Dathlu bywyd ffotograffydd arloesol a newidiodd agwedd y cyhoedd tuag at Fietnam
DATGANIAD I'R WASG
18-6-2015
Mae arddangosfa newydd sy'n dathlu bywyd a gwaith y ffotograffydd Cymreig enwog, Philip Jones Griffiths, yn agor yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar 27 Mehefin.
Mae Griffiths, a fu farw yn 2008, yn enwog yn fyd eang am ei bortreadau o ddioddefaint y bobl gyffredin yn ystod y rhyfel yn Fietnam. Fe gyhoeddodd gyfrol ddylanwadol o'r delweddau hynny ym 1971, ‘Vietnam Inc.’, a helpodd wyrdroi'r farn boblogaidd am y rhyfel.
Bydd sleidiau a ffotograffau o'r llyfr ymhlith 100 o ddelweddau sy'n cael eu cyflwyno yn yr arddangosfa, Philip Jones Griffiths – Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch. Bydd enghreifftiau o'i waith cynnar a diweddar hefyd yn rhan o'r arddangosfa, yn ogystal ag eiddo personol Griffiths, megis ei gamerâu, papurau a thrugareddau eraill.
Mae'r arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol gan yr Arglwydd Dafydd Wigley ac mae'n parhau hyd at 12 Rhagfyr. Mae sawl digwyddiad yn cael ei gynnal fel rhan o'r arddangosfa.
Ar 14 Hydref, bydd sgwrs yn y Saesneg am waith Griffiths, gyda sgwrs yn y Gymraeg ar 21 Hydref. Gwaith Griffiths yw thema gŵyl ffotograffiaeth ddogfennol flynyddol y Llyfrgell, LENS, sy'n cael ei chynnal ar 7 Tachwedd.
Magwydd Griffiths ar aelwyd Gymraeg yn Rhuddlan, Sir y Fflint, ac fe hyfforddodd yn fferyllydd cyn troi at ffotograffiaeth. Erbyn y 1960au cynnar roedd wedi ennill ei blwyf fel ffotograffydd y wasg ac fe ymddangosai ei waith yn rheolaidd yn y papurau cenedlaethol. Ym 1966 fe deithiodd i Fietnam, lle deimlodd i'r byw ddioddefaint y trigolion, oedd yn ei atgoffa o’i gyd Gymry yn ei dref enedigol.
William Troughton sydd wedi curadu'r arddangosfa, sy'n cael ei chynnal ar y cyd gan y Llyfrgell ac Ymddiriedolaeth Philip Jones Griffiths. Meddai:
“Nid ffotograffydd rhyfel traddodiadol oedd Philip Jones Griffiths. Ei ddiddordeb pennaf oedd dangos effeithiau ac anghyfiawnderau rhyfel ar y trigolion cyffredin - mae ‘Vietnam Inc.’ yn glasur o gyfrol ac fe gafodd ddylanwad enfawr pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf.
“Roedd Griffiths yn paratoi'n fanwl a bydd yr arddangosfa yn bwrw golau newydd ar ei waith. Fe deithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa - i dros gant o wledydd - a bydd yr arddangosfa hefyd yn dathlu agweddau eraill ar ei yrfa ryfeddol."
Meddai Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Roedd Philip Jones Griffiths yn ffotograffydd o bwys rhyngwladol ac fe gafodd ei ddelweddau trawiadol ddylanwad enfawr. Fe deithiodd i bedwar ban byd, ond roedd ei wreiddiau'n gryf yng ngogledd ddwyrain Cymru ac fe siaradai'n aml am ei hiraeth.
“Roedd ei allu i uniaethu â phobl ar lawr gwlad ymhlith ei gryfderau niferus, ac ry'n ni'n falch iawn o gyflwyno'r arddangosfa newydd hon ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Philip Jones Griffiths.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hannah Thomas ar hannehelinor@googlemail.com neu 07810 794853 neu Lydia Whitfield yn Effective Communications ar LWhitfield@effcom.co.uk neu 07890 953402
Nodiadau’r golygydd
- Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar Allt Penglais, Aberystwyth. Mae arwyddion i’r Llyfrgell o’r brif ffyrdd i mewn i’r dref.
- Mae mynediad i’r Llyfrgell yn rhad ac am ddim. Mae’r Llyfrgell ar agor Llun-Gwener, 9.30am-6.00pm a rhwng 9.30am-5.00pm ar ddydd Sadwrn.
- Mae’r Llyfrgell yn gartref i archif Philip Jones Griffiths, sy’n cynnwys oddeutu 150,000 o sleidiau a 30,000 o brintiau.
- Mae mwy o wybodaeth am Philip Jones Griffiths ar Wicipedia