Symud i'r prif gynnwys

Dolbadarn

Heddiw, 6 Hydref 2016, roedd disgyblion Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis yn guraduron ar gampwaith byd enwog fel rhan o brosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ariannwyd gan Sefydliad ScottishPower.

Cafodd y paentiad godidog o Gastell Dolbadarn gan Joseph Mallord William Turner, sy'n ganolog i gasgliad celf pwysig y Llyfrgell Genedlaethol, ei gludo i Lanberis ar gyfer y diwrnod, a’i arddangos yn yr ysgol. Y darlun enwog a drudfawr hwn oedd canolbwynt cyfres o weithdai celf ar dirluniau gyflwynwyd i ddisgyblion Ysgol Gynradd Dolbadarn ac Ysgol Uwchradd Brynrefail gan yr artist lleol ac athro, Dylan Roberts.

Wrth ddadorchuddio’r paentiad dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Jones, sy’n un o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae'r darlun hwn yn un o'r miloedd o drysorau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n medru cynnig mynediad i blant a phobl ifanc at hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae'r digwyddiad heddiw yn dangos yn glir sut y mae modd ddefnyddio casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i symbylu gwaith creadigol, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu a meithrin sgiliau newydd.”

Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell:

"Mae ein casgliadau celf cenedlaethol yn adnoddau allweddol ar gyfer cefnogi ysgolion ar draws Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle na fydd plant yn cael cyfleoedd i weld gweithiau mawr o gelf. Rwy'n benderfynol o sicrhau fod  casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol yn medru cael eu defnyddio gan ysgolion, i ysbrydoli a chefnogi, dysgu ac addysgu.”

Wrth weithio gyda’r darlun cafodd disgyblion y ddwy ysgol gyfle i ddysgu mwy am hanes a chyd-destun y darlun gan Turner, a bywyd a gwaith yr artist ei hun.

Prynwyd y paeintiad olew gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1998 ac mae’n darlunio’r eiliadau pan gafodd Owain Goch ei gipio gan ei frawd Llywelyn ap Gruffudd, a'i garcharu yn nhŵr Dolbadarn o 1255 tan 1277.

Dywedodd Bethan Wyn Jones, Pennaeth Ysgol Dolbadarn:

“Mae cysylltiad fel hyn yn wych i’r ysgol, ac yn cynnig cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth y disgyblion o waith a chasgliadau ein Llyfrgell Genedlaethol. Mae dod â champwaith pwysig i’r ysgol yn ffordd gyffrous o chwyddo brwdfrydedd y plant a’u hawydd i ddysgu am gelfyddyd Cymru. Bydd disgyblion Dolbadarn yn sicr o elwa o’r profiad eithriadol yma, ac edrychwn ymlaen at ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fuan i weld mwy o drysorau ein cenedl.”

Ychwanegodd Ann Loughery Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol Ymddirideolaeth ScottishPower:

“Mae hyn yn gyfle unwaith mewn oes i fyfyrwyr Ysgol Gynradd Dolbadarn ac Ysgol Uwchradd Brynrefail ac rydym yn falch iawn o fod yn chwarae rôl wrth wireddu hyn. Mae Ymddiriedolaeth ScottishPower yn ymroi i gefnogi pobl ifanc yn eu cymunedau lleol ar draws y Deyrnas Unedig er budd eu haddysg, felly rydym yn falch iawn o fod yn rhan o hyn”

Gwybodaeth Bellach

Elin –Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
#Dolbadarn

Nodiadau i Olygyddion

Partneriaid allweddol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:

  • 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
  • 950,000 o ffotograffau
  • 60,000 o weithiau celf
  • 1.5 miliwn map
  • 7 miliwn troedfedd o ffilm
  • 40,000 o lawysgrifau
  • 250,000 awr o fideo
  • 1,900 metr ciwbig o archifau

Mae gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn rhad ac am ddim i ddinasyddion Cymru ac nid ydyw’n gwahaniaethu ar sail gallu neu anallu i dalu. Mae croeso i blant a phobl ifanc o bob cefndir i ddefnyddio’r Llyfrgell a defnyddio’i gwasanaethau, boed hynny drwy ddod i Aberystwyth neu ar-lein. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnal gweithdai mewn ardaloedd ar draws Cymru sy’n ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau, ac sy'n cyflwyno'i chasgliadau i bobl ifanc, rhieni ac athrawon. Trefnir y gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr addysg, a sefydliadau ac ysgolion unigol gyda'r nod o sicrhau bod cymaint â phosib o blant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa o weithio gyda chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.

