Arlunwyr yn yr Archifau: Grŵp 56 Cymru yn dathlu 60 mlynedd
12.04.2016
Ar y 16eg o Ebrill 2016 bydd arddangosfa Arlunwyr yn yr Archifau: 60 mlynedd o Grŵp 56 Cymru yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae’r arddangosfa hon yn olrhain chwe deg mlynedd o Grŵp 56 Cymru, un o’r grwpiau artistiaid proffesiynol mwyaf hir-sefydlog i arddangos yng Nghymru. Mae’n cynnwys detholiad o archif eang y Grŵp a gyflwynwyd i’r Llyfrgell yn ddiweddar ynghyd â gweithiau celf, yn bennaf o gasgliad y Llyfrgell.
Meddai David Moore, Curadur yr arddangosfa:
'Rwyf wrth fy modd bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn archif bwysig y Grŵp. Mae’r archif wedi ei chadw yn dda oherwydd y diweddar Mary Griffiths a oedd yn ysgrifennydd am saith mlynedd ar hugain ac a fu’n ei chynnal gyda’r gofal mwyaf. Mae'r arddangosfa yn tynnu sylw at bŵer arddangos aruthrol y Grŵp, ymweliadau aml i'r Cyfandir a‘u rôl hanfodol wrth hyrwyddo‘r artist proffesiynol yng Nghymru. '
Sefydlwyd y Grŵp 56 gan ddarlithwyr o Goleg Celf Caerdydd, Eric Malthouse a David Tinker ynghyd â’r artist a’r pensaer Edmonds. Er ei fod yn ymwneud llawer â’r haniaethol, roedd y gwaith ar y cyfan yn fodernaidd a rhywfaint ohono yn ffigurol. Teimlai’r aelodau yn rhwystredig am y diffyg cyfleoedd i arddangos eu gwaith yng Nghymru. 'The need was felt', ysgrifennodd Tinker, 'to voice a clear radical point of view...'
Derbyniodd naw artist wahoddiad i ymuno: yr arlunwyr George Fairley, Robert Hunter, Heinz Koppel, Will Roberts, John Wright ac Ernest Zobole; yr arlunydd a’r lluniadaethwr Arthur Giardelli; a’r cerflunwyr Trevor Bates a Hubert Dalwood. Ac eithrio Roberts, roeddent oll yn ddarlithwyr celf a Brenda Chamberlain oedd yr unig un a wrthododd. Roedd y cyfle i arddangos yn dipyn mwy o atyniad na chylchrediad o ddatganiadau o fwriad.
Trwy un o gysylltiadau Giardelli, cynhaliwyd arddangosfa gyntaf y Grŵp yng Nghaerwrangon yn 1957 a theithiodd i Gaerdydd a Dinbych y Pysgod. Ar adegau, roedd ymateb y cyhoedd yn elyniaethus. Yn 1960, fandaleiddiwyd llawer o’r gweithiau yn yr Amgueddfa Genedlaethol, yr unig dro y bu’r holl aelodau gwreiddiol yn arddangos gyda’i gilydd.
Dros y degawdau, mae’r grŵp wedi newid ei gymeriad ac wedi cynnwys artistiaid sy’n gweithio mewn ystod o wahanol steiliau.
Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
'Rydym yn hynod ddiolchgar i Grŵp 56 Cymru am gyfrannu eu harchif i'r Llyfrgell Genedlaethol. Bydd yr arddangosfa yn deyrnged haeddianol i hirhoedledd y Grŵp ac yn ddathliad o’u cyfraniad 60 mlynedd i gelf yng Nghymru a thu hwnt.‘
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn arddangos gwaith celf gan y tri sylfaenwr: David Tinker, Arthur Giardelli ac Eric Malthouse, ochr yn ochr â gweithiau gan Jeffery Steele, Tom Hudson, Mary Lloyd Jones, Peter Prendergast, Shani Rhys James a Dilys Jackson. Mae ffotograffau o aelodau newydd wedi eu comisiynnu yn arbennig gan Tiff Oben hefyd yn cael eu cynnwys.
Yn yr arddangosfa, bydd cyfle i weld llythyr wedi'i lofnodi gan Yoko Ono a wahoddwyd i ddigwyddiad gan y grŵp ym 1968. Roedd y llythyr yn darllen “I’m sorry I have no idea what I’ll be doing, but I’ll be there. Fifty Pounds plus expenses will be alright.”. Er mawr cywilydd i’r grŵp – ni ddaeth i’r digwyddiad. Fe anfonodd limousine â gyrrwr yn cario ffotograff wedi'i lofnodi ohoni ei hun. Ymatebodd y grŵp drwy anfon ffotograff o'r siec o £50 wedi ei rwygo ati.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn 16 Ebrill gan Mary Lloyd Jones - y ferch gyntaf i ymuno â'r grŵp ar ddiwedd y 70au.
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632471 post@llgc.org.uk
Dyddiadau'r Arddangosfa
16 Ebrill – 10 Medi
Digwyddiadau Cysylltiedig
A Taste of the Avant - Garde: 56 Group Wales, 60 Years