PWC Wedi'i Benodi i Gynnal Adolygiad Annibynnol
29 Ebrill 2015
Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Datganiad i’r Wasg
Rhyddhawyd: Ebrill 2015
PWC WEDI’I BENODI I GYNNAL ADOLYGIAD ANNIBYNNOL
Ar 13eg Mawrth 2015 cytunodd Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gomisiynu adolygiad annibynnol allanol mewn perthynas â gweithredu polisi disgyblu’r Llyfrgell ac â materion eraill a arweiniodd at wrandawiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Yn dilyn proses ddethol agored mae cwmni PwC wedi cael ei benodi i gynnal yr adolygiad annibynnol allanol hwn ac fe fydd yn cyflwyno ei ganlyniadau a’i argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf.
Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn nes bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi ystyried yr adolygiad.
Diwedd
Rhyddhawyd gan Alastair Milburn, Effective Communication, ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru
amilburn@effcom.co.uk
029 2083 8311
07813 857328