Sefydliad ScottishPower
Sefydlwyd Sefydliad ScottishPower (SPF) yn 2013 i gefnogi gwaith elusennol ar draws Prydain.
Mae’r Sefydliad yn darparu cefnogaeth ariannol i elusennau cofrestredig a sefydliadau di-elw at y dibenion canlynol:

  • hyrwyddo addysg;
  • hyrwyddo amddiffyn yr amgylchedd;
  • hyrwyddo’r celfyddydau, treftadaeth, diwylliant a gwyddoniaeth;
  • hyrwyddo lliniaru tlodi a chymorth i’r sawl sydd mewn angen am resymau anabledd neu anfanteision eraill;
  • hyrwyddo dinasyddiaeth a datblygu cymunedol.

Mae penderfyniadau am ddyrannu nawdd gan Sefydliad ScottishPower yn cael eu gwneud yn annibynnol o ScottishPower gan Fwrdd Ymddiriedolwyr.

Gwasanaeth Addysg LLGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo LlGC a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
  • Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r pum blaenoriaeth strategol yn Gwybodaeth i Bawb: Cynllun Strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2014 - 2017.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
  • Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.

Ysgol Gynradd Dolbadarn
Lleolir Ysgol Gynradd Dolbadarn (YGD) ym mhentref Llanberis wrth droed yr Wyddfa yng Ngwynedd, gogledd Cymru. Mae’n gwasanaethu ardaloedd gwledig Llanberis a Nant Peris. Mae’r 156 disgybl sydd yn yr ysgol yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â pholisi iaith Cyngor Gwynedd. Codwyd yr adeilad yn 1938 a bu unwaith yn ysgol uwchradd.

Mae’r ysgol yn dilyn thema Cestyll fel un o’r prif themâu eleni.

Ysgol Dolbadarn
Ffordd Capel Coch,
Llanberis,
Gwynedd,
LL55 4SH

Ysgol Uwchradd Brynrefail
Mae Ysgol Brynrefail (YB) yn ysgol uwchradd sy’n gwasanaethu cymunedau gwledig, gan gynnwys Bethel, Cwm y Glo, Waunfawr, Deiniolen, Llanberis, Llanrug a Penisarwaun. Mae 786 disgybl yn yr ysgol gartrefol a chyfeillgar hon. Dathlodd yr ysgol ei chanmlwyddiant yn y flwyddyn 2000.

Mae myfyrwyr dosbarth 6 yr ysgol yn astudio tirluniau Cymru fel rhan o’u cwrs Safon Uwch.

Ysgol Brynrefail
Llanrug
Caernarfon
Gwynedd
LL55 4AD

Castell Dolbadarn gan J.M.W.Turner
Mae J.M.W. Turner (1775-1851) yn cael ei gydnabod fel yr arlunydd tirlun pwysicaf yn hanes celf yng ngwledydd Prydain. Roedd yn mwynhau teithio i dynnu lluniau a chyfuno'r tirlun a'r golygfeydd a welai gyda hanes a chwedloniaeth yr ardal. Teithiodd ar hyd a lled Prydain a thir mawr Ewrop i weld a darlunio golygfeydd prydferth. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn nhirlun a phobl Cymru ac roedd yr amrywiaeth o fryniau, mynyddoedd a dyffrynnoedd mor agos at ei gilydd yn apelio'n fawr ato. Roedd hefyd yn hoff iawn o hanes rhamantus Cymru ac yn ymddiddori yn ei chwedlau a'i storïau.

Roedd Turner wedi darllen am hanes Cymru ac yn gyfarwydd â hanes y Tywysogion Cymreig a goresgyn Cymru. Daw hyn yn amlwg yn y darlun o Gastell Dolbadarn ble gwelir Owain Goch yn cael ei dywys i’r carchar yn y castell gan filwyr ei frawd Llywelyn ap Gruffudd.

Treuliodd Turner amser maith yn paratoi brasluniau a lluniadau o Gastell Dolbadarn ac roedd yn amlwg yn gweld testun y llun fel thema bwysig yr oedd angen rhoi llawer o feddwl iddi. Mae'r paentiad sydd yn y Llyfrgell yn ddarlun olew ar banel bychan o bren. Defnyddiodd Turner hwn i baratoi ar gyfer y gwaith olew ar gynfas llawer mwy gafodd ei gyflwyno i'r Academi Frenhinol yn 1800. Mae’r darlun olew o Gastell Dolbadarn yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.