Colli’r Athro Geraint
Gyda thristwch ac ymdeimlad o golled ddifesur, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn y newyddion trist ac ingol am farwolaeth yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth, yng nghwmni ei deulu. Yn ddiamheuol, roedd yr Athro Geraint yn un o ysgolheigion mwyaf yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth. Rydym yn ei gofio’n arbennig heddiw fel Llyfrgellydd a phennaeth llwyddiannus a nodedig iawn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 1980 a 1985. Cyn hynny bu’n Athro'r Gymraeg yn Aberystwyth rhwng 1970 a 1979 ac yna'n Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn ystod y blynyddoedd 1985-1993.
Rydym nid yn unig yn cydymdeimlo'n fawr ag Eluned, ei briod, a'r teulu ond hefyd yn sylweddoli maint y golled hon i’r genedl gyfan yn ystod cyfnod lle y gwelwyd colli nifer o gewri diwylliant a dysg Cymru.
Aled Gruffydd Jones
Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr