntaf
- Pêl rygbi a gafodd ei gludo o gwmpas pob un o'r Siroedd Girlguiding cyn dechrau cwpan y byd y llynedd
- Sut mae merched heddiw yn ‘gwthio ffiniau’
- Tapestri sy’n darlunio Girlguiding drwy'r blynyddoedd, a wnaed gan Urdd Trefoil Cymru
Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol ar y 23ain o mis Ebrill gan Brif Gomisiynydd Girlguiding Cymru, Lesley Mathews.
Bydd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd tan y 3ydd o Fedi - dewch draw i ddysgu am sut mae Girlguiding Cymru wedi newid bywydau merched gan wthio ffiniau ar hyd y ffordd.
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Mae'r arddangosfa yn agored 23.04.16 i 03.09.16
Digwyddiadau cysylltiedig
#gwthioffiniau
Nodiadau i'r Golygydd
Girlguiding yw'r brif elusen ar gyfer merched a menywod ifanc yn y DU, gyda 559,996 o aelodau. Diolch i ymroddiad a chefnogaeth 100,000 o wirfoddolwyr anhygoel, rydym yn weithgar ym mhob rhan o'r DU, gan roi merched a menywod ifanc y cyfle i fod eu hunain, cael hwyl, meithrin cyfeillgarwch, datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth gadarnhaol i'w bywydau a'u cymunedau. Rydym yn rhoi cyfle i bawb ddarganfod eu llawn botensial. Rydym yn cynnal grwpiau Rainbows (5-7 oed), Brownies (7-10 oed), Geidiaid (10-14 oed) a’r Adran Hŷn (14-25 oed). Rhif Elusen Gofrestredig 306016. www.girlguiding.org.uk