Symud i'r prif gynnwys

Chwyldro/Revolution

01.09.2016

Cynhelir arddangosfa Chwyldro/Revolution yn Oriel Y Dyfodol, Bae Caerdydd rhwng y 6ed ar 29ain o Fedi 2016. Cyd-drefnir yr arddangosfa hon gan yr Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Prifysgol Cymru). Mae’n tynnu ar waith y prosiect AHRC, ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’.

Ceir yn yr arddangosfa gyffrous hon gyfoeth o ddeunydd, gair a llun, sy’n archwilio datblygiad trafodaeth wleidyddol yng Nghymru o’r 1790au hyd heddiw. Mewn llythyrau, baledi, pamffledi a lluniau o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae lleisiau o Gymru yn datgelu ymatebion amrywiol iawn i ddigwyddiadau yng Nghymru, Ewrop a gweddill y byd.

Honnodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams fod “cenedl” gyntaf y Cymry wedi ymddangos gyda’r chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig; a’r ddemocratiaeth Gymreig gyntaf hefyd.

Mae’r arddangosfa yn edrych ar ymateb Cymru i'r chwyldro Ffrengig. Ceir sôn am ddigwyddiadau'r chwyldro trwy  leisiau rhai o’r Cymry oedd yno, trafodaeth am y chwyldro yng Nghymru ac ymdrechion llywodraeth Prydain i geiso atal trafodaeth ar y syniadau radicalaidd.

Edrychir ar rai o brif themau trafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif sy'n dilyn gan ganolbwyntio ar ddemocratiaeth, hawliau merched, brwydrau llafur, rhyfel a heddwch, yr iaith Gymraeg, datganoli, ac ymateb Cymru i ddigwyddiadau rhyngwladol.

Trefnwyd dau ddigwyddiad i gyd-fynd â’r arddangosfa hon:

Nos Fercher 7fed o Fedi bydd lansiad gyda sgwrs gan yr Athro Damian Walford Davies (Prifysgol Caerdydd)

Nos Fercher 21ain Medi bydd digwyddiad a drefnir gan yr Archif Wleidyddol Gymreig gyda Elin Jones AC Ceredigion.

Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Gymreig a Chyd Guradur yr Arddangosfa:

“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn drysorfa o ddeunydd sy'n gwneud hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru yn fyw. Mae cymaint o bobl wedi cymryd rhan yn y stori hon trwy orymdeithio, protestio, streicio a phleidleisio i geisio newid y byd. Mae'r arddangosfa yn gyfle gwych i ni agor yr archifau i bawb weld y dadleuon a'r syniadau sydd wedi tanio ysbryd pobl Cymru dros y ddwy  ganrif ddiwethaf.”

Meddai Mary Ann- Constantine, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a chyd Guradur yr arddangosfa:

“Mor wych yw cael y cyfle hyn i osod deunydd adeg y Chwyldro Ffrengig mewn perspectif tymor hir; a chyfle amserol hefyd i weld Cymru ei hun mewn cyd-destun Ewropeaidd. Mae cyfoeth o straeon yn ymddangos yma mewn gair a llun: rhai yn llygad-dystion i ddigwyddiadau mawr, yn rhannu eu hymatebion trwy bregethau, areithiau a llyfrau; eraill, yn fwy personol, yn rhannu ofnau neu obeithion trwy lythyr, cerdd a chân. Diolch i archifau’r Llyfrgell, cawn weld syniadau gwleidyddol yn treiddio i fywydau pobl bob dydd.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

#Chwyldro
#Revolution

Archif Wleidyddol Gymreig

Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth Cymru. Cesglir cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi, ac effemera printiedig eraill, posteri a ffotograffau, gwefannau a thapiau rhaglenni radio a theledu.  Ni chyfyngir ei gweithgareddau i un adran o fewn y Llyfrgell.

Yn unol â Pholisi Datblygu Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn casglu papurau personol gwleidyddion sydd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl,  ac unigolion sydd â phroffil uchel oherwydd gwaith ymgyrchu ar faterion cenedlaethol neu ryngwladol.

Rydym yn casglu papurau Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, Aelodau Senedd Ewrop ac Arglwyddi os ydynt e.e. wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol, arweinydd plaid wleidyddol, gweinidog, cadeirydd pwyllgor blaenllaw.  Nid ydym fel arfer yn casglu papurau aelodau etholedig eraill na phapurau etholaethol.

 

Rydym yn casglu archifau cenedlaethol pleidiau gwleidyddol (e.e. Archifau Plaid Lafur Cymru) ond nid ydym bellach yn casglu archifau canghennau a rhanbarthau pleidiau gwleidyddol (e.e.  Cofnodion Plaid Lafur y Fenni)

Rydym yn casglu archifau carfannau pwyso cenedlaethol, a grwpiau  sy’n ymgyrchu ar faterion gwleidyddol o bwys cenedlaethol.

Rydym yn casglu effemera etholiadol o bob etholaeth yng Nghymru ar gyfer etholiadau a refferenda cenedlaethol gan gynnwys etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Nid ydym yn casglu deunydd yn ymwneud ag awdurdodau lleol.