Cofio Ysgol Gerdd Offerynnol Aberystwyth
DATGANIAD I’R WASG
Mai, 28ain
Bydd hanes rhyfeddol Ysgol Gerdd Offerynnol Aberystwyth yn cael ei gofio yn Niwrnod Gŵyl Gregynog, digwyddiad un-dydd arbennig a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.
Sefydlwyd yr Ysgol ym 1914 gan Gwendoline Davies, sydd, gyda’i chwaer Margaret, yn enwog am fod yn noddwr brwd o’r celfyddydau ac am gasglu ynghyd cyfres wych o baentiadau’r Argraffwyr a gyflwynwyd yn ddiweddarach i Amgueddfa Cymru.
Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog, Dr Rhian Davies, sy’n adrodd hanes byrhoedlog yr Ysgol – gan sôn am yr ymateb senoffobig a gafodd aelodau Pedwarawd Gaston Le Feuve o Baris a oedd yn arwain y garfan o athrawon – mewn sgwrs gyda lluniau am 2.30pm.
Bydd Pedwarawd Llinynnol Escher o Efrog Newydd yn talu teyrnged i Bedwarawd Gaston Le Feuve gyda rhaglen o gerddoriaeth Ffrengig o’r ugeinfed ganrif mewn cyngerdd sy’n cychwyn am 7.30pm.
Mae’r cyngerdd yn gyfle prin i glywed yr olaf o dair Pedwarawd Vincent d’Indy, cyfansoddwr ac athro cerdd Ffrengig a gydsefydlodd ysgol gerdd Schola Cantorum Paris. Fe ddylanwadodd d’Indy ar benderfyniad Gwendoline i sefydlu’r Ysgol gyda Gaston Le Feuve a’i gydweithwyr wrth y llyw.
Cyn hynny, am 4.00pm, bydd darlith yn gymysg â chyngerdd gyda’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn dwyn i gof holl fwrlwm sîn gerddoriaeth Paris ar droad y ganrif. Bydd Iwan yn perfformio gwaith Franck, Debussy a Ravel yn ogystal â seithfed Nocturne Fauré, a gyfansoddwyd yn Llandochau ym 1898.
Y pris mynediad ar gyfer darlith Dr Rhian Davies (2.30pm) a darlith/cyngerdd Iwan Llewelyn-Jones (4.00pm) yw £10.00; y pris mynediad ar gyfer cyngerdd Pedwarawd Llinynnol Escher am 7.30pm yw £15.00. Rhoddir gostyngiad o £5.00 ar gyfer y rheiny sy’n prynu’r ddau docyn. Gellir prynu tocynnau yn uniongyrchol o’r Llyfrgell, rhif ffôn 01970 632 800 neu drwy’r dudalen ddigwyddiadau
Mae Diwrnod Gŵyl Gregynog yn rhan o Ŵyl Gregynog, gŵyl gerdd glasurol hynaf Cymru. Eleni, seilir yr ŵyl ar themâu Ffrainc ac ysbryd ‘Chwyldro’.
Meddai Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae Gŵyl Gregynog yn dathlu ysbryd unigryw y Chwiorydd Davies ac mae’n bleser cydweithio â’r trefnwyr i gynnal y digwyddiad un-dydd hwn yn y Llyfrgell Genedlaethol.
“Yn ogystal â denu artistiaid rhyngwladol o fri i berfformio yng nghanolbarth Cymru, bydd cyfle i glywed mwy am hanes coll Conservatoire Aberystwyth ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r digwyddiad.”
Diwedd
- Mae Gŵyl Gregynog yn cael ei chynnal rhwng 12-28 Mehefin. Am fanylion llawn o holl gyngherddau, gweithdai, cyflwyniadau a digwyddiadau’r Ŵyl, ewch i wefan Gŵyl Gregynog
- Mae gan yr Ŵyl Statws Unigryw Croeso Cymru, sy’n arwydd o’i harwyddocâd diwylliannol ac economaidd i Gymru.
- Lansiwyd Gŵyl Gregynog gan Gwendoline a Margaret Davies yn Neuadd Gregynog, ger Y Drenewydd ym 1933.
- Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar Allt Penglais, Aberystwyth. Mae arwyddion i’r Llyfrgell o’r brif ffyrdd i mewn i’r dref.
- Mae’r Llyfrgell yn gartref i dros bedair miliwn o gyfrolau printiedig, gan gynnwys sawl llyfr prin megis y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Beibl cyflawn (1588).