Symud i'r prif gynnwys

Turner Torfaen

Heddiw, 23 Tachwedd 2015, roedd disgyblion Ysgol Gynradd Coed Eva, Cwmbrân yn guraduron ar gampwaith byd enwog fel rhan o brosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth ScottishPower fel rhan o Raglen Gyfuno Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio mynd i'r afael â thlodi drwy ddiwylliant.

Cafodd y paentiad godidog o Gastell Dolbadarn gan Joseph Mallord William Turner, sy'n ganolog i gasgliad celf pwysig y Llyfrgell Genedlaethol, ei gludo i Gwmbrân ar gyfer y diwrnod, a chafwyd digwyddiad annisgwyl a fynychwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru i fynd i’r afael â chelf a diwylliant drwy gysylltu cyrff diwylliannol yn agosach â cynllun Cymunedau yn Gyntaf.

Wrth ddadorchuddio’r paentiad dywedodd Ken Skates AC:

“Rwy’n credu y gall diwylliant, treftadaeth a celf chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl. Drwy gymryd rhan, mae’n annog pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, hunan hyder a dyhead, ac rydym yn darparu nifer o gyfleoedd newydd drwy ein cynllun Cyfuno.

Mae wedi bod yn fraint i glywed y plant yn adrodd am yr hyn maent wedi ei ddysgu , a gweld eu diddordeb a’u dychymyg yn goleuo wrth weld gwaith celf mor eiconic. Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn”

Bu disgyblion yr ysgol yn mwynhau tri gweithdy yn ystod y dydd dan arweiniad Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cawsant gyfle i weithio'n agos gyda'r darlun gwreiddiol, dysgu am ei hanes a'i bwysigrwydd a chlywed mwy am fywyd yr artist, JMW Turner. Cawsant hefyd gyfle yn y gweithdai i ymchwilio pwysigrwydd celf tirlun drwy weithio gyda chopïau digidol o waith celf y Llyfrgell Genedlaethol sydd ar gael am ddim ar-lein.

Prynwyd y paeintiad olew gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1998 ac mae’n darlunio’r eiliadau pan gafodd Owain Goch ei gipio gan ei frawd Llywelyn Ap Gruffudd, a'i garcharu yn nhŵr Dolbadarn o 1255 tan 1277.

Roedd y disgyblion wrth eu bodd pan gafodd y darlun gwerthfawr ei ddadorchuddio gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gall ein casgliadau celf cenedlaethol fod yn adnoddau allweddol ar gyfer cefnogi ysgolion ar draws Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle na fydd plant yn cael cyfleoedd i weld gweithiau mawr o gelf. Mae’r gweithdai sy'n cyd-fynd, yn cael eu cynllunio i gyfrannu'n uniongyrchol at gyflwyno'r cwricwlwm. Rwy'n benderfynol o sicrhau y gall ac y dylid defnyddio casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol gan ysgolion, i ysbrydoli a chefnogi, dysgu ac addysgu. "

Ychwanegodd Perminderjit K. Mudher, Cymunedau yn Gyntaf Torfaen:

"Mae'r cyfle i ddisgyblion, staff a rhieni yn Ysgol Coed Eva i weld Castell Dolbadarn Turner yn un i'w groesawu, ac sy'n cyd-fynd yn agos a rhaglen Ardal Arloesi Cymunedau yn Gyntaf yn Nhorfaen. Mae hyrwyddo celfyddyd, diwylliant a hanes yn thema allweddol fel y mae dulliau arloesol o fynd i'r afael â thlodi drwy ymgysylltu â'r celfyddydau a diwylliant. Rydym yn gobeithio y bydd y paentiad, sy’n fenthyciad arbennig gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu ysbrydoliaeth ac ennyn astudiaeth bellach."

Ychwanegodd Ann Loughery Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol Ymddirideolaeth ScottishPower:

“Mae hyn yn gyfle unwaith mewn oes i fyfyrwyr Ysgol Coed Eva ac rydym yn falch iawn o fod yn chwarae rôl wrth wireddu hyn. Mae Ymddiriedolaeth ScottishPower yn ymroddgar i gefnogi pobl ifanc yn eu cymunedau lleol ar draws y Deyrnas Unedig er budd eu haddysg, felly rydym yn falch iawn o fod yn rhan o hyn”

Gwybodaeth Bellach

Elin Hâf-01970 632471 neu post@llgc.org.uk
#TurnerTorfaen

Nodiadau i Olygyddion

Partneriaid allweddol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn gweithredu fel cof y genedl. Mae'n storfa o drysorau a ffeithiau, mae’n lledaenu gwybodaeth, mae’n leoliad, cyrchfan a lle i gadw'r gorffennol yn ddiogel ac ar gael yn hawdd i bawb gael mynediad, defnyddio a chael eu hysbrydoli nawr ac yn y dyfodol.

Fel un o sefydliadau cenedlaethol mawr Cymru ac wedi’i leoli yn Aberystwyth, mae’r Llyfrgell yn chwarae rhan ganolog yn niwylliant a threftadaeth. Mae’n un o'r chwe llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, ac mae casgliad Llyfrgell Genedlaethol yn enfawr ac yn amrywiol ac yn rhydd ei fynediad. Mae’r casgliad yn cynnwys 950,000 o ffotograffau, 150,000 awr o recordiadau sain, 250,000 awr o delweddau symudol, 25,000 o lawysgrifau, 50,000 gweithiau celf, 1,500,000 fapiau, yn ogystal â 6,000,000 o lyfrau. Mae mwy na 5,000,000 o eitemau unigol o gasgliadau hyn wedi eu digido ac ar gael am ddim ar y rhyngrwyd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cymryd rhan mewn rhaglen lawn a pharhaus o ddigwyddiadau cyhoeddus sy'n cynnwys arddangosfeydd parhaol a dros dro o ansawdd uchel gyda gweithgareddau addysgol a chyflwyniadau cysylltiedig. Mae'r rhain yn hanfodol i genhadaeth LlGC o ddehongli'r casgliadau ar gyfer annog cyfranogiad ystod eang o gynulleidfaoedd boed ar y safle, mewn lleoliadau allanol neu ar-lein.

Ymddiriedolaeth ScottishPower
Mae Ymddiriedolaeth ScottishPower (SPF) yn elusen gofrestredig. Mae'r Sefydliad yn darparu cyllid i elusennau cofrestredig a mudiadau di-elw at y dibenion canlynol:

  • hyrwyddo addysg
  • hyrwyddo gwarchod yr amgylchedd
  • hyrwyddo y celfyddydau, treftadaeth, diwylliant neu wyddoniaeth
  • atal neu leddfu tlodi a lleddfu rhai sydd mewn angen oherwydd anabledd neu anfantais arall
  • hyrwyddo dinasyddiaeth a datblygiad cymunedol.

Mae’r penderfyniadau i ddyfarnu cyllid gan y SPF yn cael eu gwneud gan fwrdd o ymddiriedolwyr annibynnol sydd â diddordeb arbennig yn y meysydd uchod. Yn 2015 dyfarnorr SPF nawdd i Wasanaeth Addysg y LlGC i gynorthwyo gyda'i rhaglen estyn allan gan gynnwys y prosiect Turner Torfaen.

Gwasanaeth Addysg LLGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel i hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r casgliad cenedlaethol trwy gwricwlwm yr ysgol.
  • cynyddu ymwybyddiaeth dysgwyr o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • hwyluso mynediad at wybodaeth i ddysgwyr ac addysgwyr a’u cynorthwyo i ddehongli'r wybodaeth honno.
  • cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o'r sefydliad a'i waith, mewn gwahanol rannau o Gymru.
  • cynorthwyo LlGC wrth gyflawni ei strategaethau a chyflawni ei amcanion.
  • cynhyrchu adnoddau digidol o ansawdd uchel i gynorthwyo gyda chyflwyno'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru, ac chyhoeddi'r rhain ar Hwb.
  • rheoli gwahanol brosiectau sy'n rhoi mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Ers 2007 mae Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaetho Cymru wedi bod yn mynd a chasgliadau'r Llyfrgell i ysgolion a chymunedau ledled Cymru fel rhan o'i raglen estyn allan. Mae'r prosiectau estyn allan yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill ac wedi eu teilwra'n unigol i ddiwallu anghenion y defnyddwyr hynny, yn ogystal â’u cynorthwyo i ddarparu'r sgiliau a chynnwys y cwricwlwm yng Nghymru.

Ysgol Gynradd Coed Eva
Mae Ysgol Gynradd Coed Eva (CEPS) yn ysgol gymunedol a sefydlwyd ym mis Ionawr 2009 yn dilyn cyfuno ysgol Babanod Coed Eva ac Ysgol Iau Coed Eva. Mae'n darparu gwasanaeth ar gyfer bechgyn a merched rhwng tair ac un ar ddeg oed, ac mae ar hyn o bryd dros 400 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae'r ysgol wedi'i lleoli mewn ardal breswyl o Cwmbrân sy'n cynnwys tai sy'n eiddo preifat ac eiddo chymdeithasol. Mae mwyafrif y dysgwyr yn mynychu'r ysgol yn byw yn yr ardal gyfagos er bod lleiafrif yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf dynodedig cyfagos. Ychydig iawn sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac nid oes yr un yn siarad Cymraeg yn naturiol. Mae'r ysgol yn addysgu Cymraeg fel ail iaith.

FUSION
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi polisi newydd arloesol gan Lywodraeth Cymru sef Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant. Menter ydyw sy'n cysylltu cyrff
diwylliannol yn nes at ei gilydd drwy Raglen Cymunedau'n Gyntaf er mwyn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion. Mae Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn chwe 'Ardal Arloesi' ledled Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant

Castell Dolbadarn gan J.M.W.Turner
Mae Joseph Mallord William Turner (1775-1851) yn cael ei gydnabod fel yr arlunydd tirlun pwysicaf yn hanes celf ym Mhrydain. Roedd gan Turner ddawn arbennig i gyfuno topograffeg, hanes rhanbarth a golygfeydd cyfoes o'i arsylwi ei hun.  Roedd pobl a thirwedd  Cymru o ddiddordeb mawr iddo yn ogystal a hanes rhamantus y wlad. Mae'n ymddangos ei fod wedi darllen am hanes Cymru ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn gorestyngiad canoloesol a gwrthryfeloedd Cymreig.